6. Dadl ar Goridor yr M4 o amgylch Casnewydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:38 pm ar 25 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 4:38, 25 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Mae'r achos dros ffordd liniaru ar gyfer yr M4 o amgylch Casnewydd yn dal yn gryf, Gweinidog. Cafodd ei gynnig gyntaf yn ôl ym 1991, ac aeth i'r afael â phroblem tagfeydd nad yw wedi cael sylw priodol erioed. Yr M4 yw cyswllt strategol Cymru â gweddill y DU ac Ewrop, ond cawn ein gwasanaethu drwy ffordd ddeuol dila sy'n methu â chyrraedd safonau traffyrdd modern. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf gorfodwyd y darn hwn o ffordd i gau dros 100 o weithiau; mae 100,000 o gerbydau a mwy yn teithio ar yr M4 o amgylch Casnewydd bob dydd. Mae hyn yn cynyddu pan gaiff digwyddiadau mawr fel cyngherddau a gemau rygbi, pêl-droed a chriced eu cynnal, a bydd hynny'n digwydd eto pan gaiff y ganolfan gynadledda newydd yng Ngwesty'r Celtic Manor ei chwblhau. Wedi'i chyfyngu gan y twneli traffordd hynaf yn y Deyrnas Unedig, mae'r darn hwn o'r ffordd yn achosi cynnydd mewn allyriadau cerbydau, ansawdd aer gwael a damweiniau o amgylch Casnewydd.

Treuliodd arolygydd cynllunio'r Cynulliad Cenedlaethol ei hun fwy na blwyddyn yn ystyried yr achos dros lwybr M4 newydd i'r de o Gasnewydd. Gweinidog, ceir chwe chyffordd sydd mewn gwirionedd yn mynd i Gasnewydd, o amgylch Casnewydd, ac nid traffordd yw'r draffordd—mae'n debyg i ffordd igam-ogam o'i hamgylch. Mae'n draffordd araf; mae'n faes parcio o'i hamgylch. Roedd yr arolygydd yn gefnogol iawn o'r cynnig. Yn ei adroddiad, mae'n sôn yn fanwl am fanteision economaidd, amgylcheddol ac iechyd y prosiect. Eto i gyd, gwrthodwyd ei argymhelliad gan y Prif Weinidog. Roedd y penderfyniad hwn yn destun siom, dicter a rhwystredigaeth ymhlith y diwydiant a grwpiau busnes yng Nghymru. Dywedodd Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, a'u dyfyniad yw:

Mae hwn yn ddiwrnod tywyll i economi Cymru...Ni all tagfeydd a llygredd ffyrdd o amgylch Casnewydd ond cynyddu. Bydd twf economaidd yn cael ei fygu, bydd hyder yn y rhanbarth yn gwanhau a bydd cost ffordd liniaru yn y pen draw yn codi.

Dywedodd y Sefydliad Trafnidiaeth Cludo Nwyddau, yn eu dyfyniad:

Mae'r M4 yn ddarn hanfodol o seilwaith sydd â phwysigrwydd economaidd rhyngwladol, ond mae tagfeydd trwm yn ei ddifetha.

Dyfyniad arall ganddynt yw:

Mae'n rhwystredig y collwyd y cyfle i gyflawni'r buddsoddiad hanfodol hwn yn seilwaith de Cymru.

Ni all y sefyllfa ond gwaethygu. Mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld problemau gweithredol difrifol o ran tagfeydd o amgylch Casnewydd erbyn 2020. Mae dileu tollau pontydd Hafren, y rhagwelir hefyd y bydd yn chwistrellu dros £100 miliwn o weithgareddau economaidd i Gymru, wedi cynyddu tagfeydd. Dengys amcanestyniadau gan yr Adran Drafnidiaeth y disgwylir i draffig ar hyd yr M4 gynyddu bron 38 y cant dros y 30 mlynedd nesaf. Nid yw methu â gweithredu yn ddewis, Gweinidog. Mae angen inni edrych eto ar y dewisiadau eraill yn lle'r llwybr du.

Un dewis a ystyriwyd oedd gwella'r A48 presennol drwy uwchraddio'r gyffordd bresennol ar y llwybr sy'n amharu ar lif rhydd y traffig. Byddai hyn yn golygu pontydd a thanffyrdd newydd. Roedd cost y dewis hwn gryn dipyn yn llai na'r llwybr du. Oni allem ni edrych eto ar ddefnyddio cyfuniad o ffordd ddosbarthu ddeheuol yr A48 a ffordd yr hen waith dur i greu ffordd ddeuol o safon uchel a fyddai'n cael ei galw'n llwybr glas?

Mae llawer o'r traffig yn cael ei achosi gan gymudwyr yn mynd i neu o'r gwaith. Mae cynnig metro de Cymru yn gynllun uchelgeisiol i gael mwy o gymudwyr ar ein rheilffyrdd, ond mae'n gynllun hirdymor a fydd yn cymryd rhwng 10 a 15 mlynedd i'w gyflawni. Mae arnom ni angen dewisiadau ar gyfer y rheilffyrdd nawr. Mae arnom ni angen cysylltiad uniongyrchol rhwng Casnewydd a Glynebwy, Gweinidog. Mae angen inni sicrhau bod mwy o gymunedau, megis Magwyr a Gwndy, yn cael gorsafoedd rheilffordd.

Rwy'n gwybod y bydd y comisiwn a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn cyflwyno adroddiad ar ei ganfyddiadau dros dro gydag argymhellion ar gyfer ymyriadau ymarferol uniongyrchol o fewn chwe mis i'w ffurfio. Anogaf y Gweinidog i gadw at ei amserlen. Mae pobl y de-ddwyrain wedi aros yn ddigon hir am fynd i'r afael â phroblem tagfeydd ar yr M4. Nawr yw'r amser. Gweinidog, roedd hi'n wych eich clywed yn dweud ei bod hi'n bryd newid. Sut, pryd a pha ben o Gasnewydd? Ac rwy'n siŵr y byddwch yn gwneud eich gorau i sicrhau bod tagfeydd yn cael eu lliniaru, bod yr ochr amgylcheddol yn cael sylw a bod y wers wedi'i dysgu dros yr wyth neu'r naw mlynedd diwethaf o wastraffu amser ac arian yn yr ardal. Diolch.