Part of the debate – Senedd Cymru am 4:33 pm ar 25 Mehefin 2019.
Problem i Gymru, nid un yn ymwneud â Chasnewydd, fel y'i portreadir yn aml, yw'r broblem yn ymwneud â thwneli Bryn-glas. Fodd bynnag, credaf, heddiw, ei bod hi'n bwysig imi ganolbwyntio yn fy sylwadau ar yr hyn y mae'n ei olygu i Gasnewydd.
Rwy'n gwybod fy mod i mewn sefyllfa freintiedig. Rwyf wedi cael fy rhoi yn y Siambr hon gan bobl Gorllewin Casnewydd i gynrychioli fy ninas enedigol—y man lle cefais fy ngeni, fy magu a lle rwy'n byw. At ddibenion y ddadl heddiw, mae'n rhoi cipolwg i mi o'r hyn yw byw mewn dinas sydd â thraffordd yn rhedeg drwyddi. Nid yw'n fy ngwneud i yn arbenigwr ar drafnidiaeth, ond mae'n rhoi dealltwriaeth imi o'r problemau y mae pobl sy'n byw yng Nghasnewydd yn eu hwynebu bob dydd.
Yr M4, sy'n rhannu Casnewydd, yw'r ffordd a ddefnyddir fwyaf yng Nghymru. Mae'n rhan o'r rhwydwaith ffyrdd traws-Ewropeaidd ac mae'n hanfodol i economi Cymru. Mae'r ffordd yn rhoi mynediad i ddiwydiant, porthladdoedd, meysydd awyr, ac mae'n hanfodol i dwristiaeth. Dyma'r brif ffordd i Loegr ac i weddill Ewrop. Yn ei adroddiad, mae'r arolygydd yn disgrifio'r M4 fel y ffordd bwysicaf yng Nghymru. Nid yw darn Casnewydd o'r M4 yn bodloni gofynion modern. Noda'r adroddiad, a dyfynnaf:
'ceir tystiolaeth glir bod yr M4 yn cael ei llethu gan nifer annormal o uchel o ddigwyddiadau anrhagweladwy ac nad ydynt yn cael eu cofnodi, sy’n rhwystro neu’n atal trwybwn y draffordd gan achosi oedi, rhwystredigaeth, niwed economaidd, llygredd, anghyfleustra, amgyffrediad negyddol i’r ardal a dargyfeirio i ffyrdd trefol anaddas' yng Nghasnewydd drefol. Yn ystod yr wythnosau diwethaf yn unig rydym ni wedi gweld digwyddiadau pwysig yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd. Mae'r rhain yn bethau y dylem ni i gyd fod yn falch ohonyn nhw ac yn awyddus i'w denu. Fodd bynnag, gall pawb sy'n byw yng Nghasnewydd edrych i lawr ar y draffordd a gweld y tagfeydd y mae hyn yn ei achosi—nid tagfeydd yn cael eu hachosi gan drigolion Casnewydd yn unig. Gall hyd yn oed y ddamwain leiaf, heb sôn am unrhyw beth arall, gymryd oes i'w chlirio. Mae hyn wedi dwysáu ers i'r tollau gael eu dileu. Bob tro y bydd damwain neu dagfeydd difrifol wrth dwneli Bryn-glas, caiff traffig y draffordd ei wthio i ffyrdd lleol. Mae hyn yn creu tagfeydd, yn tagu'r ddinas ac yn mynd â mygdarth gwenwynig yn nes at gartrefi ac ysgolion.
Cefais fy magu mewn ardal sy'n dioddef yn ddifrifol o lygredd aer a achosir gan yr M4. Mae pedair ysgol dafliad carreg i ffwrdd. Mae plant yn cerdded wrth ochr y draffordd a thros y pontydd i gyrraedd eu hysgolion, gan anadlu'r llygredd aer a achosir gan y traffig segur rheolaidd. Mae topograffeg yr ardal yn gwneud hyn yn waeth, sy'n golygu na all tocsinau o'r draffordd wasgaru'n hawdd.
Mae'r ddadl heddiw yn rhoi cyfle arall imi fod yn glir ynghylch yr hyn yr wyf yn ei ddisgwyl gan y comisiwn. Rwy'n sylweddoli ei fod yn benderfyniad anodd, ac rwy'n parchu gwrthwynebiadau ecolegwyr. Fodd bynnag, fel y dywedais wrth ymateb i ddatganiad y Prif Weinidog, rhaid inni beidio â mynd yn ôl i'r cam cyntaf un. Byddaf yno bob cam o'r ffordd, yn craffu ac yn sicrhau bod barn pobl sy'n byw yng Nghasnewydd yn flaenllaw yng ngwaith y comisiwn. Mae'n hollbwysig y caiff yr arian a roddwyd o'r neilltu ei wario ar atebion i'r union beth hwnnw: i fynd i'r afael â'r mater penodol hwn yn ardal Casnewydd. Rhaid peidio â gwastraffu'r arian ar brosiectau ledled y wlad. Rhaid i'n dinas beidio â chael ei thagu gan dagfeydd.
Ni fydd syniadau megis cau cyffyrdd ar ddarn Casnewydd o'r M4 yn ateb. Bydd cau unrhyw gyffordd ar yr M4 yn gwneud bywyd yn anoddach i'm hetholwyr ac i'r rhai yng Nghaerffili, Torfaen a Rhisga, ymysg rhai eraill. Byddem yn croesawu trafnidiaeth gyhoeddus llawer gwell yn ardal Casnewydd, ac eto mae angen newidiadau radical a sylweddol. Er y byddwn yn annog y comisiwn i edrych ar ffyrdd newydd o wella ein system drafnidiaeth, ar y draffordd ac yng Nghasnewydd a'r cyffiniau, ni all ein dinas fod yn gyfrwng prawf yn unig. Mae angen inni weld gwahaniaeth pendant a chynaliadwy. Rydym ni wedi bod yn aros am ddegawdau am ateb i ffordd nad yw'n addas i'r diben.
Roedd adroddiad yr arolygydd yn manylu ar beryglon peidio â chael ffordd liniaru ar gyfer yr M4 i Gasnewydd a'r cyffiniau. Dyna pam y byddaf yn ymatal heddiw ar welliant 4. Rwy'n awyddus i gwrdd â'r comisiynydd ac i gyfleu barn a syniadau fy etholwyr. Gan fod penderfyniad wedi'i wneud erbyn hyn, rhaid i'r Llywodraeth fod yn benderfynol y gellir gwneud pethau nawr. Rhaid peidio â cholli golwg. Mae'r her yn fawr.