Part of the debate – Senedd Cymru am 4:58 pm ar 25 Mehefin 2019.
Addawodd maniffesto'r Blaid Lafur adeiladu ffordd liniaru ar gyfer yr M4. Nawr, Prif Weinidog, i ddefnyddio'r iaith y gwnaethoch chi ei defnyddio o'r blaen, rydych chi wedi bradychu'r ymrwymiad hwnnw. [Torri ar draws.] Ie, dyna beth a wnaethoch chi ddweud yn gynharach, onid e—'bradychu'? Dyna yr ydych chi wedi'i wneud. Efallai mai hwn oedd y prosiect seilwaith mwyaf pwysig a'r un mwyaf arwyddocaol a welwyd erioed yng Nghymru—