Part of the debate – Senedd Cymru am 4:52 pm ar 25 Mehefin 2019.
Amser maith yn ôl, pan oeddwn i mewn lle arall, mewn Siambr arall, yn ôl yn 2015, roeddwn yn cadeirio Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol San Steffan, ac fe wnaethom ni edrych ar fater maes awyr Heathrow. Ac ar y pwyllgor hwnnw roedd ystod o safbwyntiau—roedd yn bwyllgor cryf o 17—o amheuwyr newid hinsawdd digyfaddawd i ecolegwyr ac amgylcheddwyr digyfaddawd. Ond daethom i gasgliad diddorol ynglŷn â chynigion y Llywodraeth bryd hynny ynglŷn â Heathrow, sef, gallai, fe allai Heathrow fynd ymlaen, ond dim ond gyda'r newid moddol enfawr mwyaf digynsail—nid yn unig o ran teithwyr newydd yn teithio i Heathrow ond o ran teithwyr presennol, ac nid yn unig o amgylch Heathrow, ond yn yr ardal honno o orllewin Llundain—gan symud pobl allan o'u ceir, o'u dibyniaeth ar geir, i osgoi llygredd aer, ansawdd aer, cynhesu'r hinsawdd, ac ati, ac ati, ac ati. Felly, gallwch, fe allwch chi fwrw ymlaen, mae'n gyfle, ond rhaid ichi wneud hyn ar raddfa na welwyd ei math erioed o'r blaen. Mae'n rhyfedd, bellach, fod y Llywodraeth mewn gwirionedd yn dechrau arddel y ffordd honno o feddwl, dair blynedd yn ddiweddarach.
Sut mae hyn yn berthnasol yn y fan yma? Mae Jayne yn hollol gywir yn ei chyfraniad heddiw bod yn rhaid i waith y Gweinidogion ganolbwyntio'n bennaf ar Gasnewydd ei hun—beth a ellir ei wneud yn y dyfodol agos. Ac roedd datganiad y Gweinidog wrth wneud y penderfyniad ar hyn yn ei gwneud hi'n glir bod angen canfod atebion uniongyrchol o ran rheoli traffig, o ran gorfodi a chanfod ffyrdd o wneud yr hyn sy'n briodol, nawr. Ond dylai'r tasglu ei hun, yn y dyfodol, ganolbwyntio'n wir ar Gasnewydd, ar ardal ehangach Casnewydd. Ac mae'r cylch gorchwyl wedi ei lunio.
Ond mae yna fater pwysicach yma, a dydw i ddim yn credu y dylem ni gyfuno'r ddau. Dyna fyddwn i'n ei ddweud wrth Rhun ar hyn o bryd. Mae yna broblem fwy, yn ddi-os. Mae hwn yn fater sy'n ymwneud â Chymru gyfan. Mae'r hyn sy'n digwydd yng Nghasnewydd, o amgylch twnelau Bryn-glas, yn y parthau hynny o Gymru ar hyn o bryd, yn rhywbeth yr ydym ni'n mynd i'w weld fwyfwy. Rydym ni'n gweld hynny nawr, ym mhob man rhwng Pont Abraham a Phort Talbot. Dyna ble bydd y twf enfawr mewn tagfeydd—y rhai nesaf. Rydym ni'n mynd i weld tagfeydd yn y fan yna os nad ydym ni'n ymateb mewn modd craff iawn i'r heriau hynny. Bydd hynny hefyd yn wir yn y gogledd; bydd yn wir ym mhob rhan o Gymru. Nawr, mae hynny'n cynhyrchu—os mai dyna'r cwestiwn yr ydym ni'n ei ofyn, rydym ni'n dechrau meddwl am atebion gwahanol. Rhaid imi ddweud eu bod yn atebion sydd yn cynnig heriau, ond cyfleoedd economaidd mawr hefyd, os ydym yn dewis bwrw ymlaen â nhw.
Felly, yn gyntaf oll, mae hwn yn fater i Gymru gyfan—rhoddodd Jayne bwyslais mawr ar hynny. Mae'r M4 dan ei sang; mae llawer o rannau eraill o'n rhwydwaith ffyrdd felly hefyd. Felly, ai'r ateb yw adeiladu mwy a mwy a mwy a mwy o ffyrdd, ynteu ai'r ateb yw canolbwyntio mewn difrif calon ar y modd y gwnawn ni'r newid moddol anferth, digynsail hwnnw? Dydw i ddim yn sôn am agwedd rhyw hipi mewn sandalau 'oni fyddai hi'n wych pe byddem ni i gyd yn teithio ar feic?', er fy mod i wrth fy modd yn teithio ar fy meic.
Cawsom gyfarfod o'r grŵp teithio llesol y diwrnod o'r blaen yn y Senedd. Rhoddodd un o weithwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru gyflwyniad diddorol. Dywedodd petai chi'n rhoi powlen o ffrwythau o flaen pobl yn un o'r derbyniadau hyn y byddwn yn mynd iddynt yn aml yn y parthau hyn—dim ond powlen o ffrwythau gydag afalau a beth bynnag—ni fyddai'r rhan fwyaf o bobl yn eu dewis o gwbl. Fodd bynnag, petaech yn torri'r afalau'n ddarnau ac yn ei gwneud hi'n haws i bobl eu bwyta, byddent yn diflannu ar eu hunion.
Mae rhywbeth yn y fan yma sydd mor bwysig am y gwyddorau ymddygiadol ag ydyw am ddatblygiadau a newidiadau technolegol. Sut mae ei gwneud hi mor hawdd, mor atyniadol i bobl, fel eu bod yn codi'r afal hwnnw ac yn ei fwyta? Sut mae cyflwyno ac addasu ein trafnidiaeth gyhoeddus, ein cynnig newid moddol, fel ei fod yn hawdd ei ddefnyddio? Nawr, mae peth o hynny'n rhan o'r darlun ehangach hwnnw o feddwl, ac mae angen inni wneud hynny nawr yn ogystal â chanfod atebion ar unwaith ar gyfer Casnewydd a thwnelau Bryn-glas.
Felly, fe wnaf i gyflwyno rhai ohonyn nhw yn y fan yma, a phenderfynwch chi. Ar hyd coridor yr M4—holl goridor yr M4, nid twnelau Bryn-glas yn unig—pam na fyddem ni eisiau bod yn un o'r rhai cyntaf sy'n edrych mewn gwirionedd ar ddechrau cludo nwyddau ysgafn ar y rheilffyrdd ar raddfa enfawr, lle'r ydych chi mewn gwirionedd yn llwytho cynnyrch ar baledau? Felly, byddem yn cymryd cynnyrch Amazon o Abertawe a lle maent yn cael eu dosbarthu a byddem yn rhoi'r mecanweithiau cywir ar waith fel y gallwn ni symud faniau gwyn—ac mae lliwiau eraill ar gael, yn ôl a ddeallaf—oddi ar y rhwydwaith hwnnw. Rydym yn rhyddhau capasiti.
Pam na wnawn ni edrych ar leoedd ar hyd yr M4 cyfan ac allan i Avon a Bryste hefyd, lle nad parcio a theithio sydd gennych chi yng ngwir ystyr y gair, ond parcio a theithio ar gyfer rhannu ceir, fel bod pobl sy'n mynd i Gaerdydd, i Gasnewydd, o Ben-y-bont ar Ogwr, sy'n defnyddio'r twnelau hynny bob dydd, yn gwneud y dewis gweithredol, y dewis hawdd fel gyda'r afal—y darnau bach sydd wedi eu torri y gallwch chi eu rhoi yn eich ceg yn ddidrafferth—i eistedd yn y car gyda rhywun arall a sgwrsio wrth iddyn nhw fynd, neu, fel yr wyf fi yn ei wneud, i fynd ar y trên a gweithio wrth i chi wneud hynny? Sut allwn ni gael y dewisiadau hawdd hynny?
Bobl bach, roedd mwy gennyf i'w ddweud, ond mae fy amser wedi dod i ben yn barod. Ond dyna, rwy'n credu, yw'r hyn y mae angen i ni fod yn meddwl amdano nawr. Ar fyrder, rhaid inni ymdrin â thwnnel Bryn-glas yng Nghasnewydd, ond a ydym ni'n barod i wneud rhywbeth mor uchelgeisiol ag y mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi'i ddweud, a symud ein cyllid i'r meysydd lle gallwn ni ddylanwadu ar y newid moddol hwnnw—gwyddorau ymddygiadol hefyd ynghyd ag arloesedd trafnidiaeth? Dyna ein her yng Nghymru, ond mae'n gyfle hefyd, a gallwn greu swyddi wrth wneud hynny.