Part of the debate – Senedd Cymru am 5:18 pm ar 25 Mehefin 2019.
Credaf ei fod yn gam pwysig i'r Llywodraeth ddod â'r ddadl hon gerbron heddiw. Fel y nodwyd sawl gwaith yn ystod y pythefnos diwethaf, mae'r cwestiwn hwn o sut i ddatrys problem yr M4 wedi plagio pob plaid wleidyddol a phob haen o Lywodraeth ers degawdau. Yn amlwg, mae angen inni nawr greu ateb a all ennill cefnogaeth y rhan fwyaf o bobl yn y Siambr a'r rhan fwyaf o bobl ledled Cymru.
Mae tri phrawf rwy'n credu y bydd angen i ddull o'r fath eu pasio cyn y gallwn ni adfer hygrededd llawn y broses hon, ac mae'r rhain yn dri phrawf y mae angen i ni eu hystyried os ydym ni eisiau canfod ateb sy'n cael cefnogaeth fwyafrifol ac y gellid ei gyflawni. Rhif un, y prawf Brexit; rhif dau, ystyried hon yn broblem i Gymru, nid problem i Gasnewydd; ac yn olaf, rhif tri, ymdrin â'r byd fel y gwelwn ni ef heddiw nid fel y byd dymunem iddo fod.
Rwyf eisiau dechrau gyda'r pwynt olaf yn gyntaf gan ei fod yn ymdrin â phryderon gweithwyr a chyflogwyr fel ei gilydd yn fy etholaeth ac mewn bwrdeistrefi cyfagos sydd, fel minnau, yn cael eu dal yn rheolaidd mewn traffig ar yr M4 neu o'i hamgylch. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud hyd yn oed pe bai wedi cymeradwyo'r llwybr du, ni fyddai unrhyw liniaru ar unwaith, efallai nid am bum mlynedd. Mae hyn wedi ei wyntyllu'n huawdl, ond mae hefyd yn tanlinellu'r angen am newidiadau a all sicrhau effaith barhaus a chyflym, lle y bo hynny'n bosib, ar siwrneiau pobl sydd angen defnyddio'r ffordd hon. A dyna yr wyf yn ei olygu wrth ymdrin â'r byd fel y mae heddiw, nid fel yr hoffem iddo fod. Mae angen i bobl ddefnyddio'r ffordd hon ddydd ar ôl dydd, oherwydd nid oes dewis arall ar gael i filoedd o bobl sy'n ennill bywoliaeth ac yn ceisio cael bywyd teuluol. Nid yw effaith gwastraffu oriau yn sgil problem seilwaith fwyaf aneffeithlon Cymru yn un economaidd yn unig, mae'n cael effaith ar iechyd meddwl, lles ac amser teuluol hefyd. Dyma'r prawf i'r comisiwn newydd: darparu atebion sydd, ie, yn ymdrin â phryderon amgylcheddol, ond hefyd yn cyflawni newid yn gyflym, newid sy'n cydnabod y penderfyniadau mewn bywyd go iawn a'r diffyg dewis sy'n wynebu pobl sy'n defnyddio'r llwybr hwn. Byddem ni i gyd yn hoffi gweld ateb glân, gwyrdd, aml-foddol i broblemau trafnidiaeth Cymru, ond mae hynny'n ddegawdau o waith, nid pum mlynedd. Felly, beth yw'r ateb uniongyrchol?
Yn ail, mae wedi bod yn rhy hawdd o lawer i bobl wfftio'r angen dybryd i leihau tagfeydd yn yr ardal hon fel problem yng Nghasnewydd, neu os ydynt yn hael iawn, problem yng Ngwent. Credaf fod hon yn ffordd afiach iawn o ymdrin â'r ddadl oherwydd, yn y bôn, gan mai hon yw ein gwythïen drafnidiaeth fwyaf hanfodol i gysylltu â gweddill y byd, mae hon yn broblem i Gymru, nid problem Casnewydd. Byddwch wedi clywed yr ystadegau fil o weithiau, felly ni wnaf i eu hailadrodd nhw nawr. Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd y llwybr hwn i economi ein gwlad. Ond mae problem arall ynghylch y math hwn o ymagwedd, sef y cynsail y mae'n ei osod. Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw hwn—Cymru gyfan. Nid welwch chi wleidyddion yn neidio i fyny ac i lawr yn wfftio pwysigrwydd y ffordd osgoi £135 miliwn rhwng Caernarfon a'r Bontnewydd gan mai problem i Wynedd yn unig ydyw, neu'r degau o filiynau a werir ar ffordd osgoi Llandeilo gan mai problem Sir Gaerfyrddin yn unig ydyw, ond mae wedi bod yn dderbyniol i rai wfftio hon fel problem Casnewydd a chredaf fod hynny'n anghywir. Mae'n rhy hawdd cyflwyno honiad ynglŷn â rhagfarn ddaearyddol o blaid enillion gwleidyddol lleol, boed hynny'n ymwneud â gogledd-de, dwyrain-gorllewin, neu wledig-drefol, mae gwleidyddion o bob plaid yn gwneud hyn ac nid yw o gymorth o gwbl. Mae gwahaniaeth rhwng ymladd dros eich ardal a gosod cymunedau yn erbyn ei gilydd. Pobl o Gasnewydd a Gwent yw'r rhai sy'n dioddef fwyaf oherwydd y tagfeydd, ond nid yw hynny yr un fath ag edrych ar hyn fel blaenoriaeth ranbarthol. Yn ddiamau, mae'n flaenoriaeth genedlaethol. Ac i'r perwyl hwnnw, gobeithiaf y bydd y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol yn chwarae rhan fawr yn y camau nesaf.
Yn olaf, mae'n rhaid i'r cynigion newydd basio'r prawf Brexit. Mae gwahanol sectorau yn ein heconomi'n cael eu hymestyn mewn gwahanol ffyrdd yn sgil y posibilrwydd o adael yr UE, efallai hyd yn oed gadael heb gytundeb. Mae hyn yn cael ei deimlo o ddifrif yn y sector modurol eisoes, lle mae danfon dim-ond-mewn-pryd yn rhan hanfodol o'r gwaith llwyddiannus. Mae'r diwydiant ceir a gweithgynhyrchu yn fwy cyffredinol yn chwarae rhan enfawr yng nghyfansoddiad economaidd a chymdeithasol Torfaen ac rydym wedi brwydro am flynyddoedd i wneud hynny'n gynaliadwy yn wyneb heriau newydd, yn lleol ac yn fyd-eang. Ni allwn ni fforddio gadael i ragor o rwystrau gael eu gosod yn y sector hwn. Mae angen inni dawelu meddwl ein gweithgynhyrchwyr, yn ogystal â'n cymudwyr drwy ddatgan ein bod yn barod i weithredu i gyflawni'r tri phrawf hyn: bod yn arloesol, bod yn gyflym a rhoi anghenion seilwaith y genedl hon uwchlaw plwyfoldeb a phleidgarwch. Diolch.