Part of the debate – Senedd Cymru am 5:12 pm ar 25 Mehefin 2019.
Rwy'n gobeithio ac rwy'n credu bod y prynhawn yma yn nodi dadl ar yr M4 ble buom ni'n trafod atebion iddi mewn gwirionedd ac nid dim ond yn ailadrodd dadleuon ynghylch a fyddem yn cefnogi un ai'r llwybr du ynteu'r llwybr glas. Os meddyliaf yn ôl i'r dadleuon yr wyf wedi cymryd rhan ynddynt ac wedi gwrando arnynt yn y lle hwn dros y degawd diwethaf, yn y bôn buont yn ddadleuon, nid ar y materion sy'n wynebu trafnidiaeth coridor yr M4 yn ne-ddwyrain Cymru ond dadleuon ar y llwybr du, a chredaf fod y dadleuon hynny wedi mynd i'r afael â'r materion anghywir. Cytunaf â'r rheini yn y ddadl hon—cytunaf â Jayne Bryant a chyda Huw Irranca-Davies, sydd wedi dweud bod y problemau sydd gennym ni'n sicr wedi eu canolbwyntio ar Gasnewydd a'r cyffiniau, ond mae'n rhaid i'r atebion ganolbwyntio ar Gasnewydd ac o amgylch Casnewydd a mannau eraill. Ac yn sicr, wrth edrych ar rai o'r materion hyn, mae'n amlwg i mi nad yw'n ddigon i gyfeirio at yr M4 ei hun yn unig, pwyntio bys at y tagfeydd traffig, a dweud, 'Dyna'r broblem.' Credaf fod y broblem yn mynd ymhellach na hynny.
Deallaf a chytunaf nad yw'r M4 presennol yn addas at y diben bellach, ond eto nid yw'r seilwaith rheilffyrdd yn yr ardal chwaith, na chwaith y rhwydwaith cefnffyrdd na'r system drafnidiaeth gyhoeddus sy'n gwasanaethu cymunedau yn y de-ddwyrain nac yn galluogi pobl i deithio drwy'r ardal yn rhan o daith hirach. Felly, mae angen mynd i'r afael â'r materion penodol hyn ond mewn ffordd llawer ehangach. Felly, rwy'n croesawu'r cyhoeddiad gan y Prif Weinidog ynghylch sefydlu'r comisiwn i edrych ar ymateb ehangach a mwy sylweddol, a gobeithiaf y bydd y Gweinidog, wrth ymateb i'r ddadl heddiw, yn gallu rhoi rhagor o wybodaeth inni am yr amserlen a'r gyllideb sydd ar gael i'r comisiwn hwn. Fe sylwais yn ei sylwadau agoriadol yn gynharach iddo ddweud na fyddai'r £1.4 biliwn ar gael i'r comisiwn, ond credaf fod angen inni ddeall faint o arian sydd ar gael i'r comisiwn, ac mae angen inni ddeall hefyd beth yw'r amserlen ar gyfer ei atebion.
Ond pan edrychwn ni ar y sefyllfa a fu dros y blynyddoedd diwethaf, mae gennym ni ddadansoddiad cynhwysfawr o gapasiti, nid yn unig y system draffyrdd, cefnffyrdd a rhwydwaith lleol a rhanbarthol ond hefyd capasiti'r rhwydwaith rheilffyrdd, ac mae gennyf i, Llywydd, rai pryderon gwirioneddol ynghylch gallu'r rhwydwaith rheilffyrdd i gyflawni'r swyddogaeth y disgwylir iddo ei chyflawni gan lawer, sef darparu dewis arall yn lle trafnidiaeth ffyrdd. Ac rwyf wedi clywed beth sydd wedi cael ei ddweud y prynhawn yma, ond dydw i ddim wedi fy narbwyllo bod gennym ni'r rhwydwaith rheilffyrdd yn y rhan hon o'r wlad sy'n gallu gwireddu'r uchelgeisiau a'r gweledigaethau sydd wedi'u hamlinellu heddiw ac ar adegau eraill. Rwy'n gobeithio, Gweinidog, y byddwch yn gallu perswadio'r Arglwydd Burns i siarad â Keith Williams ynghylch pwysigrwydd a brys datganoli buddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd, a buddsoddi mewn signalau, mewn gorsafoedd, a sicrhau bod gennym ni'r gwasanaethau y mae arnom ni eu hangen ar y seilwaith y mae ei arnom ni ei angen. Ac, wrth wneud hynny, rwy'n gobeithio y byddwn ni hefyd yn gosod rhai amcanion clir iawn wrth ddatrys y problemau hyn ac yn sefydlu rhwydweithiau trafnidiaeth amgen.
Un o'r rhesymau pam roeddwn yn gwrthwynebu'r llwybr du oedd yn sicr oherwydd y niwed amgylcheddol ac ecolegol rhyfeddol y byddai wedi'i achosi, ac er budd beth? Pan edrychais ar y mapiau gwres economaidd hynny, a gwelais yr effaith ar Flaenau Gwent, fe oerodd fy ngwaed oherwydd roeddem ni'n mynd i wario £1.4 biliwn ar ffordd na fyddai'n cael unrhyw effaith o gwbl ar yr economi a'r tlodi yn un o ardaloedd tlotaf Cymru. A pham fyddem ni'n gwneud hynny? Pan edrychaf ar y materion dan sylw, a phan edrychaf ar yr atebion y bydd y Comisiwn yn eu darparu ac yn eu datblygu, byddaf yn ystyried yr effaith economaidd ar y rhanbarth cyfan ac nid dim ond edrych ar effaith gyfyng iawn ar hyd coridor yr M4 yng Nghaerdydd, Casnewydd a Bryste. Os ydym ni'n gwneud buddsoddiadau o'r math hwn, credaf fod yn rhaid cael effaith economaidd ehangach.
Y pwynt olaf yr hoffwn ei wneud yn y ddadl hon heddiw yw hwnnw am gysylltedd rhanbarthol ac ar integreiddio gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus. Rydym ni'n canolbwyntio yn y ddadl hon, ac rydym ni'n canolbwyntio'n rhy aml yn ein dadleuon, ar y seilwaith caled, ar y buddsoddiad yn y rheilffordd neu ar ffordd, neu le bynnag y mae'n digwydd bod. Ond rwyf eisiau ein gweld ni'n buddsoddi hefyd yn y gwasanaethau a fydd yn galluogi trafnidiaeth gyhoeddus i fod yn ddewis realistig i bobl yn union fel y disgrifiodd Huw Irranca-Davies yn gynharach. Yn rhy aml o lawer ym Mlaenau Gwent rydym ni'n gweld llai o wasanaethau bysiau ac nid mwy o wasanaethau bysiau. Nid ydym ni'n gweld yr un brys o ran buddsoddi mewn gwasanaethau rheilffyrdd ychwanegol y mae rhannau eraill o rwydweithiau'r Cymoedd yn ei weld. Ac o'r herwydd, mae llawer o'r bobl yr wyf yn eu cynrychioli yn gwrando ar areithiau am deithio llesol ac yn gwneud y dewisiadau hyn gydag ymdeimlad o anghrediniaeth oherwydd, yn syml, nid yw'r gwasanaethau hynny ar gael i ni.
Felly, gobeithiaf y gwelwn ni'r buddsoddiad y mae ei angen arnom ni yn y seilwaith, a fydd yn rhoi ateb mwy o lawer ac ateb gwell i'r cwestiynau yr ydym ni'n eu hwynebu. Ond gobeithiaf hefyd, wrth fuddsoddi yn y seilwaith, y byddwn hefyd yn buddsoddi mewn gwasanaethau bysiau, yn buddsoddi mewn gwasanaethau rheilffyrdd, a hefyd, Gweinidog, yn manteisio ar y ddeddfwriaeth yr ydych chi'n ei hystyried ar hyn o bryd o ran rheoleiddio trafnidiaeth gyhoeddus i sicrhau bod gennym ni awdurdod teithio neu weithrediaeth yn y de-ddwyrain wedi ei sefydlu drwy statud i reoli'r broses o integreiddio gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.
Bydd pobl yn gwybod fy mod yn anghytuno â diddymu Cynghrair Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru pan ddigwyddodd hynny ar y pryd, a chredaf ers hynny ein bod wedi gweld gostyngiad gwirioneddol yng nghysylltedd y gwasanaethau trafnidiaeth sy'n gwasanaethu cymunedau'r de-ddwyrain. Ac os ydym ni am gyflawni'r uchelgeisiau yr wyf yn cytuno â hwy ac a gafodd eu rhannu y prynhawn yma, yna mae angen i ni reoli'r gwasanaethau trafnidiaeth hynny yn ogystal â dymuno'u cael nhw. Diolch.