Part of the debate – Senedd Cymru am 6:40 pm ar 26 Mehefin 2019.
Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod yn ceisio cyflwyno dull newydd unigryw i Gymru o hyrwyddo a diogelu cydraddoldeb, cyfiawnder cymdeithasol a hawliau dynol. Rydym yn gwneud hynny, wrth gwrs, o fewn cwmpas ein cymhwysedd cyfreithiol. Rhaid i'r camau a gymerwn fod yn gydnaws â rhwymedigaethau rhyngwladol, fel y'u nodir yn adran 82 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae'r rhwymedigaethau hyn yn cynnwys saith Confensiwn y Cenhedloedd Unedig a lofnodwyd ac a gadarnhawyd gan wladwriaeth sy'n barti y DU. Mae adran 81 o Ddeddf Llywodraeth Cymru hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru weithredu'n gydnaws â'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol, fel y'i hadlewyrchir yn ein cyfraith ddomestig gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998. Rydym yn cymryd rhan lawn ym mhroses adrodd y Cenhedloedd Unedig ac yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwaith craffu, adborth ac arweiniad gan bwyllgorau'r Cenhedloedd Unedig. Yn ei gyfamod yn 1966, cydnabu Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol, er mwyn rhoi safon byw ddigonol i ddinasyddion, fod angen iddynt gael tai addas yn ogystal â digon o fwyd, dillad a gwelliant parhaus yn eu hamodau byw. Ac roedd y gwladwriaethau sy'n barti hynny, gan gynnwys y Deyrnas Unedig, a gadarnhaodd ac a fabwysiadodd y cyfamod, yn cytuno â'r nod hwn wrth iddynt ymrwymo iddo.
Er y gall ymddangos yn rhyfedd fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig, hyd yma, heb ymgorffori'r cyfamod mewn cyfraith ddomestig, ni ddylai hynny ein rhwystro rhag gweithio yn ysbryd y cyfamod yma yng Nghymru. Dylai caniatáu i ansicrwydd a diffyg urddas barhau i gael eu dioddef gan bobl heb dai neu heb dai digonol ar gyfer eu hanghenion fod yn destun pryder i bawb ohonom fel cymdeithas wâr. Mae ymrwymiad y Llywodraeth hon i'r egwyddor sylfaenol fod gan bob un ohonom hawl i gael tai digonol a chynaliadwy yn ganolog i'r dyheadau y ceisiwn eu gwireddu, ac mae'n dda gweld y consensws trawsbleidiol a fynegir yma eto, ond a fynegir yn aml yn y Siambr hon, wrth inni drafod y mater pwysig hwn.
Felly, yn strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru 'Ffyniant i Bawb', rydym wedi cydnabod tai fel blaenoriaeth allweddol, gan nodi'n bendant ein bod yn deall rôl cartref fforddiadwy o ansawdd da i sicrhau ystod eang o fuddion o ran lles, iechyd, dysgu a ffyniant. Mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i ddarparu tai cymdeithasol newydd ac i wneud hynny ar raddfa fawr ac yn gyflym. Deallwn y rôl allweddol y gall tai cymdeithasol ei chwarae yn sicrhau bod teuluoedd ac unigolion yn gallu cael gafael ar gartrefi fforddiadwy o ansawdd da a all fod yn sbardun iddynt allu sicrhau dyfodol llwyddiannus. Mae tai cymdeithasol yn gofyn am lefel uwch o gymhorthdal gan y Llywodraeth, ond rhaid i hyn fod yn flaenoriaeth i ni, gan gefnogi'r rhai lle gall ein buddsoddiad gael yr effaith fwyaf. Rydym wedi gwneud buddsoddiad mwy nag erioed o £1.7 biliwn mewn tai yn ystod y tymor Cynulliad hwn. Mae hwn yn swm sylweddol, sy'n cael effaith enfawr ar ddarparu tai cymdeithasol.
Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn am gyfraniad Mike Hedges y prynhawn yma ar fynd i'r afael â'r angen am dai a phwysigrwydd tai cymdeithasol. Wrth gwrs, mae tai cymdeithasol nid yn unig yn darparu tai o ansawdd, ond hefyd y cymorth sydd ei angen i sicrhau y gall pobl gadw eu tenantiaethau a ffynnu, a dyna pam nad yw Cymru erioed wedi troi ei chefn ar gefnogaeth i dai cymdeithasol ers iddi ddod i fodolaeth. Yn wir, yn Lloegr, mae'r ddarpariaeth o gartrefi ar gyfer rhent cymdeithasol wedi gostwng 81 y cant ers 2010.
Yn ogystal â hyn, mae gennym raglen dai arloesol a chronfa gofal integredig. Unwaith eto, ceir llawer o gonsensws ar draws y pleidiau, gyda David Melding yn enwedig yn croesawu hynny. Wrth gwrs, maent wedi cefnogi adeiladu o leiaf 1,300 o gartrefi, gan helpu i gyflawni'r uchelgeisiau hyn. Ceir heriau parhaus o ran darparu'r nifer o gartrefi sydd eu hangen ar gyfer y farchnad a'r sector tai fforddiadwy, ond rydym yn rhoi camau ar waith yma yng Nghymru i ddarparu'r cartrefi sydd eu hangen arnom, ac rydym yn parhau i fod yn ffyddiog y cyrhaeddwn ein targed o 20,000 o dai fforddiadwy gyda chymorth ein partneriaid yn ystod y tymor Cynulliad hwn.
Ond mae'n fwy na nifer y cartrefi a adeiladwn, mae'n ymwneud hefyd â'r modd y sicrhawn eu bod o ansawdd uchel, ac yma mae ein buddsoddiad yn safon ansawdd tai Cymru yn sicrhau bod llawer o'n pobl fwyaf diamddiffyn yn byw mewn cartrefi gweddus, ac mae angen i'r cartrefi hynny hefyd fodloni anghenion cenedlaethau'r dyfodol a bod yn agos at fod yn ddi-garbon, gan helpu'r amgylchedd a thynnu teuluoedd allan o dlodi tanwydd. A dyna pam ein bod wedi gosod uchelgeisiau sylweddol i hybu datgarboneiddio ar draws holl ddeiliadaethau'r stoc dai bresennol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod cyfraith dai Cymru yn addas ar gyfer y dyfodol drwy ddiweddaru'r gyfraith dai mewn dull cydlynol a chynhwysfawr. Mae cychwyn Deddf Tai (Cymru) 2014 wedi cyflwyno gwelliannau arloesol ar gyfer atal digartrefedd, gan ddarparu ar gyfer cofrestru a thrwyddedu landlordiaid ac asiantiaid yn y sector rhent preifat drwy Rhentu Doeth Cymru. Yn ogystal, bydd gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, sy'n symleiddio ac yn egluro trefniadau cytundebol, a Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 yn lleihau'r gost i denantiaid wrth rentu cartref yn breifat, yn enwedig ar y dechrau.
Mae pwynt Dawn, sef y dylai mynediad at dai digonol gael ei gydnabod fel hawl ddynol, yn mynd y tu hwnt i'n ffin genedlaethol yn unig, ac fel y cyfryw mae'n codi materion o dan y setliad datganoli. Rwy'n falch o ymateb i hyn gyda fy nghyfrifoldeb gweinidogol dros gryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol, ac i weithio gyda chi i fwrw ymlaen â hyn. Rydym yn gweithredu i wneud Cymru'n decach, gan ddechrau drwy gychwyn y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol i gydnabod effaith tlodi mewn perthynas ag agweddau eraill ar gydraddoldeb. Yn unol â hyn, rydym yn bwrw ymlaen â gwaith i ymchwilio i opsiynau i ddiogelu cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, ond rydym hefyd yn comisiynu ymchwil i archwilio opsiynau ehangach, a gallwn ystyried hyn yn nhermau'r ymchwil honno. Byddwn yn cynnwys y modd yr ymgorfforwn y confensiwn ar hawliau pobl anabl a chytundebau rhyngwladol eraill yng nghyfraith Cymru, ac rydym wedi ymgysylltu â'r Athro Hoffman ynglŷn â hyn.
Byddwn yn arfer dull cynhwysol mewn perthynas â nodweddion gwarchodedig, gan bwyso ar yr holl dystiolaeth sydd ar gael, a thynnwyd sylw at yr union fater hwn yn y gwaith a gomisiynwyd gan Tai Pawb mewn cydweithrediad â Shelter Cymru a Sefydliad Tai Siartredig Cymru gan yr Athro Simon Hoffman, athro cyswllt ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei adroddiad dichonoldeb ar gyfer cyflwyno hawl i dai digonol, a lansiwyd ddydd Mawrth diwethaf, yn werth ei ddarllen, ac yn bwerus, ac nid oes amheuaeth gennyf y bydd Julie James yn ystyried yr astudiaeth ddichonoldeb yn fanwl, sut y mae'n cyd-fynd â'r gwaith yr ydym eisoes yn ei wneud, ac rwy'n gobeithio sicrhau Dawn ac Aelodau eraill y Cynulliad heddiw ein bod, wrth aros i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ymgorffori cyfamod y Cenhedloedd Unedig ar hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yn ffurfiol mewn cyfraith ddomestig, yn cydnabod tai fel mater sylfaenol i sicrhau lles ein dinasyddion. Rydym hefyd yn gweithio'n galed o fewn ein cyfrifoldebau datganoledig i adlewyrchu'r hawliau hyn yn y polisïau a'r ddeddfwriaeth a grëwyd gennym ac y byddwn yn parhau i'w creu. Diolch.