Y Cynllun Buddsoddi i Arbed

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 26 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP 2:30, 26 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Sylwaf fod y cynllun buddsoddi i arbed wedi buddsoddi tua £174 miliwn ers 2009. Sylwaf hefyd fod Betsi Cadwaladr yn derbyn dros £3 miliwn ar hyn o bryd. O ystyried bod buddsoddi i arbed yn fenthyciad di-log ac yn ad-daladwy, a chan fod ein gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn wynebu trafferthion ariannol, sut ydych chi'n sicrhau bod y symiau sy'n ddyledus yn cael eu had-dalu, ac a yw'r cynllun wedi cyrraedd ei darged mewn unrhyw ffordd o ran yr arbedion a sicrhawyd?