2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru ar 26 Mehefin 2019.
1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effeithiolrwydd y cynllun buddsoddi i arbed? OAQ54110
Ers 2009, mae'r cynllun buddsoddi i arbed wedi buddsoddi £180 miliwn mewn dros 190 o brosiectau ar draws Cymru gyfan. Mae'n parhau i roi cymorth ariannol i wasanaethau cyhoeddus Cymru a sefydliadau'r trydydd sector i'w helpu i wella eu gwasanaethau a darparu canlyniadau gwell ar gyfer y bobl y maent yn eu gwasanaethu.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Sylwaf fod y cynllun buddsoddi i arbed wedi buddsoddi tua £174 miliwn ers 2009. Sylwaf hefyd fod Betsi Cadwaladr yn derbyn dros £3 miliwn ar hyn o bryd. O ystyried bod buddsoddi i arbed yn fenthyciad di-log ac yn ad-daladwy, a chan fod ein gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn wynebu trafferthion ariannol, sut ydych chi'n sicrhau bod y symiau sy'n ddyledus yn cael eu had-dalu, ac a yw'r cynllun wedi cyrraedd ei darged mewn unrhyw ffordd o ran yr arbedion a sicrhawyd?
Diolch i chi am ofyn y cwestiwn hwnnw. Mae gan y portffolio o brosiectau buddsoddi i arbed ystod eang iawn o broffiliau ad-dalu. Ar gyfer prosiectau cyffredinol, chwe blynedd yw'r proffil ad-dalu hiraf, ac mae sawl un yn fwy na hynny. Fodd bynnag, gellir ad-dalu prosiectau effeithlonrwydd ynni, er enghraifft, o fewn wyth i 10 mlynedd. Ond fel y dywedaf, mae'n dibynnu ar y prosiect. Ond gallaf eich sicrhau bod gan y gronfa gyfradd adennill o 100 y cant hyd yma, ac na chafwyd unrhyw ddyledion drwg ers creu'r gronfa yn 2009.
Mae'r gronfa buddsoddi i arbed wedi bod yn llwyddiannus dros gyfnod o amser, ond mae'n ymwneud yn bennaf â buddsoddiadau diogel, sy'n sicr, neu bron yn sicr, o gynhyrchu arbedion. Law yn llaw â hynny, cyflwynwyd rhaglen fwy uchelgeisiol arloesi i arbed—rhywbeth y gofynnais amdano dros nifer o flynyddoedd. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effeithiolrwydd y cynllun arloesi i arbed, ac a oes unrhyw brosiectau wedi bod mor llwyddiannus fel bod cyrff eraill wedi eu mabwysiadu?
Diolch i Mike Hedges am godi hynny; mae wedi bod yn hyrwyddo buddsoddi i arbed ac arloesi i arbed ers tro byd. Lansiwyd y fenter arloesi i arbed rhwng Llywodraeth Cymru, Nesta, Prifysgol Caerdydd a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ym mis Chwefror 2017 gyda chyllideb o £5.8 miliwn. Ym mis Mawrth eleni, ychwanegwyd £0.5 miliwn ychwanegol gennym at y gyllideb, i'w chodi i £6.3 miliwn. Mae'n wahanol i'r gronfa buddsoddi i arbed gan nad yw'r taliad yn arian grant ad-daladwy ar gyfer prosiectau sydd wedi'u dewis i fynd drwy'r cam ymchwil a datblygu. Mae cymorth anariannol ar gael gan Nesta ar gyfer rheoli prosiectau, ac mae cymorth ymchwil ar gael gan Brifysgol Caerdydd. Mae ffocws gwirioneddol yno ar syniadau sydd ar wahanol gamau i'r gronfa buddsoddi i arbed. Mae'r rhain yn brosiectau y mae angen ymchwilio iddynt a'u profi er mwyn asesu a yw'r canlyniadau a ragwelir yn debygol o gael eu cyflawni ai peidio. Yn rownd 1 y rhaglen gwelwyd tri phrosiect yn cael eu cymeradwyo ar gyfer cyllid benthyciad, ac un ohonynt oedd Leonard Cheshire, a enillodd £1 filiwn i gyflwyno eu model gofal newydd i bobl sy'n derbyn taliadau uniongyrchol. Mae Fabric, yn Abertawe, wedi dechrau prynu eiddo ar gyfer gweithredu eu llety cam-i-lawr â chymorth rhannol i bobl ifanc dros 18 oed sy'n gadael y system gofal. Mae Llamau hefyd yn cynnal trafodaethau gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus i roi model ariannu newydd a mwy cynaliadwy ar waith er budd y bobl y maent yn eu gwasanaethu. Yn sicr, mae prosiectau yno y gallem ystyried eu huwchraddio maes o law, a byddwn yn dysgu llawer iawn o'r gwaith y mae'r prosiectau hynny'n ei wneud ar hyn o bryd.
Nid oes unrhyw drafodaeth ar fuddsoddi i arbed yn gyflawn heb gwestiwn gan Mike Hedges—rwy'n meddwl eich bod wedi gofyn cwestiwn yn ei gylch bob tro y mae wedi codi. Weinidog, credaf fod hwn yn un o'r materion hynny a dderbynnir gan bawb ar draws y Siambr fel syniad da ar y cyfan, ac mae gan fuddsoddi i arbed a'i olynydd rôl enfawr i'w chwarae yn cyfrannu at arbedion mewn llywodraeth leol a chynhyrchu mwy o arian. Ond rwy'n credu fy mod yn iawn i ddweud bod Gweinidogion, yn 2014, bum mlynedd i mewn i'r cynllun, wedi comisiynu ymchwil gymdeithasol gan y Llywodraeth i gynnal gwerthusiad annibynnol o'r gronfa buddsoddi i arbed. Ac er bod arbedion yn gyffredinol, canfu'r ymchwil nad oedd arbedion wedi'u sicrhau mewn rhai meysydd yn ôl y disgwyl. A chan fod 10 mlynedd bellach ers dechrau'r prosiect, a chan edrych ar gynlluniau olynol, tybed a ydych yn bwriadu comisiynu unrhyw ymchwil annibynnol arall i ddarganfod lle mae'r cynllun wedi gweithio a'r meysydd y gellir eu gwella?
Wel, fel y dywedwch, cafwyd rhywfaint o ymchwil—astudiaeth annibynnol mewn gwirionedd—yn 2014, a ddaeth i'r casgliad fod y gronfa, ar gyfartaledd, yn cynhyrchu budd o £3 am bob £1 a werir ar y cynllun hwnnw. Un cwestiwn sy'n cael ei ofyn yn aml, fel y dywed Nick Ramsay, yw pam nad yw arferion da fel pe baent yn lledaenu'n hawdd iawn, ac mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn gweithio arno gyda Phrifysgol Caerdydd. Rydym yn ymchwilio i'r rhwystrau, a'r ffactorau sy'n galluogi hefyd, ar gyfer lledaenu'r arferion da yr ydym wedi'u dysgu drwy'r cynllun arloesi i arbed. Cwblheir y cam casglu tystiolaeth o hynny erbyn 30 Mehefin, ac yna caiff y canfyddiadau eu dadansoddi drwy gydol yr haf. Rydym wedi sicrhau £4,000 o gyllid ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd y gellir ei ddefnyddio i gefnogi digwyddiadau gydag academyddion ac ymarferwyr ledled Cymru i drafod ein canfyddiadau ac i dynnu sylw at y manteision yr ydym wedi gallu eu cronni drwy'r cynllun buddsoddi i arbed, a cheisio sicrhau bod y manteision hynny'n cael eu lledaenu'n ehangach.