Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 26 Mehefin 2019.
Mae'r gronfa buddsoddi i arbed wedi bod yn llwyddiannus dros gyfnod o amser, ond mae'n ymwneud yn bennaf â buddsoddiadau diogel, sy'n sicr, neu bron yn sicr, o gynhyrchu arbedion. Law yn llaw â hynny, cyflwynwyd rhaglen fwy uchelgeisiol arloesi i arbed—rhywbeth y gofynnais amdano dros nifer o flynyddoedd. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effeithiolrwydd y cynllun arloesi i arbed, ac a oes unrhyw brosiectau wedi bod mor llwyddiannus fel bod cyrff eraill wedi eu mabwysiadu?