Y Strategaeth Eiddo ac Asedau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 26 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 3:05, 26 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rhoddais wybod i David Rowlands yn gynharach yn ystod sesiwn gwestiynau y prynhawn yma mai fi oedd y Gweinidog a oedd yn y portffolio pan gychwynnwyd yr achos hwnnw, ac mae'r camau cyfreithiol yn parhau ar hyn o bryd, ond bydd y Gweinidog sydd â'r cyfrifoldeb bellach, Julie James, yn sicr o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau pan fydd rhywbeth i'w ddweud. Gan ei bod yn broses barhaus, mae arnaf ofn na allaf wneud sylwadau pellach heddiw, mae'n ddrwg gennyf.