2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru ar 26 Mehefin 2019.
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth eiddo ac asedau Llywodraeth Cymru? OAQ54111
Cyhoeddwyd ein strategaeth rheoli asedau corfforaethol yn 2016 er mwyn darparu mwy o dryloywder yn ein dull o reoli asedau tir ac eiddo'r Llywodraeth. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod yr asedau sydd gennym fel Llywodraeth yn darparu gwerth cyhoeddus ac yn cefnogi ein hamcanion yn weithredol ar draws y Llywodraeth.
Diolch i'r Gweinidog. Mewn ateb cynharach i'r Aelod dros Aberconwy, fe ddywedoch eich bod am fuddsoddi mewn arferion gorau mewn perthynas â'r gwaith o reoli portffolio asedau Llywodraeth Cymru, a'ch bod hefyd yn annog rhannu profiad a gwybodaeth. A gaf fi ofyn i chi fod ychydig yn fwy rhagweithiol ac uchelgeisiol na hynny, Weinidog? Ymddengys i mi fod gan Lywodraeth Cymru, ochr yn ochr â'r gwasanaeth iechyd gwladol a llywodraeth leol a rhannau eraill o'r sector cyhoeddus, werth enfawr yn yr asedau a'r eiddo sydd ar gael iddynt, ond ymddengys i mi hefyd mai ychydig iawn o reolaeth ragweithiol a rheolaeth ragweithiol uchelgeisiol sydd i'w chael o ran yr asedau sydd ym mherchnogaeth y sector cyhoeddus yn gyffredinol. Buaswn yn ddiolchgar, Weinidog, pe gallech amlinellu i'r Cynulliad Cenedlaethol sut y byddech yn ceisio sicrhau bod y gwaith hwn o reoli asedau yn mynd rhagddo ar sail fwy cydgysylltiedig, ar sail fwy uchelgeisiol, a phe gallech amlinellu inni beth yw'r amcanion a'r targedau ar gyfer y strategaeth reoli sydd gennych ar waith.
Wel, fel y dywedaf, mae'r strategaeth rheoli asedau corfforaethol wedi'i chyhoeddi, ac rwy'n fwy na pharod i roi mwy o wybodaeth i'r Aelod. Ond mae'n cyd-fynd yn gyfan gwbl â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 o ran ei ffyrdd o weithio a nodau llesiant. Ac mewn gwirionedd, mae wedi'i chynllunio i gefnogi her y Ddeddf y dylai proses y Llywodraeth o wneud penderfyniadau fod yn fwy cyfannol. Mae'n ymwneud â chael persbectif ehangach a chydnabod y rhyngddibyniaethau sy'n bodoli a phwysigrwydd cydweithio i sicrhau'r gwerth mwyaf am arian cyhoeddus a'r effaith fwyaf i benderfyniadau corfforaethol. A dylai'r gwaith penodol hwnnw sicrhau ein bod yn cael y canlyniadau polisi gorau.
Ni chredaf fod diffyg uchelgais yn y maes hwn gan fod gan bob un o'n hadrannau eu strategaethau rheoli asedau eu hunain, ac rwyf wrthi'n eu hystyried ar hyn o bryd i sicrhau fy mod yn fodlon eu bod yn cyflawni ein hamcanion ar draws y Llywodraeth yn hytrach na bodloni amcanion adrannau unigol yn unig.
Rydym hefyd yn datblygu arferion gorau ar gyfer caffael hefyd, gan y gwyddom, o bryd i'w gilydd, fod angen i ni gaffael tir ac adeiladau, ac mae angen i ni sicrhau bod hynny'n digwydd gyda'r tryloywder a'r diwydrwydd dyladwy priodol. Mae llawer o waith yn mynd rhagddo yn y maes hwn. Cyfeiriais at y gwaith y mae Gweinidog yr economi a'r Gweinidog llywodraeth leol a minnau'n ei wneud i newid ein dull o weithredu mewn perthynas â'r tir sydd gennym fel Llywodraeth Cymru i sicrhau, pan geir gwared arno yn yr achosion hynny, y gwneir hynny mewn ffordd sy'n bodloni ein blaenoriaethau trawslywodraethol, yn hytrach na'i fod yn ymwneud â'r llinell waelod yn unig.
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ar gynnydd camau cyfreithiol Llywodraeth Cymru yn erbyn y ddau gwmni sy'n cynghori ar werthiant tir cyhoeddus gan gronfa buddsoddi Cymru mewn adfywio, a arweiniodd at golled ariannol i drethdalwyr Cymru? Bydd eich adroddiad cynnydd yn cael ei werthfawrogi'n fawr.
Diolch. Rhoddais wybod i David Rowlands yn gynharach yn ystod sesiwn gwestiynau y prynhawn yma mai fi oedd y Gweinidog a oedd yn y portffolio pan gychwynnwyd yr achos hwnnw, ac mae'r camau cyfreithiol yn parhau ar hyn o bryd, ond bydd y Gweinidog sydd â'r cyfrifoldeb bellach, Julie James, yn sicr o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau pan fydd rhywbeth i'w ddweud. Gan ei bod yn broses barhaus, mae arnaf ofn na allaf wneud sylwadau pellach heddiw, mae'n ddrwg gennyf.