Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Bae Abertawe

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 26 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 3:10, 26 Mehefin 2019

Yr wythnos diwethaf, clywsom fod bwrdd iechyd Abertawe Bro Morgannwg, a elwir bellach yn fwrdd iechyd Bae Abertawe, unwaith eto wedi methu â chwrdd â'i ddyletswyddau ariannol. Mae'r bwrdd iechyd wedi gorwario dros gyfnod o dair blynedd ac oherwydd hynny bu'n rhaid i'r archwilydd cyffredinol gymhwyso ei farn archwilio ar ei gyfrifon am y flwyddyn 2018-19. Er bod bwrdd iechyd ABM wedi gwella ei sefyllfa ariannol o'i chymharu â'r llynedd, beth arall y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i wneud i sicrhau bod y gorwariant yma yn cael ei ddileu yn y dyfodol a bod gwasanaethau yn cael eu rhoi ar sylfaen gynaliadwy?