Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 26 Mehefin 2019.
Fel y dywed Dai Lloyd, gostyngodd y gorwariant ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe o £32.4 miliwn yn 2017-18 i ychydig o dan £10 miliwn yn 2018-19, ac mae hwnnw'n welliant o £22.4 miliwn. Cyflawnodd y bwrdd iechyd eu cyfanswm rheoli gan Lywodraeth Cymru o uchafswm diffyg o £10 miliwn yn 2018-19. Ar hyn o bryd, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn rhagweld y byddant yn mantoli eu cyllideb yn 2019-20.