Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 26 Mehefin 2019.
Yn seiliedig ar y ffigurau a ddyfynnwyd i ni yn awr, nid wyf 100 y cant yn sicr sut y gall bwrdd newydd sbon ddangos hanes o dair blynedd, ond yn ôl pob golwg, mae'r bwrdd newydd yn mynd i'r cyfeiriad iawn. Ond a ydych yn gwybod faint o'r gostyngiad hwnnw yn y diffyg sy'n deillio o gael gwared ar unrhyw ddyled yn sgil y gweithrediadau yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr—gan fod y gweithrediadau hynny, wrth gwrs, bellach wedi symud i Gwm Taf? Yr hyn rwy'n ceisio gweld yw a yw hyn yn enghraifft o symud dyled i fwrdd iechyd newydd o'r un blaenorol. Hefyd, efallai y gallwch roi rhyw syniad i ni, gan fod y bwrdd hwn yn llawer llai bellach, faint yn llai y bydd yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru o gymharu â bwrdd blaenorol Abertawe Bro Morgannwg, o gofio nad yw bellach yn gyfrifol am fy etholwyr i ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr.