Tir sy'n Eiddo i Cadw

Part of 3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 26 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 3:27, 26 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am wneud y sylwadau hynny. Nid wyf wedi gweld adroddiad manwl ar y trafodaethau hynny eto, ond gallaf gadarnhau eu bod wedi'u cynnal. Y broblem rydym yn ei hwynebu, ac rwyf wedi bod ar y safle, wrth gwrs—yng Nghaerllion a safleoedd hanesyddol eraill—. Yr anhawster gyda'r safleoedd hyn yw, os ydych yn eu ffensio, nid yw hynny'n eu gwneud yn lleoedd deniadol i bobl ymweld â hwy. Mae'n ymwneud â chael cydbwysedd, bob amser, rhwng y mesurau diogelwch lleiaf sydd eu hangen ar safleoedd i sicrhau nad ydynt yn cael eu camddefnyddio a'r modd y byddai'n atal pobl rhag ymweld pe bai safleoedd yn cael eu gor-ddiogelu, fel petai. Felly, mae gennyf rywfaint o ffydd o hyd ym mhotensial addysg, ac yn benodol, cynnwys pobl ifanc mewn gweithgareddau cadwraeth eu hunain—gallaf weld bod fy nghyd-Aelod y Gweinidog addysg yn nodio—ac mae'r rhaglenni amrywiol sydd gennym bellach gyda llysgenhadon ifanc a phrentisiaid ifanc yn Cadw ac mewn rhannau eraill o fy nghyfrifoldebau yn ffyrdd o gyflwyno pobl ifanc i arferion cadwraeth fel nad ydynt yn teimlo'r angen i achosi unrhyw ddifrod i'r hyn sydd, wedi'r cyfan, yn safleoedd hanesyddol iawn.