Part of 3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 26 Mehefin 2019.
A gaf fi gofnodi fy niolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ymateb prydlon wrth fynd i'r afael â fandaliaeth yn yr amffitheatr Rufeinig yng Nghaerllion, a reolir gan Cadw? Deallaf fod gweithgor ymddygiad gwrthgymdeithasol, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Cadw, Heddlu Gwent, Cyngor Dinas Casnewydd a'r gymuned leol, wedi cyfarfod ar 23 Mai i ystyried amrywiaeth o opsiynau i fynd i'r afael â'r mater. A all y Dirprwy Weinidog roi gwybod inni a oes unrhyw gynigion wedi dod i law yn dilyn y cyfarfod hwnnw ac a wnaiff ofyn i Cadw adolygu diogelwch mewn safleoedd eraill y maent yn eu rheoli yng Nghymru sydd hefyd yn dioddef o ganlyniad i'r un ymddygiad gwrthgymdeithasol?