Part of 3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 26 Mehefin 2019.
Wel, gallaf roi sicrwydd i chi, pan gyfarfuom â Thwrci yn ddiweddar, fod mater hawliau dynol ar frig yr agenda yno. Ac rwy'n cytuno bod erlid Cristnogion yn rhywbeth y dylem fynd i'r afael ag ef. Nid problem yn Tsieina yn unig yw hon. Mae'n broblem fawr yn y dwyrain canol, yn yr Aifft, ac yn sicr, mae'r rhain yn faterion y mae angen eu hwynebu ac mae angen eu trafod gyda'r awdurdodau perthnasol.