3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:28 pm ar 26 Mehefin 2019.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr—Darren Millar.
Diolch, Lywydd. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y trafodaethau y mae'n eu cynnal gyda swyddogion tramor a diplomyddion ynghylch hawliau dynol?
Diolch. Ie, mae hyn yn rhywbeth sy'n bwysig i ni wrth i ni ddatblygu strategaeth ryngwladol newydd. Ac wrth gwrs, bydd hynny'n ffactor y byddwn yn ei ystyried. Ond wrth gwrs, pan fo'n berthnasol, rydym yn trafod y materion hynny gyda chynrychiolwyr lle credwn fod yna broblem y dylid ei herio.
Diolch am eich ymateb. Wrth gwrs, un o gonglfeini ein democratiaeth yma yng Nghymru, ac yn wir, gweddill y Deyrnas Unedig, yw'r traddodiad balch o barch sydd gennym tuag at hawliau dynol, ac mae'n dda dweud ein bod wedi arwain ar hawliau dynol mewn sawl ffordd ym mhob rhan o'r byd ers blynyddoedd lawer. Yn ddiweddar, cawsoch gyfarfod ag is-bennaeth Tsieina yn ystod ei ymweliad â Chymru, ac roeddwn yn falch iawn o weld mewn adroddiadau yn y cyfryngau eich bod wedi bod yn hyrwyddo cynnyrch Cymreig. A allwch ddweud wrthym: a wnaethoch chi drafod camweddau hawliau dynol yn Tsieina gyda'r is-bennaeth? Byddwch wedi gweld bod llawer o gamweddau wedi digwydd yn Tsieina yn hanesyddol, ac rwy'n siŵr ei fod yn gyfle i'w groesawu y byddai pobl wedi disgwyl i chi ei gymryd.
Wrth gwrs, rydym yn ymwybodol iawn o'r materion sy'n ymwneud â hawliau dynol yn Tsieina, yn enwedig ar hyn o bryd gyda'r sefyllfa yn Hong Kong, a hefyd gyda'r lleiafrifoedd ethnig, o ran Mwslimiaid Uighurs. Felly, roedd y rheini'n faterion byw, ac yn wir, codais fater hawliau dynol gyda'r dirprwy bennaeth yn y cinio gyda'r nos.
Rwy'n falch iawn o glywed eich bod wedi codi record hawliau dynol Tsieina gyda'r dirprwy bennaeth. Mae'n eithriadol o bwysig ein bod yn sicrhau bod y rhain yn faterion sy'n cael eu codi ar bob cyfle. Sylwaf eich bod wedi cyfeirio at boblogaeth Mwslimiaid Uighurs yn Tsieina. Cafodd y grŵp trawsbleidiol ar ffydd gyfarfod y prynhawn yma, a buom yn sôn am beth o'r pwysau y mae hynny'n ei achosi gyda ffoaduriaid ledled y byd pan fo pobl yn cael eu herlid o ganlyniad i'w crefydd neu gredoau gwleidyddol.
Un o'r sefydliadau eraill sydd wedi codi pryderon gydag Aelodau'r Cynulliad yn y gorffennol, wrth gwrs, yw elusen Open Doors, sydd wedi nodi bod 97 miliwn o Gristnogion yn Tsieina mewn perygl o gael eu harestio a niwed corfforol. A allwch roi sicrwydd i'r Cynulliad y defnyddir pob cyfle i godi pryderon am gamweddau hawliau dynol lle maent yn digwydd, boed hynny yn Tsieina, Twrci neu unrhyw wlad arall, pan fyddwch yn cael cyfle i gyfarfod â swyddogion a diplomyddion yn y dyfodol?
Wel, gallaf roi sicrwydd i chi, pan gyfarfuom â Thwrci yn ddiweddar, fod mater hawliau dynol ar frig yr agenda yno. Ac rwy'n cytuno bod erlid Cristnogion yn rhywbeth y dylem fynd i'r afael ag ef. Nid problem yn Tsieina yn unig yw hon. Mae'n broblem fawr yn y dwyrain canol, yn yr Aifft, ac yn sicr, mae'r rhain yn faterion y mae angen eu hwynebu ac mae angen eu trafod gyda'r awdurdodau perthnasol.
Llefarydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Llywydd, yn gynharach y flwyddyn hon cyhoeddodd y Llywodraeth gynlluniau ar gyfer gwneud Cymru yn genedl noddfa. Roeddwn i'n croesawu hyn, wrth gwrs. A dydd Mawrth dywedodd y Prif Weinidog fod Cymru yn wlad groesawgar a chynhwysol. A all y Gweinidog amlinellu'r hyn y mae ei hadran hi yn ei wneud i hyrwyddo'r neges groesawgar yma ar lwyfan y byd?
Diolch yn fawr. Ac, wrth gwrs, mae yn bwysig ein bod ni'n tanlinellu ein bod ni'n wlad sy'n croesawu pobl i'n plith ni. A'r wythnos diwethaf, er enghraifft, mi gaethon ni sefyllfa yma yn y Senedd lle gwnaethon ni groesawu pobl o Bangladesh a oedd yn chwarae criced gyda ni, ac roedd hi'n gyfle i ni unwaith eto ddweud ein bod ni'n ddiolchgar bod y gymuned Bangladeshaidd wedi dod yma atom ni yng Nghymru hefyd.
Yr wythnos yma, rŷch chi wedi clywed bod y Prif Weinidog wedi ei gwneud hi'n glir ein bod ni'n wlad agored, ein bod ni'n croesawu pobl. Mae e wedi gwneud cyhoeddiad i'r perwyl hwnnw. Ac roedd hynny'n bwysig achos ei fod e'n cyd-fynd ag ymweliad yr ambassador o Romania. Ac roedd e'n bwysig ei fod e'n clywed y neges yna'n glir, achos mae gyda ni lot o bobl sydd wedi dod i'n gwlad ni, sydd yn cyfrannu at ein gwlad, ac mae'n bwysig iawn eu bod nhw yn deall bod croeso iddyn nhw. Ac un o'r pethau rŷm ni'n ei wneud nawr i hyrwyddo ac i sicrhau eu bod nhw'n deall bod yna groeso iddyn nhw yw ein bod ni wedi rhoi cynlluniau, gyda'r arian sydd gyda ni wedi'i neilltuo ar gyfer Brexit, i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'u hawliau nhw. Ac rŷm ni wedi rhoi arian i sicrhau bod pobl yn gallu mynd at ganolfan a gofyn am beth yw eu hawliau nhw. Ac rŷm ni'n gobeithio, wrth gwrs, y bydd hwnna'n dod drosodd yn glir yn y strategaeth ryngwladol newydd.
Diolch am yr ymateb, Gweinidog.
Gofynnais y cwestiwn gan fy mod yn pryderu ynghylch trin ymfudwyr yn annynol, yn enwedig ymfudwyr sy'n blant, ar ffin ddeheuol yr Unol Daleithiau â Mecsico. Hyd yn hyn, mae o leiaf 24 o bobl, gan gynnwys chwech o blant, wedi marw yn ystod gweinyddiaeth Trump yn yr hyn na ellir ond eu disgrifio mewn gwirionedd yn wersylloedd crynhoi. Mae Llywodraeth yr Unol Daleithiau yn gwahanu miloedd o blant oddi wrth eu rhieni ac yn eu cadw mewn cewyll oer sy'n cael eu galw'n 'ffaldau cŵn' a 'rhewgelloedd' gan y plant a gedwir ynddynt. Caiff eu pethau gwerthfawr, a hyd yn oed eu meddyginiaethau, eu cymryd oddi arnynt, ac er bod gofyniad cyfreithiol ar batrôl y ffin i sicrhau diogelwch ac amodau glanweithiol, dadleuodd cyfreithiwr o adran gyfiawnder yr Unol Daleithiau yn y llys yn ddiweddar nad oes angen sebon, brwsys dannedd neu welyau ar blant a gedwir i fod yn ddiogel ac yn lanweithiol pan gânt eu cadw gan batrôl y ffin. Weinidog, a wnaiff eich Llywodraeth ysgrifennu at Lywodraeth yr Unol Daleithiau i gondemnio'r camweddau hawliau dynol ofnadwy hyn?
Wel, yn sicr, rwy'n condemnio'r achosion hynny o dorri hawliau dynol. A chredaf mai un o'r pethau mwyaf syfrdanol i mi, mewn gwirionedd, oedd nad ydynt wedi cadw cofnod clir o ba bryd a phwy a wahanwyd oddi wrth eu rhieni a'u plant, ac felly mae hi wedi bod yn anodd dod â'r ddau grŵp hyn yn ôl at ei gilydd, oherwydd yr anhrefn ar y ffin honno. Wrth gwrs, rydym yn bryderus iawn wrth weld y lluniau ofnadwy hynny; wrth gwrs, rydym yn pryderu pan fydd pobl yn benderfynol o adeiladu waliau. A chredaf mai dyna un o'r pethau sy'n peri pryder i ni gyda thrafodaeth Brexit—beth sy'n digwydd mewn gwirionedd gyda'r ffin honno gydag Iwerddon. Gwyddom fod waliau a ffiniau yn creu tensiynau, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth nad ydym am ei weld yn digwydd yn y dyfodol. Bydd yr Aelod yn ymwybodol, wrth gwrs, o ran materion rhyngwladol, mai Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n gyfrifol am hynny, ond rwy'n fwy na pharod i fynegi ein barn yn glir i Lywodraeth y DU.
Rwy'n croesawu ymateb y Gweinidog i fy nghwestiwn. Credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn dwyn yr Unol Daleithiau i gyfrif, gan mai hwy yw'r wladwriaeth fwyaf pwerus yn y byd, ac yn aml fe'i hystyrir yn un o gynghreiriaid agosaf y DU. Mae tawelwch llwyr Llywodraeth y DU ar hyn wedi codi arswyd arnaf. Credaf y gallai hyn fod yn rhywbeth i'w wneud ag ymdrechion Llywodraeth y DU i foddio Donald Trump yn y gobaith o gael rhyw fath o gytundeb masnach—cytundeb masnach y gŵyr pob un ohonom a fyddai'n niweidiol i Gymru ac i'n GIG. Felly, Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi yn awr i gondemnio safbwynt diegwyddor Llywodraeth y DU ar weithredoedd erchyll Llywodraeth yr Unol Daleithiau?
Wel, a bod yn deg, nid wyf yn credu y gallwn ddwyn y Deyrnas Unedig i gyfrif am yr hyn y mae Donald Trump yn ei wneud ar y ffin honno. Ond credaf y byddai'n briodol inni fynegi ein barn, ac felly byddwn yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Tramor i roi gwybod iddo mai dyma sut y teimlwn ynglŷn â hyn—fel Llywodraeth Cymru. Ond credaf fod yn rhaid i ni ddeall hefyd, mewn gwirionedd, fod yr Unol Daleithiau hefyd yn gynghreiriad. Mae gennym ffrindiau da sy'n rhan o'r Unol Daleithiau. Rydych yn meddwl am yr holl fyfyrwyr sy'n mynd o Gymru i astudio yn yr Unol Daleithiau. Rydym wedi cael ffigurau mewnfuddsoddi heddiw; yr Unol Daleithiau yw un o'r mewnfuddsoddwyr mwyaf i'n gwlad. Ac felly mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn egluro'n glir y gwahaniaeth rhwng yr Unol Daleithiau fel cenedl a'r arweinyddiaeth, yr arweinyddiaeth wleidyddol, nad ydym bob amser yn cytuno â hi o bosibl.