Tir sy'n Eiddo i Cadw

Part of 3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 26 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 3:24, 26 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am y ffordd rydych wedi mynd ar drywydd y mater hwn. Gallaf gadarnhau bod popeth a ddywedwch yn ffeithiol gywir. Caniateir gweithgarwch Cadw yn rheoli colomennod fferal o dan drwydded gyffredinol sy'n deillio o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, sydd, fel y dywedwch, yn cael ei rhoi gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae Cadw wedi treialu nifer o ffyrdd o reoli colomennod fferal yn y gorffennol, gan gynnwys defnyddio rhwydi cyfyngedig, cau tyllau mewn adeiladwaith hanesyddol—sydd braidd yn anodd, fel y gallwch ei ddeall, rwy'n siŵr—gosod pigynnau gwrth-glwydo, defnyddio uwchsain, modelau plastig ataliol a hyd yn oed adar ysglyfaethus. Nid yw'r rhain wedi bod mor effeithiol ag y byddent wedi'i ddymuno, ond gallaf gadarnhau bod y gweithgarwch ar ran Cadw yn gyfreithiol, ond yn sgil y pryder a fynegwyd gennych heddiw, ac yn wir, gan aelodau'r cyhoedd, mae Cadw wedi cytuno i gynnal adolygiad. Maent wedi rhoi sicrwydd i mi y bydd yr adolygiad hwn yn cael ei gynnal ar frys, ac na fydd unrhyw weithgarwch pellach o'r math rydych yn ei ddisgrifio yn digwydd hyd nes y bydd yr adolygiad hwnnw wedi'i gwblhau. Bydd yr adolygiad yn cynnwys cyngor manwl ar yr agweddau amgylcheddol ac iechyd y cyhoedd ar reoli colomennod fferal, a byddaf yn sicr o'ch cynnwys chi ac unrhyw Aelodau eraill sy'n pryderu am y digwyddiadau hyn yn y trafodaethau, wedi i'r adolygiad gael ei gwblhau.