Part of 3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:32 pm ar 26 Mehefin 2019.
Llywydd, yn gynharach y flwyddyn hon cyhoeddodd y Llywodraeth gynlluniau ar gyfer gwneud Cymru yn genedl noddfa. Roeddwn i'n croesawu hyn, wrth gwrs. A dydd Mawrth dywedodd y Prif Weinidog fod Cymru yn wlad groesawgar a chynhwysol. A all y Gweinidog amlinellu'r hyn y mae ei hadran hi yn ei wneud i hyrwyddo'r neges groesawgar yma ar lwyfan y byd?