Part of 3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 26 Mehefin 2019.
Rwy'n croesawu ymateb y Gweinidog i fy nghwestiwn. Credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn dwyn yr Unol Daleithiau i gyfrif, gan mai hwy yw'r wladwriaeth fwyaf pwerus yn y byd, ac yn aml fe'i hystyrir yn un o gynghreiriaid agosaf y DU. Mae tawelwch llwyr Llywodraeth y DU ar hyn wedi codi arswyd arnaf. Credaf y gallai hyn fod yn rhywbeth i'w wneud ag ymdrechion Llywodraeth y DU i foddio Donald Trump yn y gobaith o gael rhyw fath o gytundeb masnach—cytundeb masnach y gŵyr pob un ohonom a fyddai'n niweidiol i Gymru ac i'n GIG. Felly, Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi yn awr i gondemnio safbwynt diegwyddor Llywodraeth y DU ar weithredoedd erchyll Llywodraeth yr Unol Daleithiau?