3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru ar 26 Mehefin 2019.
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am pa gamau pellach y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gyrraedd y targed o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050? OAQ54097
Ers lansio Cymraeg 2050, dŷn ni wedi bod yn canolbwyntio ar osod sylfeini, er enghraifft drwy wella cynllunio, addysg a thechnoleg gwybodaeth. Dŷn ni hefyd wrthi yn sicrhau bod y Gymraeg yn rhan bwysig o bob maes polisi ar draws y Llywodraeth, yn ogystal ag edrych ar gryfhau swyddogaethau cynllunio ieithyddol yn ein sefydliad ni.
Weinidog, er mwyn cyrraedd y targed uchelgeisiol yma, dwi'n siŵr y byddwch chi'n cytuno y bydd rhaid i ni recriwtio llawer mwy o athrawon sy'n gallu siarad Cymraeg ac athrawon sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn anffodus, mae nifer y myfyrwyr sy'n gallu addysgu yn y Gymraeg ar y lefel isaf ers 10 mlynedd, a dim ond 10 y cant o ymgeiswyr sy'n gallu gwneud hyn ar hyn o bryd. O ystyried y ffactorau hyn ac yn dilyn rhai o'r sylwadau sydd wedi cael eu gwneud yn y Siambr hon y prynhawn yma, beth ŷch chi a Llywodraeth Cymru yn mynd i wneud er mwyn gwrthdroi’r sefyllfa hon? Pa drafodaethau ŷch chi wedi'u cael gyda'r Gweinidog addysg i sicrhau bod mwy o fyfyrwyr yn cael eu hannog i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg?
Wel, dŷn ni'n ymwybodol dros ben bod rhaid i ni gynyddu faint o athrawon sy'n medru dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Wrth gwrs, mae yna gam cyn hynny—hynny yw, mae'n rhaid i ni sicrhau bod digon o bobl gyda lefel A Cymraeg fel eu bod nhw'n gallu mynd ymlaen i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg lle bo hynny'n bosibl. Dŷn ni wedi gweld bod yna berthynas rhwng y bobl sydd yn astudio lefel A Cymraeg a'r rheini sydd yn mynd mewn i addysg Gymraeg a dŷn ni'n ceisio annog mwy o'r rheini. Dŷn ni wedi rhoi £150,000 i annog plant yr oedran iawn i ddewis lefel A Cymraeg fel pwnc. Felly, mae hynny, rŷn ni'n gobeithio, yn mynd i wneud gwahaniaeth. Wrth gwrs, rydych chi'n ymwybodol bod eisoes gyda ni gymhelliant o £5,000 yn ychwanegol i geisio cael mwy o bobl i ymgymryd â dysgu Cymraeg a hyfforddi drwy'r Gymraeg. Wrth gwrs, beth sy'n bwysig hefyd yw ein bod ni'n ehangu'r cynllun sabothol. Mae hwnna'n rhywbeth dŷn ni'n edrych arno; dyw e ddim o reidrwydd yn rhywbeth sy'n para am flwyddyn. Ond dŷn ni'n edrych ar ble mae pobl efallai yn siarad ychydig o Gymraeg ond mae jest angen i ni helpu adeiladu eu hyder. Mae lot o'r gwaith yna yn mynd ymlaen hefyd.
Ar lefel bersonol, rwy'n ceisio cynyddu nifer yr athrawon sy'n siarad Cymraeg drwy ychwanegu un. Er na fyddwn yn gwybod beth fydd nifer y siaradwyr Cymraeg yn 2050 gan na fydd modd o ganfod hynny, byddwn yn gwybod beth fydd y ffigur ar ôl cyfrifiadau 2021, 2031, 2041 a 2051. Faint o siaradwyr Cymraeg rydych yn eu disgwyl yng nghyfrifiad 2021? Un peth y gwn i yw nad ydym yn mynd i fynd o 600,000 i 1 filiwn mewn cyfnod o flwyddyn.
Beth sy'n glir yw ein bod ni wedi creu strategaeth am y tymor hir. Wrth gwrs, mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n mesur y cynnydd. Mae'r ffaith bod yr annual population survey wedi dangos bod erbyn hyn 896,000 o bobl yn medru'r Gymraeg yn rhoi rhywfaith o obaith i ni. Wrth gwrs, mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol nad dyna'r mesur dŷn ni'n ei ddefnyddio—y cyfrifiad yw'r mesur dŷn ni'n ei ddefnyddio. Un o'r pethau mae'n rhaid i ni ei wneud yw sicrhau bod gan bobl sy'n medru'r Gymraeg yr hyder i ddweud eu bod nhw'n medru'r Gymraeg. Mae hwnna yn broblem i lot o bobl, a dwi'n gobeithio, er enghraifft, Mike, erbyn 2050, y byddwch chi yn un o'r bobl yna fydd gyda'r hyder i dicio'r bocs yna a sicrhau eich bod chi hefyd yn gallu dweud eich bod chi'n un o'r miliwn yna.
Tynnwyd cwestiwn 7 [OAQ54123] yn ôl. Cwestiwn 8—Russell George.