Part of 3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:43 pm ar 26 Mehefin 2019.
Wel, rydym wedi cynyddu cyllid yn sylweddol iawn i sicrhau bod cyfle i bobl gael mynediad at addysg Gymraeg cyn gynted â phosibl. Mae hynny'n cynnwys cylchoedd meithrin. Felly, maent wedi cael £1 filiwn i ehangu, ac rwy'n falch o ddweud bod Rhondda Cynon Taf wedi cael £2.7 miliwn dros y flwyddyn ddiwethaf yn benodol ar gyfer datblygu'r ddarpariaeth feithrin Gymraeg yn yr ardal honno. A chredaf eich bod yn llygad eich lle: os nad ydym yn cael y pethau sylfaenol yn iawn, os na allwn gael pobl i mewn i'r system ar y dechrau, yna nid ydym yn debygol o'u perswadio pan fyddant yn mynd i mewn i addysg brif ffrwd. Felly, mae hyn yn hollbwysig. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod ei fod yn hollbwysig, a dyna pam ein bod yn gwneud ymdrech wirioneddol fawr yn y maes hwn, ac rydym ar y trywydd iawn o ran nifer yr ysgolion meithrin roeddem yn gobeithio eu hagor erbyn y pwynt hwn.