3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru ar 26 Mehefin 2019.
3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo'r Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf? OAQ54125
Rŷm ni'n gweithio gydag amrywiol bartneriaid i hyrwyddo'r iaith yn Rhondda Cynon Taf. Ac mae'n gyfnod rili cyffrous yna, gyda'r Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld yn 2022, a'r fenter iaith yn trefnu Parti Ponty i hyrwyddo defnydd yr iaith.
Rwy'n ddiolchgar iawn, Weinidog, eich bod wedi cyfeirio at y ffaith y bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld â RhCT yn 2022; bydd yn gyfle allweddol i adeiladu ar y 28,000 o siaradwyr Cymraeg sydd eisoes yn Rhondda Cynon Taf. A chredaf ei fod yn gyfle pwysig i adfer iaith mewn rhan wirioneddol bwysig o Gymru, oherwydd, os ydym am fod yn genedl ddwyieithog, bydd angen i ni weld y cynnydd mwyaf yn yr ardal hon ac ardaloedd eraill tebyg. Mae hefyd yn gyfle ar gyfer adfywio economaidd, hyrwyddo twristiaeth a diwylliant yr ardal. A gobeithiaf y bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â'r cyngor, sydd â chynllun eisoes i ddatblygu eu strategaeth hyd at 2022, fel y gellid sicrhau'r budd mwyaf posibl o'r cyfle gwych hwn.
Wel, diolch yn fawr. Ac, wrth gwrs, dwi'n gobeithio bod pobl yn ardal Rhondda yn edrych ymlaen at y digwyddiad yna. Dwi'n meddwl mai beth sy'n bwysig i'w gofio gyda'r Eisteddfod yw nad gŵyl wythnos yw hi—mae'r paratoadau yn dechrau nawr. A beth sy'n bwysig am yr Eisteddfod yw bod y legacy yn mynd ymlaen ar ôl i'r Eisteddfod adael. Ond mae'n gyfle i ni godi cynnwrf yn yr ardal tuag at yr iaith Gymraeg, a dwi'n falch dros ben bod cyngor Rhondda Cynon Taf yn cymryd hwn o ddifrif, eu bod nhw wedi croesawu'r Eisteddfod, a'u bod nhw, dwi'n deall, wedi hefyd penodi swyddog i sicrhau bod hwn yn rhywbeth sy'n datblygu, nid jest yn 2022, ond yn dechrau lot cyn i'r digwyddiad ddigwydd.
Un o'r ffyrdd dŷn ni'n mynd i hyrwyddo'r iaith Gymraeg, wrth gwrs, yw drwy addysg, a sicrhau bod pobl yn gallu dysgu'r Gymraeg a dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Un o'r pethau dwi wedi clywed yn ystod yr wythnosau diwethaf, a dwi wedi gweld hyn yn fy etholaeth fy hun, yw dyw cynghorau lleol ddim yn fodlon talu am drafnidiaeth ar gyfer y plant sydd eisiau mynychu ysgolion Cymraeg a'u galluogi nhw i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Dwi'n falch iawn gweld bod y Gweinidog Addysg yn ei lle ar gyfer y sesiwn yma y prynhawn yma. Ac a oes yna fodd i chi, Gweinidog, Gweinidogion, gydweithio gyda'ch gilydd i sicrhau bod pob un person a phob un plentyn yn gallu mynychu ysgolion Cymraeg, os dyna yw eu dewis, lle bynnag maen nhw'n byw yn ein gwlad?
Wel, wrth gwrs, mae hwn yn rhywbeth sy'n bwysig iawn i'r Llywodraeth. Mae hwn yn gwestiwn i'r Gweinidog Addysg, mewn gwirionedd, ond mae hwn yn bwnc rŷn ni wedi trafod eisoes. Wrth gwrs, rŷn ni'n ymwybodol bod yna ddau gyngor lle mae hwn yn rhywbeth maen nhw'n ei drafod ar hyn o bryd. Mae'n bwysig dwi'n meddwl fod pobl yn deall bod yna ymgynghoriad yn mynd ymlaen ynglŷn ag a ddylai fod yna gost i bobl fynd i'r chweched dosbarth yn rhai o'r ysgolion yma, a dwi'n meddwl ddylen ni annog pobl i ymateb i'r ymgynghoriad yna, achos dyna'r ffordd orau efallai i ddwyn perswâd ar rai pobl sydd efallai yn dal â meddwl agored ynglŷn â beth ddylai ddigwydd yn y dyfodol.
Hoffwn ymuno â fy nghyd-Aelod, David Melding, i fynegi fy nghyffro ynglŷn â'r ffaith y bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn dod i Rondda Cynon Taf yn 2022, ac yn darparu buddion diwylliannol ac economaidd pwysig, yn ogystal, wrth gwrs, â chodi proffil yr iaith Gymraeg. Credaf mai un o'r ffyrdd pwysicaf y gallwn sicrhau ein bod yn cyrraedd ein targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yw cynyddu nifer y disgyblion sy'n cael addysg cyfrwng Cymraeg. Er bod gan RhCT hanes cryf o gyflawni hynny, credaf fod rôl y cylch meithrin yn bwysig iawn wrth annog plant ifanc i ddilyn y trywydd hwnnw.
Rwyf wedi bod yn gweithio'n agos gyda chylch meithrin yng Nghwm Cynon, Cylch Meithrin Seren Fach, sy'n gwbl orlawn. Mae angen arian arnynt i ehangu. Maent yn troi plant a theuluoedd ymaith wythnos ar ôl wythnos ac mae'n rhaid iddynt sicrhau llu o wahanol ffrydiau ariannu fel elusen er mwyn ceisio cyflawni'r targed sydd ei angen arnynt. Felly, fy nghwestiwn i chi, Ddirprwy Weinidog, yw: pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch cyd-Aelodau yn Llywodraeth Cymru i sicrhau y gall cylchoedd meithrin gael yr arian sydd ei angen arnynt?
Wel, rydym wedi cynyddu cyllid yn sylweddol iawn i sicrhau bod cyfle i bobl gael mynediad at addysg Gymraeg cyn gynted â phosibl. Mae hynny'n cynnwys cylchoedd meithrin. Felly, maent wedi cael £1 filiwn i ehangu, ac rwy'n falch o ddweud bod Rhondda Cynon Taf wedi cael £2.7 miliwn dros y flwyddyn ddiwethaf yn benodol ar gyfer datblygu'r ddarpariaeth feithrin Gymraeg yn yr ardal honno. A chredaf eich bod yn llygad eich lle: os nad ydym yn cael y pethau sylfaenol yn iawn, os na allwn gael pobl i mewn i'r system ar y dechrau, yna nid ydym yn debygol o'u perswadio pan fyddant yn mynd i mewn i addysg brif ffrwd. Felly, mae hyn yn hollbwysig. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod ei fod yn hollbwysig, a dyna pam ein bod yn gwneud ymdrech wirioneddol fawr yn y maes hwn, ac rydym ar y trywydd iawn o ran nifer yr ysgolion meithrin roeddem yn gobeithio eu hagor erbyn y pwynt hwn.