Hyrwyddo De-orllewin Cymru fel Cyrchfan i Dwristiaid

Part of 3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 26 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 3:57, 26 Mehefin 2019

Ddirprwy Weinidog, mae'n siŵr y cytunwch y gall henebion hanesyddol gyfrannu'n fawr at gynnig twristiaeth unrhyw sir. Fodd bynnag, yn lleol yng Nghastell Nedd Port Talbot yn fy rhanbarth i mae rhwystredigaeth nad yw heneb hanesyddol allweddol, sef Abaty Nedd, yn cael ei hyrwyddo'n ddigonol fel atyniad i dwristiaid. Mae pryderon nad yw'n cael ei hysbysebu'n ddigonol ac mae mynediad ac arwyddion gwael iddo. Rwy'n ymwybodol bod Cadw wedi buddsoddi yn y safle i achub y strwythurau rhag cwympo; fodd bynnag, a wnewch chi yn awr ymrwymo i weithio gyda phartneriaid llywodraeth leol ac asiantaeth priffyrdd de Cymru i sicrhau bod y safle yma wedi ei arwyddo a'i hyrwyddo'n briodol i wneud y gorau o'i botensial o ran twristiaeth?