Part of 3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:58 pm ar 26 Mehefin 2019.
Dwi wedi ymweld â safle Abaty Nedd ac wedi gweld y gwaith sydd wedi cael ei wneud i ddiogelu'r adeilad gan Cadw ac yn ei gymeradwyo, ond rydw i yn derbyn bod yna anawsterau ynglŷn â lleoliad yr abaty o ran hygyrchedd. Rydym ni'n ystyried abatai o leiaf cyn bwysiced â chestyll yn ein strategaeth ynglŷn â henebion, a dwi'n barod iawn i gydweithio gyda'r awdurdod lleol ac, yn wir, unrhyw fuddiannau eraill yn yr ardal fyddai am hyrwyddo'r abaty yna ac am sicrhau bod yr etifeddiaeth sydd yn yr abatai yn cael ei ddathlu drwy Gymru.