Part of 5. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 26 Mehefin 2019.
Fel rwyf wedi'i ddweud eisoes, nid oedd y cwmni wedi gofyn i Lywodraeth Cymru yn uniongyrchol am gymorth. Rydym bellach yn helpu'r gweithwyr i allu dod o hyd i swyddi eraill ac i ailhyfforddi. Rwy'n credu bod ein hymdrechion i gyflymu'r broses o adeiladu tai cyngor a thai cymdeithasol yn fwy cyffredinol wedi cael cryn dipyn o sylw yn y Siambr hon, ac yn sicr, rydym yn ymwybodol o'r angen i gefnogi'r sector ac i gefnogi cwmnïau gwreiddiedig yn benodol, ac mae hynny'n rhan o'n gwaith parhaus.