5. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 26 Mehefin 2019.
1. A wnaiff y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i gwmni adeiladu Jistcourt? 329
Diolch. Bydd hyn yn newyddion torcalonnus i'r 66 o weithwyr a'u teuluoedd a byddwn yn canolbwyntio yn awr ar ddod o hyd i swyddi lleol eraill ar gyfer gweithlu talentog Jistcourt.
Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. O ystyried eich bod wedi dweud ddoe nad yw eich Llywodraeth yn gwybod beth y mae'n ei wneud ar yr economi, a gaf fi ofyn a oedd Llywodraeth Cymru yn gwybod bod Jistcourt yn wynebu unrhyw anawsterau ariannol, ac os felly, pryd a pha gamau penodol a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru bryd hynny? Byddai'n ddefnyddiol cael crynodeb o'r digwyddiadau. Gwn fod fy nghyd-Aelod Suzy Davies wedi bod yn ceisio cysylltu a chael gwybodaeth gan y cwmni ers yr wythnos diwethaf, pan fu dyfalu ynghylch y cwmni ar y cyfryngau cymdeithasol. Ac efallai fod Llywodraeth Cymru yn yr un sefyllfa o ran methu â chysylltu â'r cwmni hefyd. Byddai'n ddefnyddiol gwybod a deall hynny.
Mewn perthynas â Dawnus, mae'r Llywodraeth wedi datgan na ddarparwyd unrhyw wybodaeth am gymorth a ddarperir drwy Lywodraeth Cymru i unrhyw sefydliad sy'n seiliedig ar gleientiaid na'r cyhoedd yn gyffredinol na'r gadwyn gyflenwi, ac rydych eisoes wedi amlinellu eich rhesymau am hynny. Ond credaf fod angen gofyn cwestiynau o hyd ynglŷn â thryloywder ac atebolrwydd Llywodraeth Cymru o ran caniatáu i bob pwrpas i awdurdodau lleol fynd ar drywydd contractau gyda chwmnïau fel Dawnus neu Jistcourt o safbwynt diwydrwydd dyladwy. Ymddengys fel pe bai awdurdodau lleol, a chyrff cyhoeddus eraill yn wir, wedi'u gadael yn y niwl i raddau helaeth mewn perthynas â rhwymedigaethau ariannol y cwmnïau hyn o ran gwerthuso eu potensial masnachol ar gyfer contractau cyhoeddus. Pe baent wedi cael eu hysbysu ynglŷn â rhwymedigaethau ariannol y cwmnïau hyn gan Lywodraeth Cymru, gan barchu cyfrinachedd masnachol, onid ydych yn cytuno y byddai hynny wedi gwneud gwahaniaeth mwy sylweddol i asesiadau diwydrwydd dyladwy yr awdurdod lleol o'r contractau hyn a ariennir ar y cyd—a ariennir ar y cyd, mewn gwirionedd, dylwn ddweud, gan Lywodraeth Cymru?
Ac yn olaf, Ddirprwy Weinidog, a allwch roi ymrwymiad, neu ymrwymiad newydd, y bydd y prosiect tai £3.5 miliwn y mae Cyngor Sir Powys yn ei gyflawni yn y Drenewydd yn fy etholaeth yn parhau i gael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru? Roedd yr awdurdod lleol, yn amlwg, yn defnyddio Jistcourt fel y cwmni i adeiladu'r datblygiad hwnnw, a bydd oedi bellach wrth gwrs wrth iddynt geisio dod o hyd i gontractwyr newydd ar gyfer y prosiect hwnnw. Byddai ymrwymiad o'r newydd i'r prosiect penodol hwnnw'n cael ei werthfawrogi'n fawr o safbwynt yr etholaeth.
Diolch. Gallaf gadarnhau na chafodd Llywodraeth Cymru unrhyw rybudd ymlaen llaw fod y cwmni o Bort Talbot yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr. Ni chysylltodd y cwmni â ni i ddweud eu bod mewn trafferth. Felly, ni allem roi'r wybodaeth honno i Gyngor Sir Powys. Cyn gynted ag y clywsom, gwnaethom ymdrech i gysylltu â'r cwmni'n uniongyrchol i ddeall y sefyllfa roeddent ynddi yn well ac i gynnig cefnogaeth. Mae swyddogion wedi cysylltu â'r busnes a'r gweinyddwr, ac mae rhai o gyn-weithwyr y busnes wedi cael gwybod am y gefnogaeth sydd ar gael drwy raglen ReAct Llywodraeth Cymru, ynghyd â chyngor ac arweiniad gan Gyrfa Cymru a'r Ganolfan Byd Gwaith. Nodaf hefyd, hyd y gallwn ddweud o ddadansoddiad llawn o gadwyn gyflenwi Dawnus, nad ydym wedi gweld unrhyw dystiolaeth i ddangos bod y cwmnïau'n agored i unrhyw risg ariannol yn sgil methiant Dawnus. Yn wir, roeddent yn gweithredu bron yn gyfan gwbl yn y maes tai cymdeithasol.
Y sefyllfa gyda Phowys, fel y mae'r Aelod yn ei nodi'n gwbl gywir, yw bod y cwmni wedi cael y contract i ddechrau gweithio ar y datblygiad £3.5 miliwn yn y Drenewydd, ac roedd disgwyl iddo ddechrau yn ystod yr wythnos neu ddwy ddiwethaf, ond mae'r safle ar gau o hyd. Roedd yn brosiect ar gyfer 26 o fflatiau un ystafell wely, y datblygiad tai fforddiadwy cyntaf ar gyfer rhentu cymdeithasol a gomisiynwyd gan Bowys ers dros 40 mlynedd. Roeddent wedi sicrhau grant o £2.1 miliwn gan Lywodraeth Cymru, o dan y rhaglen tai arloesol, i ariannu'r prosiect yn rhannol, ac rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda chyngor Powys, ac maent yn mynnu na fydd y cyllid ar gyfer y rhaglen tai arloesol yn cael ei effeithio. Fodd bynnag, bydd angen aildendro'r contract, a bydd hynny'n creu oedi cyn dechrau'r gwaith adeiladu, mae arnaf ofn.
Mae'r safle hwnnw ym Mhowys, fel y clywsom, wedi cau. Rydym yn meddwl, wrth gwrs, am bawb yr effeithiwyd arnynt a gâi eu cyflogi ar y prosiect hwnnw. Fodd bynnag, rwyf wedi clywed o nifer o ffynonellau ei bod hi'n ymddangos bod Jistcourt yn parhau i weithio ar gontract i osod ceginau mewn tai cyngor gyda Chyngor Dinas Bryste—contract sy'n werth oddeutu £6 miliwn yn ôl yr hyn a ddeallaf. Tybed a yw'r Gweinidog yn ymwybodol o hynny. Buaswn yn gwerthfawrogi unrhyw sylwadau ar hynny, ac efallai y gallai egluro sut yr ymddengys bod gwaith Jistcourt yn gallu parhau ar ôl iddynt fynd i ddwylo'r gweinyddwyr. Os nad yw'r Gweinidog yn ymwybodol o hynny, buaswn yn gwerthfawrogi pe gallai wneud ymholiadau brys a rhoi diweddariad i ni cyn gynted â phosibl. A hefyd, wrth gwrs, os yw'n briodol i'r gwaith hwn barhau ym Mryste mewn rhyw ffordd, pam nad yw'r un peth yn wir ym Mhowys? Dyna'r mathau o gwestiynau y gallem wneud ag atebion iddynt.
Wrth gwrs, nid Jistcourt yw'r cwmni adeiladu cyntaf o bell ffordd i fynd i ddwylo'r gweinyddwyr; rydym eisoes wedi trafod hynny. Fodd bynnag, hoffwn ofyn i'r Llywodraeth pa gynlluniau ehangach sydd ganddynt i gynnal gwiriad o gyflwr y sector adeiladu ehangach yng Nghymru. A oes achos dros archwilio cwmnïau adeiladu i sefydlu pa gwmnïau a allai fod mewn perygl? Mae'n amlwg fod yn rhaid i'r Llywodraeth fod yn ofalus ynglŷn â'r hyn y gallant ei ddweud yn gyhoeddus, ond mae cyhoeddiadau fel hyn yn peri pryder arbennig. Mae'n effeithio'n uniongyrchol ar lawer o weithwyr, ac wrth gwrs, cydnabyddir y gall sector adeiladu sy'n ei chael hi'n anodd fod yn faner goch, yn arwydd o newyddion drwg ar y ffordd yn yr economi ehangach.
Nid oeddwn yn ymwybodol fod gwaith yn dal i fynd rhagddo ym Mryste, ac rwy'n fwy na pharod i wirio hynny. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'r cwmni yn y broses o fynd i ddwylo'r gweinyddwyr, ond nid ydynt yn nwylo'r gweinyddwyr eto, ond byddaf yn sicr yn edrych ar hynny ac yn ymateb i'r Aelod. Mae'n amlwg yn siomedig gweld cwmni fel hwn yn mynd i drafferthion, gan ei fod yn gwmni gwreiddiedig, yn rhan o'r economi sylfaenol, a dyma'r union fath o gwmni rydym am weld beth arall y gallwn ei wneud i'w gefnogi a'i ddiogelu yn y dyfodol.
Hyd y gwyddom, digwyddodd hyn o ganlyniad i fusnes mewn trafferth; nid oedd yn ganlyniad uniongyrchol i unrhyw ffactor allanol y gallwn ei nodi. Roedd ganddynt gontractau i'w cyflawni bob amser, ond mae'n adlewyrchiad o'r amgylchedd busnes lle mae'n anodd i gwmnïau, yn enwedig cwmnïau llai, allu goroesi yn yr amgylchedd modern. Fel rhan o'r datblygiadau rydym yn eu rhagweld yn sgil Brexit, ofnwn y gallai hyn ychwanegu straen ychwanegol ar bob sector, ac mae'n bosibl y bydd y rheini sydd eisoes mewn trafferth yn ei chael hi'n anodd ofnadwy yn y dyfodol.
O ran cynnal archwiliad o bob cwmni, byddai'n rhaid i mi archwilio ymarferoldeb hynny, oherwydd ble y dowch i ben, o gofio ein bod yn gwybod beth fydd effaith bosibl Brexit? Gallai fod ar gyfer economi Cymru gyfan o bosibl.
Ddirprwy Weinidog, fel y gwyddoch, mae Jistcourt wedi'u lleoli yn fy etholaeth i ac mae'r rhan fwyaf o'r gweithwyr yn byw yn yr ardal, ac mae hyn yn peri cryn ofid i'r gweithwyr hynny a'u teuluoedd, ond rwy'n gwerthfawrogi'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i edrych i weld sut y gallwn sicrhau bod y bobl hynny'n dod o hyd i swyddi eraill mewn mannau eraill. Ond fel y dywed Rhun ap Iorwerth, mae hyn yn adlewyrchiad o'r sector adeiladu. Rydym wedi gweld Dawnus, Cuddy Group a Jistcourt bellach i gyd o fewn yr un rhanbarth yn mynd i drafferthion, ac mae rhai'n mynd i drafferthion oherwydd problemau llif arian, ac weithiau, mae'r problemau llif arian hynny'n digwydd oherwydd bod taliadau hirdymor, neu'r cyfnod talu lle maent yn cael elw am y gwaith a wnânt, yn mynd yn hirach ac yn hirach. A wnewch chi edrych ar sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi'r diwydiant adeiladu i geisio sicrhau bod unrhyw gaffael y mae Llywodraeth Cymru yn ymwneud ag ef yn cynnwys cyfnod talu byr iawn, fel y gall cwmnïau adeiladu fod yn sicr o gael eu talu o fewn 30 diwrnod fan bellaf, gan y gwn fod rhai ohonynt ar daliadau 120 diwrnod mewn gwirionedd, er mwyn sicrhau bod y llif arian yn cael ei leihau fel y gallant fwrw ymlaen â'u busnes? Oherwydd fel y dywedoch, roedd gan y cwmni hwn gontractau a oedd yn werth miliynau o bunnoedd. Felly, roedd ganddynt amcanestyniad. Nid oedd ganddynt y llif arian i barhau. Credaf fod angen i ni edrych ar sut y gallwn gefnogi'r mathau hynny o gwmnïau gyda'u llif arian, fel y gallant barhau i gyflawni'r contractau roeddent yn eu hennill, gan eu bod yn ennill ar sail ar eu profiad ac ansawdd yr hyn a wnânt, ond daethant wyneb yn wyneb â phroblem. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru edrych ar sut y gallwn helpu'r sector gyda'r math hwnnw o broblem?
Byddwn yn gwneud mwy o waith ar hyn. Roeddem eisoes yn cefnogi'r cwmni drwy Fanc Datblygu Cymru. Roedd ganddynt fenthyciad heb ei dalu yn y busnes, sydd wedi'i ddiogelu. Felly, darparwyd cefnogaeth gan ein banc datblygu, ond mae pwynt yr Aelod dros Aberafan yn gwbl gywir. Rydym yn gwneud gwaith mapio mewn perthynas â chaffael a chwmnïau gwreiddiedig fel rhan o'r gwaith ar yr economi sylfaenol i weld sut y gallwn gefnogi'r sector, a chyfarfûm â'r Gweinidog tai yn fwy diweddar yn Llanelli i drafod gydag adeiladwyr lleol rhanbarthol y problemau penodol y maent hwy'n eu hwynebu. Felly, rydym yn sicr yn ymwybodol o broblemau'r sector, ac rydym yn edrych i weld beth y gallwn ei wneud. Byddaf yn ystyried hyn ymhellach ac yn ysgrifennu at yr Aelod yn ei gylch.
Ac yn olaf, Caroline Jones.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, mae hon yn ergyd arall i fy rhanbarth—y ddiweddaraf mewn cyfres o achosion o golli swyddi. Roedd Jistcourt yn ehangu, wedi iddo gael ei brynu gan reolwyr dair blynedd yn ôl yn unig. Ac mae'r ffaith bod y cwmni'n gwneud colledion sylweddol er gwaethaf llyfr archebion cryf yn adrodd cyfrolau am gyflwr y sector tai cymdeithasol yng Nghymru. Mae gennym argyfwng tai, ond eto nid ydym yn adeiladu digon o dai cymdeithasol. Beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau ein bod yn cadw sector adeiladu bywiog yma yng Nghymru a sicrhau y gall y gweithwyr sy'n wynebu diswyddiadau ddod o hyd i swyddi addas eraill yn lleol? A fyddwch yn annog awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i gyflymu eu cynlluniau adeiladu? Diolch.
Fel rwyf wedi'i ddweud eisoes, nid oedd y cwmni wedi gofyn i Lywodraeth Cymru yn uniongyrchol am gymorth. Rydym bellach yn helpu'r gweithwyr i allu dod o hyd i swyddi eraill ac i ailhyfforddi. Rwy'n credu bod ein hymdrechion i gyflymu'r broses o adeiladu tai cyngor a thai cymdeithasol yn fwy cyffredinol wedi cael cryn dipyn o sylw yn y Siambr hon, ac yn sicr, rydym yn ymwybodol o'r angen i gefnogi'r sector ac i gefnogi cwmnïau gwreiddiedig yn benodol, ac mae hynny'n rhan o'n gwaith parhaus.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Weinidog.