Part of the debate – Senedd Cymru am 4:43 pm ar 26 Mehefin 2019.
Er bod yn rhaid cynnal yr ysgogiad i sicrhau mwy o amrywiaeth ddemocrataidd, cafwyd y Tŷ Cyffredin mwyaf amrywiol erioed yn etholiad cyffredinol y DU yn 2007, gyda chynnydd yn nifer y menywod, pobl LHDT, pobl ag anableddau a lleiafrifoedd ethnig a etholwyd, gan adlewyrchu'r cyfeiriad teithio a osodwyd eisoes yn Senedd Cymru. Fodd bynnag, fel y dywed ein hadroddiad, ni cheir cynrychiolaeth ddigonol o bell ffordd mewn llywodraeth leol yng Nghymru o ran menywod, pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl, pobl LHDT, pobl ifanc a phobl ar incwm is, ac nid yw'r gwaith o geisio unioni hyn wedi arwain at gynnydd digonol. Fel y clywodd y pwyllgor:
'Dim ond rhan o broblem amrywiaeth ehangach yw’r ffaith bod menywod wedi’u tangynrychioli mewn llywodraeth leol. Mae cynrychiolaeth gynyddol ymhlith pobl iau, y rhai o wahanol gefndiroedd economaidd-gymdeithasol, unigolion o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a’r gymuned lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol ac unigolion ag anableddau yn parhau i fod yn her sylweddol.'
Clywsom fod cronfa mynediad i swyddi etholedig eisoes yn bodoli yn Lloegr a'r Alban i gynorthwyo pobl anabl i sefyll etholiad, ond nid oes cronfa o'r fath yn bodoli yng Nghymru ar hyn o bryd. Roedd cefnogaeth eang yn y dystiolaeth dros gronfa o'r fath yng Nghymru, gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn dweud wrthym:
Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn nad ydym ar ei hôl hi yng Nghymru o ran darparu'r gefnogaeth honno.
Dywedodd y Gweinidog fod ganddi ddiddordeb mawr mewn profi pwerau Llywodraeth Cymru yn hyn o beth, gan ychwanegu ei bod yn mynd ati i edrych i weld a ellid creu cronfa ar gyfer pobl sy'n dymuno sefyll etholiad yng Nghymru. Felly, rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru, fel mater o flaenoriaeth, sefydlu cronfa mynediad i swydd etholedig yng Nghymru i gynorthwyo unigolion anabl i ymgeisio am swydd etholedig—ac ie, mewn seddi y gellir eu hennill. Dylid ymchwilio hefyd i'r posibilrwydd o ymestyn cronfa o'r fath i gefnogi grwpiau eraill heb gynrychiolaeth ddigonol.
Er bod rhywfaint o gefnogaeth i gwotâu, fel y clywsom, yn enwedig o ran rhywedd, mae ein hadroddiad yn datgan nad oedd yr holl dystion yn argyhoeddedig mai dyma'r ffordd orau ymlaen. Roedd cynrychiolwyr y Ceidwadwyr, UKIP a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn credu mai'r dewis o ymgeiswyr yw'r broblem, ac y dylid canolbwyntio ar geisio annog ystod ehangach o unigolion i sefyll. Fel y dywedodd cyflwyniad ysgrifenedig fy mhlaid,
Dylai'r Blaid Geidwadol wneud popeth yn ei gallu i annog ystod o ymgeiswyr sydd mor gynrychiadol â phosibl o'r ardal y maent yn dymuno ei gwasanaethu.
Eglurwyd hyn ymhellach gan gyfarwyddwr adolygu ffiniau fy mhlaid pan ddywedodd wrth y pwyllgor fod cadeirydd plaid y DU wedi gosod targed o geisio cael cydbwysedd o 50/50 ar y rhestr. A dywedodd ei fod yn credu mai cynyddu'r gronfa o ymgeiswyr benywaidd yw'r peth pwysicaf. Mae Women2Win yn arwain yr ymgyrch i gynyddu nifer y menywod sy'n gynghorwyr, Aelodau Cynulliad ac Aelodau Seneddol Ceidwadol drwy roi cymorth, cyngor a hyfforddiant i fenywod sydd eisiau mynd i mewn i lywodraeth leol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y Senedd neu sydd ond yn dymuno cymryd mwy o ran mewn gwleidyddiaeth, a thrwy hynny sicrhau bod fy mhlaid yn cynrychioli pobl Cymru a Phrydain, ac yn cynrychioli menywod yn deg ar bob lefel o wleidyddiaeth. Mae Women2Win Wales yn drawstoriad eang o fenywod a dynion o blith y Ceidwadwyr Cymreig sydd eisiau sicrhau bod menywod yn cael eu cynrychioli'n deg ar bob lefel o wleidyddiaeth drwy gael eu dewis ar gyfer seddi y gellir eu hennill.
Fel y trafodwyd yn adroddiad y pwyllgor, mae'r defnydd o rannu swyddi rhwng aelodau awdurdodau lleol wedi'i gyflawni'n llwyddiannus yng nghyngor dinas Abertawe. Fodd bynnag, er ei bod yn cefnogi'r egwyddor, nododd y Cynghorydd Debbie Wilcox, arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, fod anghysondeb bach yn y ddeddfwriaeth gyfredol, lle mae Deddf Llywodraeth Leol 2000 yn nodi na ellir cael mwy na 10 aelod gweithredol. Roedd hefyd yn amau a fyddai mwy o rannu swyddi rhwng aelodau gweithredol yn cael effaith sylweddol ar ddenu ystod ehangach o ymgeiswyr. Fodd bynnag, mae'n iawn fod adroddiad y pwyllgor yn galw am gynnwys darpariaethau i alluogi mwy o rannu swyddi rhwng aelodau anweithredol awdurdodau lleol yn y Bil llywodraeth leol ac etholiadau sydd ar y gweill.
Yn ei thystiolaeth i'r pwyllgor, cytunodd y Gweinidog fod angen edrych ar y prosesau cwynion corfforaethol mewn awdurdodau lleol ar ôl i mi ofyn iddi a ddylid gwahardd swyddog monitro rhag bod yn barti i gwynion am aelod, fel y digwyddodd yn Sir y Fflint, yn hytrach na gweithredu mewn rôl gynghori. Dywedodd fod swyddogion y cyngor yn gwasanaethu'r arweinwyr etholedig ond eu bod hefyd yn atebol i aelodau o feinciau cefn awdurdodau lleol, a bod angen cryfhau hyn yn y Bil arfaethedig hefyd. Rwy'n gobeithio ac yn hyderu y bydd yn bwrw ymlaen â'r addewid hwnnw ymhlith yr addewidion eraill a wnaeth. Diolch yn fawr.