Part of the debate – Senedd Cymru am 4:48 pm ar 26 Mehefin 2019.
Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad i'r ddadl hon drwy ddweud fy mod yn credu y dylai democratiaeth gynrychioliadol fod yn union hynny—dylai pwy a etholwn adlewyrchu ein cymdeithas yn ei holl amrywiaeth. O gofio ein bod yn fwy na 50 y cant o'r boblogaeth, mae cydbwysedd rhwng y rhywiau yn ein democratiaeth yn hanfodol. Ond rhaid i ni hefyd fabwysiadu dull gweithredu rhyngadrannol yn hyn o beth a gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud beth bynnag y gallwn i gynyddu cynrychiolaeth menywod o bob cefndir: menywod duon ac Asiaidd, hoyw a thrawsrywiol, menywod anabl, menywod ifanc a hŷn, menywod dosbarth gweithiol ac yn y blaen. Rwy'n cefnogi cwotâu er mwyn sicrhau'r cydbwysedd hwn, ond rwyf hefyd yn cydnabod bod anawsterau ymarferol yn ogystal â'r anghytundeb ar y pwyllgor, a dyna pam na lwyddasom i wneud argymhelliad i'r perwyl hwnnw.
Mae rhwystrau sylweddol i'w goresgyn os ydym am weld ystod fwy amrywiol o gynghorwyr, ac nid yr un hen fath o garicatur llwydwallt, gwyn a gwrywaidd sydd wedi dod yn ddelwedd ddiofyn o gynghorydd i lawer o bobl. Ac nid yw hynny'n diystyru'r gwaith gwych a wneir gan lawer o gynghorwyr ar draws Cymru sy'n gweithio'n ddiflino dros eu cymunedau. Ond mae'n bwysig tynnu sylw at y broblem hon yn ei hanfod. Ni cheir cynrychiolaeth ddigonol o fenywod, pobl LHDTQ+, pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, pobl ddosbarth gweithiol a phobl anabl, ac ni allwn gywiro'r methiant hwn i sicrhau cynrychiolaeth ddigonol heb drechu rhywiaeth, hiliaeth, homoffobia, trawsffobia, rhagfarn ar sail anabledd, a'r holl ragfarnau eraill sydd, yn anffodus, yn dal yn gyffredin iawn yn ein cymdeithas. Mae cyni a thlodi yn rhwystrau ychwanegol i annog amrywiaeth mewn llywodraeth leol. Rwy'n gobeithio, felly, y bydd y Llywodraeth yn ceisio gweithredu'r awgrymiadau sydd yn yr adroddiad pwyllgor hwn. Rhaid inni edrych ar y rhwystrau sy'n atal pobl rhag sefyll yn y lle cyntaf, a gellir gwneud hyn drwy fynd i'r afael â sawl mater megis cyfarfodydd hygyrch, gan sicrhau bod technoleg yn cael ei defnyddio'n fwy helaeth er mwyn i aelodau allu mynychu cyfarfodydd drwy gyfrwng ffôn neu Skype efallai, yn ogystal â darparu ar gyfer aelodau sydd ag ymrwymiadau gofal plant drwy gynnig gofal plant yn y cyfarfodydd, neu ganiatáu rhannu swydd, ymysg mesurau eraill.
Byddai dull mwy hyblyg o weithredu'n canolbwyntio ar ddileu'r rhwystrau rhyng-gysylltiol sylfaenol sy'n wynebu pobl rhag cael eu henwebu ar gyfer swydd etholedig a chynnal ymgyrchoedd llwyddiannus. Mae rhai rhwystrau yn y system ei hun. Felly, er enghraifft, mae menywod yn gwneud yn well o dan gynrychiolaeth gyfrannol nag y gwnânt mewn system y cyntaf i'r felin, ac mae hynny wedi'i amlygu gan Fforwm Economaidd y Byd. Yn yr etholiad llywodraeth leol diwethaf, roedd 98 y cant o'r ymgeiswyr yn wyn, 94 y cant yn heterorywiol a 34 y cant yn fenywod. Ar ôl yr etholiad, dim ond 26 y cant o gynghorwyr oedd yn fenywod. Yn ogystal â hynny, mae pobl anabl o dan anfantais sylweddol wrth sefyll etholiad gan ei bod yn bosibl na fydd rhai'n gallu curo ar ddrysau yn yr un ffordd ag y gall ambell Aelod yma a minnau.
Rhwystr arall i bobl sydd am sefyll etholiadau llywodraeth leol yw'r cam-drin y gall pobl ei hwynebu ar gyfryngau cymdeithasol. Rwy'n ymwybodol y bydd llawer o Aelodau yn y Siambr hon wedi profi'r math hwn o gam-drin, felly rydym yn gwybod yn iawn beth yw'r math o effaith y gall hynny ei chael. Gwn am rai pobl anhygoel o dalentog a fyddai'n gwneud cynrychiolwyr lleol da iawn, ond oherwydd diffyg cefnogaeth ac amddiffyniad i unigolion ar lefel leol yn ogystal ag ym myd y cyfryngau cymdeithasol, maent yn ymatal rhag gwneud hynny. Os ydym am gael y cynrychiolwyr gorau, rhaid inni eu helpu a'u hannog. Felly, rwy'n croesawu'r argymhelliad a wnaed yn yr adroddiad hwn fod yn rhaid i'r Llywodraeth bwyso ar y DU i sicrhau deddfwriaeth gref a chadarn i fynd i'r afael â cham-drin, bwlio ac aflonyddu ar y cyfryngau cymdeithasol.
Ni allwn ddianc rhag y ffaith bod angen i newid ddechrau ar y brig ac mae angen i'r Llywodraeth arwain drwy esiampl. O'r penodiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru rhwng mis Hydref 2017 a mis Mawrth 2019, roedd pob un o'r 170 penodiad yn wyn. Dylai'r Llywodraeth arwain drwy esiampl. Mae ffordd bell i fynd cyn ein bod yn sicrhau cymdeithas a gynrychiolir yn wirioneddol gyfartal, ond rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth o ddifrif ynghylch yr adroddiad hwn, yn gweld y cyfle hwn fel man cychwyn, ac yn gweithredu'r holl argymhellion.