Part of the debate – Senedd Cymru am 5:48 pm ar 26 Mehefin 2019.
Yn sicr, mae sefydliadau addysg uwch cryf yn bwysig yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol o ran cyfrannu at ein llewyrch ni fel cenedl. Dwi am siarad am impact economaidd addysg uwch yn bennaf. Mae'n digwydd ar nifer o lefelau, ac mi ddylai'r problemau a'r argyfwng rydym ni'n eu hwynebu yn y sector ar hyn o bryd fod yn canu larymau yn uchel iawn ynglŷn â'r peryglon economaidd.
O ran y cyfraniad economaidd i'r ardaloedd mae'r prifysgolion ynddyn nhw, yn gyntaf, rydym ni'n sôn mwy a mwy, fel y dylem ni, am werth yr economi sylfaenol—y foundational economy—ac yn y cymunedau a'r rhanbarthau y mae'r prifysgolion yn gweithio o'u mewn nhw, maen nhw'n rhai o'r cyfranwyr mwyaf at yr economïau sylfaenol hynny. Rydym ni'n sôn am nifer fawr o staff, rydym ni'n sôn am gyflogau da i lawer o'r staff hynny—cyflogau rhy uchel, yn achos rhai is-ganghellorion, wrth gwrs, sy'n fater pwysig i fynd i'r afael â fo. Lle mae cannoedd o swyddi wedi cael eu colli'n barod, mae impact economaidd hynny i'w deimlo yn drwm. Rydym ni'n sôn am gadwynau cyflenwi yn lleol, o gynnal a chadw ystadau i fwydo staff neu fwydo myfyrwyr. Rydym ni'n sôn am gyfraniad myfyrwyr, fel y gwnes i lawer gormod ohono fo, mae'n siŵr, at economïau gyda'r nos yn eu hardaloedd. Felly, mae yna gyfraniad economaidd eang.
Mae yna gyfraniad economaidd wedyn, wrth gwrs, sy'n deillio o'r sgiliau sy'n cael eu darparu gan y sector. Mae'r unigolion yn elwa o ddysgu sgiliau drwy addysg uwch—mae cymunedau a Chymru gyfan wedyn yn elwa o hynny. Yn anffodus, dydyn ni ddim, dwi ddim yn meddwl, wedi manteisio digon ar y potensial yma. Dwi'n meddwl bod methiant i fuddsoddi mewn system addysg uwch effeithiol yn rhan o'r rheswm pam fod gennym ni ormod o bobl â sgiliau isel, a hynny'n arwain wedyn at gyflogau rhy isel. Mae yna botensial wedi cael ei gloi mewn pobl yng Nghymru sydd ddim yn cael ei ryddhau fel y gallai fo drwy addysg uwch.
Mi ddefnyddia i'r cyfle yma hefyd i sôn am y brain drain rydym ni yn ei wynebu ar hyn o bryd. I fod yn glir, dwi a Phlaid Cymru'n credu y dylai myfyrwyr o Gymru gael astudio ym mhrifysgolion gorau'r byd, i gael cyfle i fyw a gweithio dramor fel y ces i wneud. Ond mae'n rhaid i ni wynebu'r sefyllfa bod Cymru yn dioddef colled net o'n graddedigion, ac mae gweld systemau cyllido, ar y cyd efo polisi Llywodraeth—drwy, er enghraifft, y rhaglen Seren; y rhaglen honno'n arbennig—mae'n annog y brain drain yna. A pha wlad ag unrhyw hunan-barch ac uchelgais fyddai am weld ein goreuon ni yn gadael heb wneud ymdrech i geisio eu cadw nhw neu eu denu nhw yn ôl?
Os ydym ni am gefnogi myfyrwyr i fynd i ble bynnag maen nhw'n dymuno i fagu sgiliau newydd—a fel dwi'n dweud, does gen i ddim gwrthwynebiad i hynny—os ydym ni'n gyrru arian ar eu holau nhw allan o Gymru, mae'n rhaid sicrhau bod hynny ddim yn tanseilio y sefydliadau sydd gennym ni yn ariannol, sydd wedyn yn arwain at ddiffyg buddsoddiad, sy'n arwain at y peryg o ostwng safonau, sydd wedyn yn eu gwneud nhw'n llai apelgar i fyfyrwyr o Gymru, sydd wedyn yn ystyried mynd i astudio i Loegr yn lle. Mae o'n gylch dieflig na allwn ni ddim ei anwybyddu.
Allwn ni chwaith ddim jest ffarwelio efo myfyrwyr am eu blynyddoedd prifysgol heb (a) eu dilyn nhw yn ofalus iawn, eu tracio nhw i wybod ble maen nhw'n mynd, beth maen nhw'n ei wneud—ac mi fuasai'n dda gen i glywed y Gweinidog yn egluro pa system dracio, debyg, sydd mewn bodolaeth, a beth ydy nod y system honno a beth ydy'r cynllun i gadw mewn cysylltiad efo myfyrwyr—a (b) heb gynllun clir, wedyn, i'w denu nhw nôl i weithio ar ôl graddio, yn cynnwys drwy ddefnyddio cymhellion ariannol.
Yn olaf, gwaith ymchwil cwbl allweddol ein prifysgolion ni—ymchwil, wrth gwrs, sy'n gyrru twf economaidd. Mi soniaf i am Gaerdydd; mae'r ffigurau gen i fan hyn. Fel cyfrannwr allweddol at economi Cymru, yn 2016-17, roedd y brifysgol yn cyfrannu dros £3 biliwn at economi'r Deyrnas Unedig, a dros £2 biliwn o hwnnw yn hwb i Gymru yn benodol. Mae ymchwil QR yn rhan ganolog o hyn, ond mae gwariant ar ymchwil a datblygiad yn cwympo y tu ôl i rannau eraill y Deyrnas Unedig—yn cwympo y tu ôl i'r Alban, yn sicr, yn sylweddol. Mae hynny'n effeithio ar allu Cymru i arloesi. Mae Prifysgol Caerdydd yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru, er enghraifft, fod yn gwneud llawer mwy i ariannu beth maen nhw'n ei alw'n ymchwil arloesol, challenge-led, yn ogystal â chynnal lefel yr ymchwil safonol QR. Mi fyddai hynny, dwi'n meddwl, yn mynd rhywfaint o'r ffordd i ddad-wneud yr anfantais mae Cymru yn ei wynebu ar hyn o bryd. Yn syml iawn, os ydy Cymru am fod yn llewyrchus, mae'n rhaid i ni gael sector R&D llewyrchus yn dod drwy ein prifysgolion ni.
Felly, i gloi, mae'n glir bod y sector addysg uwch yn hanfodol, yn allweddol i'n heconomi ni. Os na sicrhawn ni gynaliadwyedd y sector honno, rydym ni'n siŵr o dalu pris uchel iawn.