Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 2 Gorffennaf 2019.
Diolchaf i Jack Sargeant am hynna, Llywydd. Mae cefnogi canol ein trefi a'n strydoedd mawr yn rhan fawr o'n hymdrech adfywio. O gymryd cyllid a ysgogwyd i ystyriaeth, erbyn yr adeg y bydd ein rhaglen bresennol wedi ei chwblhau, bydd dros £800 miliwn wedi ei fuddsoddi yng nghanol ein trefi ers 2014.