Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 2 Gorffennaf 2019.
Mae gwasanaethau yn ysbyty Llwynhelyg yn parhau i fod yn seiliedig ar uned dan arweiniad bydwragedd. Rwyf i wedi gweld adroddiadau yn y wasg sy'n awgrymu na fydd yr uned dan arweiniad bydwragedd rywsut yn rhan o'r gwasanaeth a ddarperir gan Lwynhelyg yn y dyfodol. Fy nealltwriaeth i yw nad yw hynny'n wir—bod trafodaethau yn parhau gyda staff yn ysbyty Llwynhelyg ynglŷn â sut i integreiddio'r uned dan arweiniad bydwragedd yn well gyda gwasanaethau bydwragedd cymunedol. Mae hynny'n ymddangos i mi fel uchelgais synhwyrol i'r bwrdd iechyd—i wneud y defnydd gorau o'r staff sydd ganddo a chynnig y gwasanaethau gorau i'r bobl sydd eu hangen nhw. Yn hynny i gyd, nid oes unrhyw awgrym na fydd yr uned dan arweiniad bydwragedd yn parhau i fod ar gael am 24 awr bob dydd.