1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 2 Gorffennaf 2019.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae cod y gweinidogion yn dweud y dylai Gweinidogion ymddiheuro os byddant yn dweud rhywbeth sy'n anghywir. Pam dylai eich Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth orfod ymddiheuro am ddweud rhywbeth sy'n iawn? [Chwerthin.]
Wel, Llywydd, nid wyf i'n credu bod hynny'n wir.
Pa ddarn? A ydych chi'n gwadu—? Mae'r BBC yn adrodd bod Gweinidog yr economi yn ymddiheuro am ei sylwadau ar economi Cymru. Mae'n rhaid i mi ddweud, o ddarllen yr adroddiad—darllen Ken Skates yn ail-ddehongli i ni yr hyn yr oedd Lee Waters yn ei olygu mewn gwirionedd—braidd yn debyg i ddarllen y neges trydar enwog honno gan Andrew Adonis yn clodfori rhinweddau polisi Brexit Jeremy Corbyn. Nawr, gallaf ddeall eich anhawster gyda rhan gyntaf datganiad Lee Waters,
Am 20 mlynedd rydym ni wedi cymryd arnom ein bod ni'n gwybod beth yr ydym ni'n ei wneud o ran yr economi—a'r gwir yw nad ydym ni, er fy mod i'n credu ei fod yn llygad ei le bod syniadau confensiynol wedi methu, a'u bod wedi methu yma yng Nghymru yn fwy eglur nag yn unman arall. Ond y cwbl yw ail ran ei ddatganiad yw datganiad o ffaith eich bod chi wedi sicrhau cynnyrch mewnwladol gros sefydlog, o safbwynt cymharol, am 20 mlynedd. Pennodd y Llywodraeth yr oeddech chi'n uwch gynghorydd ynddi darged o sicrhau 90 y cant o incwm y DU fesul pen. Mewn gwirionedd, rydym ni yn y 70au isel erbyn hyn—yn union lle'r oeddem ni, fel y dywed Lee Waters, 20 mlynedd yn ôl. Siawns mai Llywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd ddylai fod yn ymddiheuro am hynny, nid eich dirprwy Weinidog yr economi am wneud dim mwy na thynnu sylw at hynny?
Wel, Llywydd, gadewch i mi nodi'r gwir yn y fan yma. Pan adroddwyd geiriau Lee Waters, roedd yn siarad mewn modd heb ei sgriptio mewn trafodaeth gyda chynulleidfa, ac rwyf i eisiau Gweinidogion mewn Llywodraeth Cymru sy'n gallu trafod materion ag eraill ac yn gallu herio'r Llywodraeth ei hun o ran y ffordd y mae ein polisïau'n cael eu gweithredu. Y gwir am economi Cymru dros yr 20 mlynedd hynny yw ein bod ni'n eu cloi gyda'r lefelau cyflogaeth uchaf a fu gennym erioed. Rydym ni'n eu cloi gyda'r lefelau isaf o anweithgarwch economaidd a fu gennym erioed. Rydym ni'n eu cloi gydag un o'r lefelau twf busnes uchaf a fu gennym erioed. Mae gennym ni'r perfformiad rhanbarthol gorau o ran creu swyddi drwy fewnfuddsoddiad o'i gymharu ag unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig. Mae gennym ni allforion a gynyddodd yng Nghymru unwaith eto y llynedd, 7.5 y cant. Dyma ffeithiau economi Cymru, ac roeddwn i'n falch iawn o gyfarfod â Ieuan Wyn Jones unwaith eto neithiwr a'i glywed yn siarad am yr adeg pan yr oedd ef yn gyfrifol am economi Cymru a'r polisïau a ddilynodd bryd hynny. Sylwais pan fydd yr Aelod, fel y mae'n arfer ei wneud, yn bwrw ei olwg eang ar draws 20 mlynedd, nad yw byth yn ein hatgoffa o'r ffaith bod ei blaid ef yn gyfrifol am yr economi yn ystod yr adeg y mae newydd ddweud wrthyf fi bod popeth yn methu drwyddi draw. Nid wyf i'n cytuno ag ef. Nid oedd yn methu bryd hynny. Nid yw wedi methu drwy'r 20 mlynedd ychwaith. Lle'r oedd Lee Waters yn gwbl gywir oedd i dynnu sylw at y ffaith, mewn economi sy'n cael ei herio gan gyni cyllidol, sy'n cael ei herio gan Brexit, sy'n cael ei herio gan awtomeiddio, sy'n cael ei herio gan bwysau globaleiddio, na fydd y ffyrdd y mae pob Llywodraeth wedi ymateb i heriau economaidd dros yr 20 mlynedd diwethaf yn ddigonol ynddynt eu hunain ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf, ac felly byddwn ni angen atebion newydd, arbrofi newydd, gwahanol ffyrdd o fynd i'r afael â'r heriau hyn, ac yn hynny o beth, roedd yn llygad ei le.
Edrychwch, os ydych chi'n dweud eich bod chi'n croesawu, mewn gwirionedd, her feirniadol i Weinidogion a gwyro o'r sgript, pam y gofynnwyd iddo neu y mae wedi teimlo ei bod yn angenrheidiol iddo ymddiheuro? Gan ein bod ni'n sôn am awtomeiddio, y peth diwethaf yr ydym ni ei eisiau yw Gweinidogion sy'n ymddwyn fel robotiaid. Mae Lee Waters yn gywir yn ei ddadansoddiad, ac a dweud y gwir, gan eich bod chi'n sôn am Ieuan Wyn Jones, cyhoeddodd Ieuan, pan oedd yn Weinidog, strategaeth economaidd a oedd yn dweud nad y model economaidd, yn pwysleisio buddsoddiad uniongyrchol o dramor dros fuddsoddiad cynhenid, yn pwysleisio grantiau dros fenthyciadau, oedd y model cywir. Roedd Ieuan yn iawn bryd hynny; mae Lee Waters yn iawn nawr. Yn anffodus, nid yw'r polisi wedi newid, a dyna'r realiti sydd, yn fy marn i, wedi ei amlygu gan sylwadau Lee Waters. Nawr, un o ganlyniadau hyn, fel y mae Canolfan Llywodraethiant Cymru yn ei nodi heddiw, yw'r bwlch cyllidol rhwng y refeniw a godir yng Nghymru a gwariant cyhoeddus. A ydych chi'n credu y dylai cau'r bwlch hwnnw a, thrwy oblygiad, y bwlch incwm rhwng Cymru a gweddill y DU, fod yn nod pendant i'ch Llywodraeth? A wnewch chi bennu targed y tro hwn y byddwch chi'n ymdrechu mewn gwirionedd i'w gyrraedd?
Wel, rwy'n credu bod cau'r bwlch cyllidol yn uchelgais wirioneddol i unrhyw Lywodraeth Cymru. Yn sicr, byddai'n rhaid iddo fod yn uchelgais i Lywodraeth dan arweiniad yr Aelod sy'n ceisio tynnu Cymru allan o'r Deyrnas Unedig, oherwydd wedyn bydd yn rhaid iddo ddod o hyd i ffordd o esbonio i etholwyr Cymru sut y bydd y £13 biliwn sy'n cael ei wario yng Nghymru yn uwch na'r hyn a godir mewn trethi yma yng Nghymru yn cael ei lenwi gan ei Lywodraeth pan nad yw'r £13 biliwn hynny ar gael mwyach i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Felly, ydy, mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig, ond pwysigrwydd y pwynt mewn gwirionedd—i unrhyw blaid sy'n ceisio tynnu Cymru allan o'r Deyrnas Unedig ac yna gofyn y cwestiwn—sut y gwnaiff pobl Cymru ymdopi wedyn, pan na fydd ganddyn nhw nid dim ond ychydig o fwlch, ond gwerth £13 biliwn o fwlch y byddai'n rhaid i'w blaid ddod o hyd i ffordd i'w lenwi? Ac ni allan' nhw wneud hynny, ac maen nhw'n gwybod na allan' nhw wneud hynny, a bydd yn rhaid iddyn nhw ei esbonio.
Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am wasanaethau mamolaeth yn ysbyty Llwynhelyg?
Mae gwasanaethau yn ysbyty Llwynhelyg yn parhau i fod yn seiliedig ar uned dan arweiniad bydwragedd. Rwyf i wedi gweld adroddiadau yn y wasg sy'n awgrymu na fydd yr uned dan arweiniad bydwragedd rywsut yn rhan o'r gwasanaeth a ddarperir gan Lwynhelyg yn y dyfodol. Fy nealltwriaeth i yw nad yw hynny'n wir—bod trafodaethau yn parhau gyda staff yn ysbyty Llwynhelyg ynglŷn â sut i integreiddio'r uned dan arweiniad bydwragedd yn well gyda gwasanaethau bydwragedd cymunedol. Mae hynny'n ymddangos i mi fel uchelgais synhwyrol i'r bwrdd iechyd—i wneud y defnydd gorau o'r staff sydd ganddo a chynnig y gwasanaethau gorau i'r bobl sydd eu hangen nhw. Yn hynny i gyd, nid oes unrhyw awgrym na fydd yr uned dan arweiniad bydwragedd yn parhau i fod ar gael am 24 awr bob dydd.
Prif Weinidog, mae uwch reolwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ei gwneud yn gwbl eglur mewn sylwadau heddiw i'r wasg eu bod nhw'n bwriadu newid gwasanaethau mamolaeth yn yr ysbyty, ac mae'n warth bod y gwasanaethau mamolaeth yn cael eu lleihau i wasanaeth ar alwad, y tu allan i oriau arferol er gwaethaf eich sylwadau blaenorol nad oedden nhw. Gadewch i mi eich atgoffa o'r hyn a ddywedasoch wrthyf ym mis Mawrth yn yr union Siambr hon, a dyfynnaf:
'nid oes unrhyw gynigion o unrhyw fath i wneud newid i'r gwasanaeth a ddarperir yno.'
Mae hyn yn nodweddiadol iawn o ddull eich Llywodraeth, onid yw, tuag at ein GIG yng Nghymru? Rydych chi'n dweud un peth wrthym ni yn y Siambr hon ond mae'r hyn yr ydych chi'n ei wneud mewn gwirionedd yn gwbl wahanol. Hyd yma, yn ein trafodaethau, rydym ni wedi sôn am y ffaith bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod yn destun mesurau arbennig am fwy na phedair blynedd, a Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn dod yn destun mesurau arbennig, ac rydym ni'n gweld nawr, yn ystod y dyddiau diwethaf, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn y newyddion. Mae'r cyn-gadeirydd, yr wyf i'n credu eich bod chi'n ei adnabod yn eithaf da, Prif Weinidog, Andrew Davies, wedi bod yn feirniadol iawn o ficroreoli'r bwrdd iechyd gan eich Llywodraeth. A ydych chi'n cytuno ag ef nad yw graddau'r craffu mewn gwirionedd yn helpu'r bwrdd iechyd i ddatrys ei broblemau?
Llywydd, gofynnodd yr Aelod gwestiwn cyntaf i mi am fanylion un uned mewn un ysbyty mewn un rhan o Gymru, gan ddisgwyl i mi allu ateb y cwestiwn hwnnw, fel yr wyf i'n awyddus i'w wneud. Yna, mae'n dymuno cyhuddo Llywodraeth Cymru o ficroreoli'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Ni all ei chael hi bob ffordd. Mae Llywodraeth Cymru, yn gwbl briodol, yn cymryd diddordeb priodol mewn cyflawni cyfrifoldebau byrddau iechyd, a phan fydd byrddau iechyd yn wynebu heriau, fel, er enghraifft, yr wynebodd bwrdd iechyd Bae Abertawe heriau dros y gaeaf diwethaf hwn o ran gwneud yn siŵr bod mynediad at wasanaethau brys i gleifion yn yr ardal honno, mae'n gwbl gywir a phriodol bod Llywodraeth Cymru yn cymryd diddordeb uniongyrchol yn hynny, ac rydym ni'n gwneud hynny yn y gaeaf yn arbennig gan ein bod ni'n gallu cynorthwyo byrddau iechyd i wneud yn siŵr y gellir cyfeirio cleifion i'r rhan honno o'r gwasanaeth iechyd lle mae cyfleusterau ar gael ar iddyn nhw yn fwyaf cyflym.
Felly, nid oes gen i unrhyw ymddiheuriad i'w wneud am y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn cymryd y diddordeb uniongyrchol hwnnw. Rydym ni'n gwneud hynny ar ran cleifion yng Nghymru. Ond mae'n amhosibl, Llywydd, i'r aelod haeru ar y naill law ei bod hi'n anghywir i Lywodraeth Cymru gymryd diddordeb yn yr hyn y mae byrddau iechyd yn ei wneud ac yna disgwyl gofyn cwestiynau yma am faterion manwl iawn sydd, yn y pen draw, yn gyfrifoldeb i'r bwrdd iechyd hwnnw.
Wel, bwrdd iechyd arall yw hwn, Prif Weinidog, nad yw'n gwneud yn dda iawn, gan fod yr amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ar gyfer y bwrdd iechyd 19 y cant yn is na'ch targed—unwaith eto, un nad yw erioed wedi cael ei gyrraedd—ac mae cwynion am y bwrdd iechyd wedi codi 29 y cant yn 2018. Yr hyn sy'n frawychus i mi, Prif Weinidog, yw bod Andrew Davies yn sôn am y pwyslais cyson ar dargedau tymor byr, microreoli gan swyddogion Llywodraeth Cymru, ac fel y mae Mr Davies yn ei ddweud, gyda rhywfaint o graffu nad yw'n eu helpu nhw i fwrw ymlaen â datrys y broblem.
Nawr, yn ein trafodaethau blaenorol, mae eich Gweinidog iechyd wedi wfftio'r syniad o bennu targedau i gael Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig, ac mae wedi ei gwneud yn eglur na fydd yn pennu targedau mympwyol i wella gwasanaethau i bobl leol. Felly, pam, Prif Weinidog, mae eich Llywodraeth yn microreoli un bwrdd iechyd, ond yn gadael un arall mewn trafferthion? A yw'n wir bod eich Dirprwy Weinidog yr Economi yn gywir—nad yw eich Llywodraeth yn gwybod beth mae'n ei wneud?
Llywydd, roedd y Gweinidog iechyd 100 y cant yn gywir pan ddywedodd na fyddwn yn pennu targedau mympwyol. Pam yn y byd y byddem ni'n gwneud hynny? Rydym ni'n pennu targedau sydd, yn ein tyb ni, yn gwneud synnwyr er budd clinigol cleifion, a phe bawn i wedi ateb yr Aelod yn y gaeaf, pan ofynnodd gwestiynau i mi am ambiwlansys yn aros yn Ysbyty Treforys, trwy ddweud nad oes gan y Llywodraeth hon ddiddordeb mewn targedau tymor byr, gallaf ddychmygu'r hyn y byddai wedi ei ddweud am hynny. Dyna'r rheswm pam y cymerodd Llywodraeth Cymru ddiddordeb mawr ym mherfformiad bwrdd iechyd Abertawe Bro Morgannwg fel yr oedd ar y pryd dros y gaeaf. Dyna pam yr oeddem ni'n ymgysylltu ar y ffôn yn sicrhau bod popeth y gellid ei wneud yn cael ei wneud, er mwyn sicrhau bod llif drwy'r ysbyty hwnnw, bod cleifion yn gallu cael eu rhyddhau o ambiwlansys i mewn i'r adran damweiniau ac achosion brys, yn cael eu gweld yn brydlon, eu rhyddhau gartref pryd bynnag yr oedd hynny'n bosibl. Mae'r rheini'n dargedau priodol. Mae'r rheini'n dargedau nad ydyn nhw yn fympwyol. Mae'r rheini'n dargedau sy'n canolbwyntio ar anghenion clinigol cleifion, ac ni fydd y Llywodraeth byth yn camu'n ôl rhag gwneud yr hyn y gallwn ei wneud i helpu byrddau iechyd i gyrraedd y targedau hynny a'u helpu i wneud yn siŵr eu bod nhw'n canolbwyntio ar eu cyrraedd er budd cleifion.
Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol a'r Gymraeg ddatganiad o'r diwedd ar ymweliad â Dulyn. Meddai:
'Prif ffocws fy ymweliad oedd cyfarfod wyneb yn wyneb gyda'r Tánaiste a'r Gweinidog Materion Tramor, Simon Coveney.'
Mae hi'n mynd yn ei blaen:
'Yn fy holl gyfarfodydd gyda llywodraeth Iwerddon' roedd
'anghrediniaeth o hyd i Gymru bleidleisio fel ag y gwnaeth yn 2016.'
Prif Weinidog, onid yw hynny'n hynod amhriodol? Sut y byddai pobl Iwerddon yn teimlo pe byddai Gweinidogion y DU yn mynegi anghrediniaeth bod Iwerddon wedi pleidleisio o blaid annibyniaeth? Oni ddylem ni, yn hytrach, fod yn dweud wrth Iwerddon bod angen iddyn nhw symud mater y 'backstop' yn ei flaen os ydyn nhw eisiau osgoi sefyllfa 'dim cytundeb'?
Llywydd, ar y naill law mae'r Aelod yn cwyno oherwydd bod y Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol yn adrodd yr hyn a ddywedwyd wrthi gan uwch aelodau'r Llywodraeth yn y Weriniaeth, ac yna mae eisiau i mi gyfarwyddo'r un Llywodraeth honno ar agweddau y dylen nhw fod yn eu cymryd at y 'backstop'. Y pethau a adroddwyd gan y Gweinidog yw'r pethau yr ydym ni'n gwybod sy'n cael eu dweud yn feunyddiol am yr agwedd y mae Llywodraeth y DU wedi ei mabwysiadu at yr holl drafodaethau Brexit ac at ei methiant i gydnabod arwyddocâd y ffin ar ynys Iwerddon. Roeddwn i'n ddigon ffodus, Llywydd, i allu trafod y materion hyn gyda'r Taoiseach yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yr wythnos diwethaf. Mae'r rhain yn faterion gwirioneddol ddifrifol sy'n effeithio ar heddwch cymunedau ar ynys Iwerddon, ac nid yw eu diystyru a dweud wrth Lywodraeth arall sut y dylen nhw ymdrin â'r mater hwn wir yn cyd-fynd â difrifoldeb y materion hynny o gwbl.
Felly, Prif Weinidog, rydych chi'n honni eich bod chi eisiau osgoi 'dim cytundeb', ond yr unig fesur sydd wedi pasio yn Nhŷ'r Cyffredin yw'r un y dylai'r 'backstop' gael ei ddisodli gan drefniadau eraill. A beth bynnag yw eich safbwyntiau eich hun, siawns eich bod yn cydnabod mai'r 'backstop' hwnnw sydd yn rhwystr enfawr i ddod i gytundeb a fyddai'n caniatáu i ni adael yr UE gyda chytundeb yn hytrach na heb gytundeb, a'i basio. Ac nid oes unman mwy nag Iwerddon, yn ogystal â rhannau o'r Deyrnas Unedig—yn y tymor agos o leiaf—a fydd yn wynebu heriau sylweddol os nad oes cytundeb. Os ydym ni eisiau osgoi hynny, siawns y dylem ni, yn hytrach na mynegi anghrediniaeth ynghylch y modd y pleidleisiodd ein gwlad ein hunain, fod yn cefnogi'r achos i ni gytuno ar drefniadau synhwyrol, yn hytrach na 'backstop' sy'n ein cloi ni yn yr undeb tollau a'r farchnad sengl oni bai eu bod nhw'n rhoi caniatâd i ni adael na chawn ni gytuno arno.
Felly, gwelaf fod y Swyddfa Dramor bellach wedi ehangu ei pholisi o wneud i chi deithio ar fws ym Mrwsel i Lywodraeth yr Alban, ar ôl i'r Prif Weinidog yno hyrwyddo annibyniaeth ar daith i'r Unol Daleithiau gyda chyfleusterau'r Swyddfa Dramor. Prif Weinidog, fe wnaethoch chi sôn gynnau am y bwlch cyllidol o £13 biliwn y byddem ni'n ei wynebu pe byddem ni'n annibynnol yng Nghymru, ac eto rydych chi'n closio at yr SNP fel pe byddech chi'n arwain Llywodraeth sydd eisiau chwalu'r Deyrnas Unedig mewn gwlad a bleidleisiodd i aros. [Torri ar draws.] Ond dydych chi ddim, a wnaethom ni ddim. Prif Weinidog, a ydych chi'n cydnabod bod cannoedd o filoedd o bobl, a oedd yn arfer pleidleisio dros Lafur, wedi pleidleisio dros 'adael'? Prif Weinidog, onid ydych chi wedi eu bradychu nhw erbyn hyn a chithau'n blaid sydd o blaid aros?
Llywydd, gadewch i mi geisio canfod tri phwynt o'r hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud y gallwn i geisio eu hateb. Yn gyntaf oll, mae'n ddyletswydd ar y bobl hynny sy'n siarad am drefniadau amgen ar y ffin ar ynys Iwerddon ddod i egluro i ni sut y bydd y trefniadau amgen hynny'n gweithredu. Nid oes diben mewn dim ond dweud bod ffyrdd eraill y gellid gwneud hyn. Mae'n rhaid i'r bobl hynny sy'n credu hynny gyflwyno cynllun credadwy ynghylch sut y gellir cyflawni hynny. Nid oes dim yr wyf i wedi ei ddarllen na'i weld na'i glywed gan yr Aelod na neb arall sy'n gwneud yr haeriad hwnnw yn fy arwain i gredu bod cyfres o gynigion gwirioneddol fanwl ac ymarferol a fyddai'n caniatáu i'r 'backstop' gael ei ddileu ar y pwynt hwn yn y trafodaethau. Os oes rhai, dylai pobl gyflwyno'r syniadau hynny. Gofynnodd Mrs May, mi wn, dro ar ôl tro, i'r Aelodau hynny ar ei hochr ei hun a gynigiodd y gellid gwneud y pethau hyn roi'r wybodaeth iddi a fyddai'n caniatáu iddi wneud y cynnig hwnnw'n gredadwy. Nid oeddwn nhw'n gallu gwneud hynny, nid oedd hi'n gallu gwneud hynny ac yn sicr ni all yr Aelod yn y fan yma wneud hynny.
Gadewch i mi ymdrin â'r pwynt a wnaeth am y Swyddfa Dramor, oherwydd mae'n arwain at ei bwynt ynglŷn â'r undeb. Mae gweithredoedd y Swyddfa Dramor o ran Llywodraethau Cymru a'r Alban wedi bod yn rhai anneallus dros ben. Nid wyf i byth yn mynd dramor i feirniadu Llywodraeth y DU; rwy'n mynd i wneud y pwyntiau sy'n cael eu gwneud yn y Siambr hon ac rwyf i'n eu gwneud ar ran Cymru. Pe byddai'r Swyddfa Dramor yn credu am eiliad na fyddwn i'n dweud y pethau y credaf ei bod hi'n bwysig eu dweud ar ran Cymru trwy ddweud na allwn i gael lifft yn un o'u ceir—lifft, gyda llaw, yr ydym ni'n talu amdano; nid yw'n lifft am ddim, rydym ni'n talu amdano bob tro yr ydym ni'n ei ddefnyddio. Pe bydden nhw'n meddwl y byddai hynny'n peri i mi newid fy meddwl, yna mae hynny'n dweud wrthych chi pa mor ychydig y mae'r adran honno yn ei ddeall ar realiti'r ffordd y mae'r Deyrnas Unedig yn gweithredu.
Mae hynny'n bwysig i mi, Llywydd, oherwydd fy mod i'n credu yn y Deyrnas Unedig. Rwyf i eisiau i'r Deyrnas Unedig fod yn llwyddiant, ac rwyf i eisiau i Gymru fod yn rhan lwyddiannus o Deyrnas Unedig lwyddiannus. Ond pan fydd y Swyddfa Dramor yn gweithredu yn y ffordd lawdrwm honno, yna'r cwbl y mae'n ei wneud yw rhoi hwb cysylltiadau cyhoeddus i'r bobl hynny sydd â gwahanol syniad ynghylch y dyfodol. Ac yn y pen draw, yr unoliaethwyr sy'n peri'r bygythiad mwyaf i'r undeb, oherwydd nid ydyn nhw'n fodlon cymryd y materion hyn o ddifrif ac maen nhw'n ymddwyn yn y mathau ffôl hynny o ffyrdd herfeiddiol. Bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i ddadlau'r achos dros y modd y gall y Deyrnas Unedig weithredu'n llwyddiannus yr ochr arall i Brexit, pe byddai hynny'n digwydd, a byddai'n wych, oni fyddai, pe byddai'r bobl hynny sy'n codi eu lleisiau fel pe bydden nhw'n berchen ar yr undeb yn barod i gymryd rhan mewn sgwrs o'r math hwnnw?