Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 2 Gorffennaf 2019.
Wel, diolchaf i Nick Ramsay am wneud y pwynt pwysig yna. Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi swyddfeydd post ledled Cymru ers tro, ac rydym ni'n gweld y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud yn llwyr. Ac, wrth ateb cwestiwn Jack Sargeant, efallai y dylwn i fod wedi dweud, wrth ddatblygu'r syniad o fanc cymunedol i Gymru, ein bod ni'n gwbl benderfynol bod yn rhaid iddo fod yn rhan ategol o'r gyfres ehangach honno o wasanaethau ariannol, boed nhw'n undebau credyd, boed nhw'n swyddfeydd post, neu, ar ben arall y sbectrwm, Banc Datblygu Cymru. Rydym ni eisiau banc cymunedol sy'n llenwi bwlch priodol yn yr amrywiaeth o wasanaethau ariannol sydd gennym ni, ac mae'r cyfraniad parhaus y mae swyddfeydd post yn ei wneud mewn llawer o gymunedau yng Nghymru yn un yr ydym ni'n ei gydnabod.