Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 2 Gorffennaf 2019.
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol a'r Gymraeg ddatganiad o'r diwedd ar ymweliad â Dulyn. Meddai:
'Prif ffocws fy ymweliad oedd cyfarfod wyneb yn wyneb gyda'r Tánaiste a'r Gweinidog Materion Tramor, Simon Coveney.'
Mae hi'n mynd yn ei blaen:
'Yn fy holl gyfarfodydd gyda llywodraeth Iwerddon' roedd
'anghrediniaeth o hyd i Gymru bleidleisio fel ag y gwnaeth yn 2016.'
Prif Weinidog, onid yw hynny'n hynod amhriodol? Sut y byddai pobl Iwerddon yn teimlo pe byddai Gweinidogion y DU yn mynegi anghrediniaeth bod Iwerddon wedi pleidleisio o blaid annibyniaeth? Oni ddylem ni, yn hytrach, fod yn dweud wrth Iwerddon bod angen iddyn nhw symud mater y 'backstop' yn ei flaen os ydyn nhw eisiau osgoi sefyllfa 'dim cytundeb'?