Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 2 Gorffennaf 2019.
Wel, Llywydd, dyna'n union y byddem ni'n disgwyl iddo ddigwydd, ond clinigwyr sy'n gwneud y penderfyniadau hyn, nid gwleidyddion, ac mae'n iawn bod clinigwyr yn rhoi'r cyngor hwnnw i unigolion o ran ble, yn union fel y dywedodd Caroline Jones, y gall unigolion gael y driniaeth orau ar gyfer eu hanghenion. Nid wyf i, wrth gwrs, yn ymwybodol o fanylion yr achos unigol, ond rwy'n gwbl sicr bod y penderfyniadau, a ddylai fod yn unol â'r polisi a amlinellwyd, yn cael eu gwneud gan bobl sydd â'r arbenigedd clinigol angenrheidiol i ddarparu'r cyngor cywir i gleifion, o ble bynnag y daw'r cleifion hynny a beth bynnag fo'u cefndir.