1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 2 Gorffennaf 2019.
3. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r lluoedd arfog? OAQ54157
Mae adroddiad blynyddol cyfamod y lluoedd arfog Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Mai, yn nodi'r camau yr ydym ni'n eu cymryd i gefnogi cyn-filwyr yng Nghymru, o ran cyflogaeth, addysg, iechyd a thai.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Rwy'n croesawu cyhoeddiad yr adroddiad hwnnw a'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru hyd yn hyn. Fel y gwyddoch, roedd hi'n ddiwrnod y Lluoedd Arfog ddydd Sadwrn ac roedd cymunedau ledled y DU ac, yn wir, ledled Cymru a oedd yn dathlu ac yn coffáu cyfraniad y lluoedd arfog i'r genedl. A dydd Llun yr wythnos diwethaf, cynhaliais ddigwyddiad i goffáu a nodi milwyr wrth gefn yng nghymuned y lluoedd arfog, y mae llawer ohonyn nhw yn gweithio yn Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus. Roeddwn i'n falch iawn bod Gweinidog y lluoedd arfog Llywodraeth Cymru yn bresennol yn y digwyddiad hwnnw.
A wnewch chi ymuno â mi i goffáu a diolch i wŷr a gwragedd y lluoedd arfog yma yng Nghymru am y cyfraniad y maen nhw'n ei wneud, ac a allwch chi ddweud wrthym ni a oes unrhyw gynnydd pellach wedi ei wneud gan eich Llywodraeth o ran hyrwyddo'r cyfleoedd y gall bod yn rhan o'r lluoedd arfog wrth gefn eu cynnig i'w cyflogwyr, a hefyd a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am eich ystyriaeth o gynllun sicrhau cyfweliad i gyn-filwyr yn y dyfodol?
Diolchaf i'r Aelod am y pwyntiau pwysig yna. Diolchaf iddo am ei gydnabyddiaeth o'r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd ac am y diddordeb parhaus y mae bob amser yn ei gymryd yn y materion hyn. Wrth gwrs, Llywydd, rwy'n cydnabod y cyfraniad y mae milwyr wrth gefn yn ei wneud i'n lluoedd arfog. Bydd llawer ohonom ni'n adnabod pobl sy'n cymryd rhan yn y lluoedd wrth gefn. Mae gen i, yn fy swyddfa fy hun, rywun y rhoddir amser iddo i fynd i helpu yn y ffordd y maen nhw'n ei wneud. Felly, mae'n dda iawn gweld y digwyddiad a gynhaliwyd yn y fan yma—rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi ei chynrychioli ynddo, ac yn falch iawn o ychwanegu fy niolch i'r bobl hynny sy'n rhoi o'u hamser a'u hymrwymiad i fod yn filwyr wrth gefn i'r lluoedd arfog.
O ran y cynllun sicrhau cyfweliad, a gwn fod yr Aelod wedi codi hyn gyda mi rai wythnosau yn ôl, bydd yn falch, rwy'n gwybod, o glywed bod nifer o awdurdodau lleol yng Nghymru—Casnewydd a Thorfaen, er enghraifft—eisoes wedi cyflwyno cynllun sicrhau cyfweliad. Rwy'n disgwyl cael cyngor cyfreithiol a chyngor arall ar y mater hwn cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn, o ganlyniad i'r sgwrs a gawsom yn y fan yma rai wythnosau yn ôl. Cyn gynted ag y byddaf wedi cael cyfle i ystyried y cyngor hwnnw, ac os oes unrhyw gamau pellach y gallwn ni eu cymryd i'r cyfeiriad hwnnw, byddaf yn gwneud yn siŵr fy mod i'n ysgrifennu at yr Aelod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddo am y materion hynny.
Prif Weinidog, er fy mod i'n cymeradwyo ymrwymiad eich Llywodraeth i gyfamod y lluoedd arfog, mae Cymru'n dal i siomi ei chyn-filwyr. Gwrthodwyd mynediad i un o'm hetholwyr i ganolfan adsefydlu yn Lloegr sydd wedi ei chynllunio'n benodol i ymdrin â cholli braich neu goes, ynghyd â'i anhwylder straen wedi trawma, yn ystod gwasanaeth gweithredol. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi sicrhau bod ein cyn-filwyr yn cael y driniaeth orau sydd ar gael—ni waeth ym mha le y darperir y gwasanaeth yn y DU—sy'n diwallu eu hanghenion orau? Diolch.
Wel, Llywydd, dyna'n union y byddem ni'n disgwyl iddo ddigwydd, ond clinigwyr sy'n gwneud y penderfyniadau hyn, nid gwleidyddion, ac mae'n iawn bod clinigwyr yn rhoi'r cyngor hwnnw i unigolion o ran ble, yn union fel y dywedodd Caroline Jones, y gall unigolion gael y driniaeth orau ar gyfer eu hanghenion. Nid wyf i, wrth gwrs, yn ymwybodol o fanylion yr achos unigol, ond rwy'n gwbl sicr bod y penderfyniadau, a ddylai fod yn unol â'r polisi a amlinellwyd, yn cael eu gwneud gan bobl sydd â'r arbenigedd clinigol angenrheidiol i ddarparu'r cyngor cywir i gleifion, o ble bynnag y daw'r cleifion hynny a beth bynnag fo'u cefndir.