Ansawdd Rheolaeth y GIG

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 2 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 2:21, 2 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei ateb, ond a yw'n cydnabod bod pryder eang ynghylch capasiti rhai adrannau o reolaeth y GIG yng Nghymru i ymdrin yn effeithiol, yn enwedig o ran ymdrin â chwynion a phryderon a chyda chwythu'r chwiban? Ac a yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod angen arnom ni nawr, yn ogystal â'r ddeddfwriaeth y mae wedi sôn amdani, gyfres o gymwyseddau craidd sy'n seiliedig ar werthoedd cenedlaethol ar gyfer ein rheolwyr yn y GIG yng Nghymru, ac y dylai fod angen i'r rheolwyr hynny fod ar gofrestr genedlaethol, lle mae'n rhaid iddyn nhw brofi eu bod yn dal i fod yn gymwys, yn union fel y mae ein meddygon a'n nyrsys yn ei wneud, er mwyn osgoi sefyllfa lle gall pobl symud o gwmpas y system? Pan eu bod nhw wedi methu mewn un man, gallan nhw ymddangos yn rhywle arall. Rydym ni'n gwybod bod hynny'n digwydd.