1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 2 Gorffennaf 2019.
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ansawdd rheolaeth y GIG? OAQ54188
Bydd y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) yn cefnogi dull system gyfan o sicrhau ansawdd yn y GIG, a bydd yn ofynnol i reolwyr y GIG sicrhau diwylliant o fod yn agored ac yn onest, a chynnwys y cyhoedd yn well ac yn barhaus yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol integredig.
Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei ateb, ond a yw'n cydnabod bod pryder eang ynghylch capasiti rhai adrannau o reolaeth y GIG yng Nghymru i ymdrin yn effeithiol, yn enwedig o ran ymdrin â chwynion a phryderon a chyda chwythu'r chwiban? Ac a yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod angen arnom ni nawr, yn ogystal â'r ddeddfwriaeth y mae wedi sôn amdani, gyfres o gymwyseddau craidd sy'n seiliedig ar werthoedd cenedlaethol ar gyfer ein rheolwyr yn y GIG yng Nghymru, ac y dylai fod angen i'r rheolwyr hynny fod ar gofrestr genedlaethol, lle mae'n rhaid iddyn nhw brofi eu bod yn dal i fod yn gymwys, yn union fel y mae ein meddygon a'n nyrsys yn ei wneud, er mwyn osgoi sefyllfa lle gall pobl symud o gwmpas y system? Pan eu bod nhw wedi methu mewn un man, gallan nhw ymddangos yn rhywle arall. Rydym ni'n gwybod bod hynny'n digwydd.
Diolchaf i'r Aelod am hynna ac edrychaf ymlaen at ei chlywed yn cyflwyno'n fwy manwl ei syniadau yn y maes hwn yfory. Mae'n faes pwysig i'w drafod, a chredaf y bydd yfory'n gyfraniad gwerthfawr i hynny. Bydd cyfres, fel y mae hi'n gwybod, rwy'n siŵr, o gwestiynau cymhleth a fydd y tu ôl i'r penawdau: yr angen i allu diffinio'r hyn yr ydym ni'n ei olygu wrth ddweud 'rheolwr' mewn termau deddfwriaethol, i ddysgu o rai o'r profiadau yr ydym ni wedi eu cael yn y sector gofal cymdeithasol , lle'r ydym ni wedi cael fframweithiau rheoleiddio yn cystadlu â'i gilydd, er enghraifft, ar gyfer rheolwyr cartrefi gofal sydd hefyd wedi eu cofrestru fel nyrsys. O dan ba un o'r ddwy system y maen nhw'n gweithredu oddi tanynt y dylid eu dwyn i gyfrif? Sut, mewn gweithlu rheoli y byddech chi'n gwahaniaethu, er enghraifft, rhwng rhywun sydd â chyfrifoldebau am y gweithlu a rhywun sy'n gyfrifol am reoli cyllideb corff iechyd? Felly, rwy'n credu bod hon yn ddadl bwysig, ond rwy'n credu ei bod yn ddadl gymhleth hefyd, ac edrychaf ymlaen at glywed yr hyn y bydd yr Aelod yn ei ddweud yfory. Yn y cyfamser, bydd y Bil y bydd y Llywodraeth yn ei gyflwyno, rwy'n credu, yn gwneud cyfraniad sylweddol at y materion cyffredinol y dechreuodd Helen Mary Jones ei chwestiwn â nhw, a bydd hynny hefyd yn destun craffu drwy'r Cynulliad ac yn ddi-au yn cael ei wella o ganlyniad i hynny.
Mae fy nghyd-Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru wedi gwneud rhai pwyntiau da iawn, ond nid yw eu gadael ar gyfer dadl yfory, i gnoi cil arnynt dros yr ychydig fisoedd nesaf, yr ychydig flynyddoedd nesaf, yn cyrraedd hanfod yr argyfwng presennol sydd gennym ni, yn fy marn i.
Prif Weinidog, rydych chi'n gwybod cystal â minnau bod gennym ni nifer o fyrddau iechyd sydd mewn cyflwr truenus. Mae gennym ni ddiffyg gwaed ffres, mae gennym ni'r un tîm yn mynd o gwmpas, gyda chadeiryddion yn cael eu hailbenodi i fyrddau iechyd newydd sydd wedi bod mewn bodolaeth mewn byrddau iechyd sydd eisoes mewn trafferthion. Mae gennym ni brif weithredwyr, mae gennym ni dimau rheoli cyfan, mae gennym ni Weinidog iechyd y mae gennych chi ffydd ynddo yn llwyr ac rydych chi'n dweud nag ef yw'r broblem. Wel, os nad chi, eich Llywodraeth, eich Gweinidog iechyd, gweddill eich cyd-Weinidogion yn y Cabinet sy'n gyfrifol am y broblem gyda'n GIG, yna siawns mai uwch reolwyr y GIG sy'n gyfrifol, gan y telir yr arian mawr iddyn nhw i ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen ar ein cleifion, a thelir yr arian mawr iddyn nhw i fod yn atebol.
Yr hyn yr hoffwn i ei ddeall, drwy'r cwestiwn hwn, yw pa fesurau atebolrwydd ac ansawdd sydd ar waith ar hyn o bryd, nid beth allai ddod yn ddiweddarach ymhen misoedd a blynyddoedd i ddod, ond nawr, heddiw, fel ein bod ni'n gwybod bod gennym ni'r tîm gorau yn gweithio ar y mater. Oherwydd pan edrychwch chi ar y bagiau post sydd gan bob un ohonom ni'n dod drwy ein drysau, nid ydym yn gweld y dystiolaeth ar y rheng flaen.
Wel, Llywydd, dyma GIG Cymru, a oedd, ddiwedd mis Mawrth, ar ddiwedd y cylch blynyddol o adrodd, â'r amseroedd aros isaf ers 2013, llai o bobl yn aros mwy na 26 wythnos nag yn ystod y pum mlynedd diwethaf, gwasanaeth iechyd lle mae 30 y cant yn fwy o bobl yn cael eu trin o fewn amseroedd aros ar gyfer canser nag yr oedden nhw bum mlynedd yn ôl, a lle mae cyfraddau goroesi yn well nag erioed o'r blaen ar ôl blwyddyn a phum mlynedd, gwasanaeth iechyd lle'r oedd achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal, yn 2017 a 2018, y ddwy flynedd isaf ers i'r ffigurau hynny gael eu casglu erioed. Dyma'r gwasanaeth iechyd y mae'r Aelod yn dymuno ei ddisgrifio fel un sydd mewn cyflwr enbyd. Nid yw'n wir o gwbl. Yn syml, nid yw'n adlewyrchu cyflwr y gwasanaeth y mae miliynau o bobl yn ei gael gan GIG Cymru o'r naill flwyddyn i'r llall. Nid yw ei ddychanu yn y ffordd y mae'r Aelod yn ei wneud yn gwneud dim i sicrhau—[Torri ar draws.]—dim i sicrhau'r gwelliannau y byddem ni a hithau yn dymuno eu gweld. Ac mae'r gwelliannau hynny yr wyf i wedi eu hamlinellu yn deillio'n rhannol o'r ymdrechion y mae rheolwyr y GIG, yn ogystal â chlinigwyr ac eraill, yn eu gwneud. Rydym ni eisiau system o atebolrwydd eglur ac rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod gennym ni system sy'n canolbwyntio ar ansawdd. Mae gennym ni un eisoes; rydym ni eisiau ei gwella ymhellach. Dyna pam yr ydym ni'n cyflwyno deddfwriaeth, ac mae angen i'r ddeddfwriaeth fod yn seiliedig ar ffeithiau'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, nid rhyw fath o ymgais gyffredinol i fychanu ei enw da, pan nad yw'r dystiolaeth ar gyfer hynny ar gael o gwbl.
Ac yn olaf, cwestiwn 8—Huw Irranca-Davies.