2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 2 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 2:38, 2 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ar droseddau casineb trawsryweddol yng Nghymru? Mae ffigurau a gafwyd gan y BBC o heddluoedd yng Nghymru yn dangos bod nifer y troseddau casineb trawsryweddol a gofnodwyd wedi mwy na dyblu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae'n bosib bod rhywfaint o'r cynnydd hwn o ganlyniad i dangofnodi yn y gorffennol a bod mwy o bobl bellach yn barod i ddod ymlaen i roi gwybod am eu profiadau, mae'r ffigurau hyn yn dangos yn glir bod camdriniaeth neu drais a gyfeirir at bobl ar sail trawsrywedd ar gynnydd. A gawn ni ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog ynghylch beth yn rhagor y gellir ei wneud i amddiffyn pobl drawsryweddol ac i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o faterion trawsryweddol yn y gymuned ehangach yng Nghymru, os gwelwch yn dda? Diolch.