Part of the debate – Senedd Cymru am 4:27 pm ar 2 Gorffennaf 2019.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o gael agor y ddadl hon heddiw. Ar 11 Mehefin, cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Cymreig ganfyddiadau ei ymchwiliad i ddatganoli'r doll teithwyr awyr i Gymru. Rydym yn croesawu'n llwyr argymhelliad unfrydol y Pwyllgor Materion Cymreig y dylid datganoli'r doll teithwyr awyr yn llawn i Gymru.
O'r cychwyn cyntaf, roedd y pwyllgor yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatganoli'r doll teithwyr awyr a bod Llywodraeth y DU wedi nodi'n glir ei hamharodrwydd i newid y trefniadau presennol. O ganlyniad, roedd yr ymchwiliad yn canolbwyntio'n naturiol ar ystyried y dadleuon o blaid ac yn erbyn datganoli'r doll. Amlygodd tystiolaeth ysgrifenedig Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd i'r pwyllgor gryfder y gefnogaeth ar draws y Siambr hon ac ar draws y sectorau busnes, twristiaeth ac awyrennau yng Nghymru ar gyfer datganoli'r doll, ac adlewyrchir y gefnogaeth hon hefyd yn y cynnig ar y cyd heddiw.
Mae datganoli'r doll teithwyr awyr wedi bod yn fater sydd wedi parhau dros amser maith ac yn bryder inni i gyd. Cafodd yr argymhelliad i ddatganoli'r doll i Gymru ei gynnwys yn adroddiad cyntaf comisiwn Holtham ar drefniadau ariannu i Gymru, a gyhoeddwyd 10 mlynedd yn ôl yr wythnos hon. Mae datganoli'r doll hefyd yn dal i fod yn unig argymhelliad sylweddol comisiwn Silk sydd eto i'w gyflawni gan Lywodraeth y DU. Ddegawd ar ôl Holtham, mae penderfyniadau ynghylch faint o dreth incwm y mae trethdalwyr Cymru yn ei thalu yn cael eu gwneud yma yng Nghymru, gyda phenderfyniadau ar gyfraddau'n cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn, a'r rheini wedyn yn cael eu cadarnhau gan y Cynulliad Cenedlaethol. Mae cyflwyno cyfraddau treth incwm i Gymru yn dilyn cyflwyno trethi newydd cyntaf Cymru ers dros 800 o flynyddoedd—treth trafodiadau tir a threth gwarediadau tirlenwi. Ynghyd â threthi lleol a gesglir gan awdurdodau lleol, sydd wedi'u datganoli ers 1999—y dreth gyngor ac ardrethi annomestig—mae trethi Cymru bellach yn codi tua £5 biliwn bob blwyddyn ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus. Ac eto, mae toll teithwyr awyr, gyda'r refeniw presennol a gynhyrchir yng Nghymru o lai na £10 miliwn y flwyddyn, yn dal i fod yn dreth a gadwyd yn ôl ac mae'n dal o fewn pŵer Llywodraeth y DU.
Mae anhyblygrwydd safbwynt Llywodraeth y DU ar ddatganoli toll teithwyr awyr yn cael ei ddwysáu ymhellach gan ei phenderfyniadau blaenorol i ddatganoli'r dreth i'r Alban a Gogledd Iwerddon. Nid oes unrhyw gyfiawnhad dros drin Cymru'n llai ffafriol a chroesawaf gydnabyddiaeth benodol y pwyllgor o'r annhegwch presennol yn y setliad datganoli. Ac mae hyn yn ymwneud â mater ehangach: wrth honni pa un a ddylid datganoli pŵer, rhinweddau datganoli ei hun a ddylai fod yn destun pryder i Lywodraeth y DU a'r Senedd, nid dyfarniadau damcaniaethol ynghylch unrhyw benderfyniadau polisi yn y dyfodol y byddai Gweinidogion Cymru efallai yn eu gwneud neu beidio. Mae'n amlwg i mi y byddai datganoli'r doll yn gwbl gyson â dull Llywodraeth y DU o ddatganoli trethi o fewn meysydd cymhwysedd datganoledig presennol, ac eto amlygodd tystiolaeth Llywodraeth y DU i'r ymchwiliad ei phryderon y byddai effaith sylweddol ar Faes Awyr Bryste pe bai Llywodraeth Cymru yn lleihau neu'n diddymu toll teithwyr awyr, er gwaethaf tystiolaeth i'r gwrthwyneb a adolygwyd yn annibynnol gan gymheiriaid.
Yn amlwg, nid yw hyn yn sail ddigonol na phriodol i gyfyngu ar ddatganoli pwerau i Gymru, a fyddai o fudd i'n dinasyddion. Wrth ddod i'w gasgliad, hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am barhau i ganolbwyntio ar y seiliau tystiolaethol a chyfansoddiadol dros ddatganoli'r doll teithwyr awyr i Gymru, yn hytrach nag asesiad cynamserol o benderfyniadau polisi posibl yn y dyfodol. Ac i fod yn glir, ni fu unrhyw newid yn safbwynt Llywodraeth Cymru.