7. Dadl ar Doll Teithwyr Awyr: Yr achos dros ddatganoli

– Senedd Cymru am 4:27 pm ar 2 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:27, 2 Gorffennaf 2019

Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar doll teithwyr awyr, yr achos dros ddatganoli, a dwi'n galw ar y Gweinidog Cyllid i wneud y cynnig—Rebecca Evans.

Cynnig NDM7107 Rebecca Evans, Darren Millar, Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig, Datganoli’r Doll Teithwyr Awyr i Gymru.

2. Yn croesawu argymhelliad unfrydol y Pwyllgor Materion Cymreig y dylai’r Doll Teithwyr Awyr gael ei datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

3. Yn nodi’r gefnogaeth drawsbleidiol gyson ar draws y Cynulliad i ddatganoli’r doll, gan gynnwys y safbwynt yng nghyfraniad y Pwyllgor Cyllid i adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ymateb i’r adroddiad drwy:

a) amlinellu cynigion i ddatganoli’r Doll Teithwyr Awyr i’r Cynulliad Cenedlaethol; a

b) datganoli’r Doll yn llawn erbyn 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 4:27, 2 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o gael agor y ddadl hon heddiw. Ar 11 Mehefin, cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Cymreig ganfyddiadau ei ymchwiliad i ddatganoli'r doll teithwyr awyr i Gymru. Rydym yn croesawu'n llwyr argymhelliad unfrydol y Pwyllgor Materion Cymreig y dylid datganoli'r doll teithwyr awyr yn llawn i Gymru.

O'r cychwyn cyntaf, roedd y pwyllgor yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatganoli'r doll teithwyr awyr a bod Llywodraeth y DU wedi nodi'n glir ei hamharodrwydd i newid y trefniadau presennol. O ganlyniad, roedd yr ymchwiliad yn canolbwyntio'n naturiol ar ystyried y dadleuon o blaid ac yn erbyn datganoli'r doll. Amlygodd tystiolaeth ysgrifenedig Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd i'r pwyllgor gryfder y gefnogaeth ar draws y Siambr hon ac ar draws y sectorau busnes, twristiaeth ac awyrennau yng Nghymru ar gyfer datganoli'r doll, ac adlewyrchir y gefnogaeth hon hefyd yn y cynnig ar y cyd heddiw.

Mae datganoli'r doll teithwyr awyr wedi bod yn fater sydd wedi parhau dros amser maith ac yn bryder inni i gyd. Cafodd yr argymhelliad i ddatganoli'r doll i Gymru ei gynnwys yn adroddiad cyntaf comisiwn Holtham ar drefniadau ariannu i Gymru, a gyhoeddwyd 10 mlynedd yn ôl yr wythnos hon. Mae datganoli'r doll hefyd yn dal i fod yn unig argymhelliad sylweddol comisiwn Silk sydd eto i'w gyflawni gan Lywodraeth y DU. Ddegawd ar ôl Holtham, mae penderfyniadau ynghylch faint o dreth incwm y mae trethdalwyr Cymru yn ei thalu yn cael eu gwneud yma yng Nghymru, gyda phenderfyniadau ar gyfraddau'n cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn, a'r rheini wedyn yn cael eu cadarnhau gan y Cynulliad Cenedlaethol. Mae cyflwyno cyfraddau treth incwm i Gymru yn dilyn cyflwyno trethi newydd cyntaf Cymru ers dros 800 o flynyddoedd—treth trafodiadau tir a threth gwarediadau tirlenwi. Ynghyd â threthi lleol a gesglir gan awdurdodau lleol, sydd wedi'u datganoli ers 1999—y dreth gyngor ac ardrethi annomestig—mae trethi Cymru bellach yn codi tua £5 biliwn bob blwyddyn ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus. Ac eto, mae toll teithwyr awyr, gyda'r refeniw presennol a gynhyrchir yng Nghymru o lai na £10 miliwn y flwyddyn, yn dal i fod yn dreth a gadwyd yn ôl ac mae'n dal o fewn pŵer Llywodraeth y DU.

Mae anhyblygrwydd safbwynt Llywodraeth y DU ar ddatganoli toll teithwyr awyr yn cael ei ddwysáu ymhellach gan ei phenderfyniadau blaenorol i ddatganoli'r dreth i'r Alban a Gogledd Iwerddon. Nid oes unrhyw gyfiawnhad dros drin Cymru'n llai ffafriol a chroesawaf gydnabyddiaeth benodol y pwyllgor o'r annhegwch presennol yn y setliad datganoli. Ac mae hyn yn ymwneud â mater ehangach: wrth honni pa un a ddylid datganoli pŵer, rhinweddau datganoli ei hun a ddylai fod yn destun pryder i Lywodraeth y DU a'r Senedd, nid dyfarniadau damcaniaethol ynghylch unrhyw benderfyniadau polisi yn y dyfodol y byddai Gweinidogion Cymru efallai yn eu gwneud neu beidio. Mae'n amlwg i mi y byddai datganoli'r doll yn gwbl gyson â dull Llywodraeth y DU o ddatganoli trethi o fewn meysydd cymhwysedd datganoledig presennol, ac eto amlygodd tystiolaeth Llywodraeth y DU i'r ymchwiliad ei phryderon y byddai effaith sylweddol ar Faes Awyr Bryste pe bai Llywodraeth Cymru yn lleihau neu'n diddymu toll teithwyr awyr, er gwaethaf tystiolaeth i'r gwrthwyneb a adolygwyd yn annibynnol gan gymheiriaid.

Yn amlwg, nid yw hyn yn sail ddigonol na phriodol i gyfyngu ar ddatganoli pwerau i Gymru, a fyddai o fudd i'n dinasyddion. Wrth ddod i'w gasgliad, hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am barhau i ganolbwyntio ar y seiliau tystiolaethol a chyfansoddiadol dros ddatganoli'r doll teithwyr awyr i Gymru, yn hytrach nag asesiad cynamserol o benderfyniadau polisi posibl yn y dyfodol. Ac i fod yn glir, ni fu unrhyw newid yn safbwynt Llywodraeth Cymru.

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 4:31, 2 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad?

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a yw'n bolisi gan Lywodraeth Cymru o hyd, a amlinellwyd gan y cyn-Brif Weinidog, pe bai'r pŵer yn cael ei ddatganoli, y byddech yn gostwng y doll teithwyr awyr i sero o faes awyr Caerdydd?

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour

(Cyfieithwyd)

Byddaf yn dod at safbwynt Llywodraeth Cymru cyn bo hir, a bwriadaf hefyd fynd i'r afael, ar ryw adeg yn ystod y ddadl, â'r materion sy'n ymwneud â'r amgylchedd, y gwn eu bod yn flaenllaw iawn ym mhob un o'n meddyliau ar hyn o bryd. Ond fel y dywedaf, nid yw safbwynt Llywodraeth Cymru wedi newid. Petai'n cael ei ddatganoli i Gymru, ein bwriad yw defnyddio'r doll teithwyr awyr i sicrhau'r twf gorau posibl i'r maes awyr ac i Gymru, gan weithio gyda'r dulliau eraill sydd ar gael i ni.

Mae tystiolaeth gref ynghylch y manteision economaidd sy'n deillio o ddatganoli'r doll teithwyr awyr. Mae gwella cysylltedd rhwng Cymru a gweddill y DU, a'r byd ehangach, yn elfen ganolog yn ein cynllun gweithredu economaidd. Byddai rheolaeth dros y dreth yn ein galluogi ni i wneud penderfyniadau yng Nghymru ar gyfer Cymru, gan greu cyfleoedd newydd ar gyfer masnach a thwristiaeth, a galluogi twf yn y sector hedfan a'r economi ehangach. Byddai'n rhoi inni'r pŵer i gyflwyno un o'r negeseuon pwysicaf wrth inni edrych ymlaen at yr adeg pan fydd y DU yn gadael yr UE: sef bod Cymru ar agor ar gyfer busnes. Ond wrth gwrs, dim ond ar ôl i ni gael y pwerau, ac yng nghyd-destun yr hyn sydd wedi'i ddatganoli a'r amgylchiadau ar adeg y datganoli y gellir gwneud unrhyw benderfyniadau polisi ar doll teithwyr awyr.

Byddai unrhyw gynigion ar gyfer y dreth yn destun ymgynghoriad llawn â busnesau a phobl Cymru, a byddent yn cael eu hasesu'n drwyadl i sicrhau cydymffurfiaeth lawn â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'n targedau datgarboneiddio statudol a'r cyllidebau carbon cysylltiedig sy'n ofynnol o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Felly, pwyswn ar Lywodraeth y DU i gydnabod y gefnogaeth drawsbleidiol gref a geir ar draws y Cynulliad hwn i ddatganoli'r doll teithwyr awyr, ac ymateb i argymhellion y pwyllgor seneddol wrth gytuno i ddatganoli'r doll teithwyr awyr yn llawn i Gymru heb ragor o oedi.

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 4:33, 2 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei sylwadau? Fel y gwnaethoch chi ddweud, mae cryn dipyn o gonsensws ar draws y Siambr hon ar gyfer datganoli'r doll hon, ac mae'n drafodaeth sydd wedi mynd ymlaen cyhyd ag y gallaf gofio imi fod yn y Siambr hon. Mae'n siŵr eich bod yn teimlo'r un peth. Mae'n amlwg ei fod wedi cael lle mwy blaenllaw ar yr agenda dros y misoedd a'r blynyddoedd diwethaf, gyda datganoli darnau eraill o'r jig-so treth yng Nghymru, a nawr gofynnir cwestiynau'n gynyddol ynghylch a allwn ni gael pwerau treth incwm yma ac a allwn ni gael treth stamp a'r holl ystod o drethi eraill, yna pam rhwystro hwn, os gallaf ei roi fel yna.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn fodlon cyd-gyflwyno'r cynnig hwn gyda'r Gweinidog. A gaf i groesawu'r ysbryd yr ydych chi wedi dod â'r ddadl gerbron ynddo? Mae hyn, yn ei hanfod, yn ymwneud â chadw'r sylw ar ddatganoli'r doll, yn bennaf oll. Ie, wrth gwrs, er mwyn eu codi, eu gostwng, neu eu cadw yn y canol yn rhywle y byddwch yn datganoli trethi, ond wrth gwrs daw hynny ar ôl cael y pwerau hynny yn y lle cyntaf. Felly, os nad yw'r pŵer gennym ni eto, yna mae'r dadleuon hynny'n llai perthnasol. Credaf fod adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig yn ddeunydd darllen diddorol iawn, ac mae'n amlwg ei bod yn hen bryd datganoli'r doll teithwyr awyr. Credaf ei bod hi'n braf ac yn ddiddorol gweld pwyllgor seneddol o ben arall y M4, fel y'i disgrifiwn ef yn aml, wel, yn gyntaf oll yn ymdrin â mater fel hwn, sydd mor berthnasol i'n trafodaethau yn y Siambr hon, ond sydd hefyd yn croesawu datganoli'r doll hon, bron iawn yn frwdfrydig, er gyda rhybuddion o ran rhai o'r problemau a allai godi yn sgil hynny.

Fel y dywedais, byddai'r doll teithwyr awyr yn gorwedd yn daclus yn y jig-so o drethi sydd wedi'u datganoli—treth incwm, treth gwarediadau tirlenwi, treth stamp. Mae hwn yn fater o gydraddoldeb, mi gredaf. Mae gan yr Alban y pŵer hwn, fel y gwyddom, mae'r doll wedi'i datganoli i Ogledd Iwerddon, felly mae wedi dod yn fwyfwy anodd gweld pam na all y doll gael ei datganoli i Gymru yn yr un modd. Wrth gwrs, mae dadleuon yn erbyn ei datganoli, ac mae rhai ohonyn nhw'n simsan, mae eraill yn werth eu hystyried. Maen nhw'n gyfarwydd iawn. Rydym yn dal i glywed am y bygythiad i Faes Awyr Bryste; sy'n codi dro ar ôl tro pan fyddwn yn cael y trafodaethau hyn. Credaf fod y bygythiad yn cael ei orbwysleisio, yn ôl pob tebyg, o gofio bod meysydd awyr rhanbarthol ledled y DU a Maes Awyr Caerdydd yn gwasanaethu poblogaethau gwahanol, yn bennaf. Rwy'n gwybod bod pobl yn teithio pellteroedd gweddol faith i fynd ar deithiau hedfan o feysydd awyr, ond ni allaf weld pam y byddai Maes Awyr Bryste'n teimlo dan gymaint o fygythiad. A beth bynnag, nid wyf yn credu y dylai hynny rwystro'r hyn sy'n sylfaenol yn benderfyniad gwleidyddol, athronyddol—sut bynnag yr ydych eisiau ei fynegi; cyfansoddiadol—ar gyfer y lle hwn, a'r angen i Gymru gael y pŵer hwn.

Dadl arall sydd wedi'i defnyddio yn erbyn datganoli'r doll teithwyr awyr yw'r ffaith nad yw'r diwydiant hedfan yn cael ei drethu digon, ac nad yw tanwydd awyrennau yn destun treth, ac nad yw treth ar werth yn cael ei gosod ar docynnau yn yr un ffordd. Mae'n ddigon posibl bod hynny'n wir, ond eto, ni allaf weld pam fod honno'n ddadl o blaid neu yn erbyn datganoli'r doll. Mater i'r Cynulliad hwn fyddai penderfynu beth sy'n berthnasol i Gymru ac economi Cymru a theithiau awyr yma, a dyma ble y dylai'r pŵer fod.

Soniodd fy nghyd-Aelod Andrew R.T. Davies yn gynharach am yr argyfwng yn yr hinsawdd, ac mae hynny'n rhywbeth y mae angen ei ystyried. Roedd yn codi yn nhrafodaethau'r Pwyllgor Cyllid. Yn amlwg, bu llawer o ganolbwyntio ar deithiau awyr yn ddiweddar, ynghylch y rhan sydd ganddo yn hyn o beth, ac mae'n amlwg yn cyfrannu'n sylweddol at yr ôl-troed carbon, felly credaf fod angen i unigolion a llywodraethau fod yn ymwybodol o hynny. Byddwn yn dweud, fel y dywedais o'r blaen, fodd bynnag, nad yw hyn o reidrwydd yn ddadl yn erbyn ei datganoli—mae'r penderfyniadau i'w gwneud yn y fan yma. Byddwn i hefyd yn dweud nad wyf i wir yn ei weld fel—. Nid wyf yn credu bod pobl yn sydyn yn mynd i neidio ar awyren pan na fydden nhw wedi neidio arni cyn hynny. Rwy'n credu y bydden nhw'n fwy tebygol o fynd i—. Efallai y byddai'n gwneud gwahaniaeth bach iawn. Byddan nhw'n mynd i faes awyr Caerdydd yn hytrach na rhywle arall, boed hynny dros y ffin i Luton neu Heathrow neu le bynnag y bo. Ond yn bennaf oll, mae'n rhaid i'r maes awyr hwnnw fod yn llwyddiannus er mwyn wynebu'r penderfyniadau hynny nes ymlaen.

Felly, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn fwy na pharod i gefnogi'r cynnig hwn—yn wir, cyd-gyflwyno'r cynnig hwn ynghyd â phleidiau eraill yma—a gobeithiaf y gallwn ni o'r diwedd gael y maen hwn i'r wal unwaith ac am byth a chael y lefel bwysig hon o drethiant wedi'i datganoli i Gymru.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:38, 2 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Rwyf hefyd yn falch iawn o fod wedi gallu cyflwyno'r cynnig hwn ar y cyd â'r Llywodraeth Lafur a'r Blaid Geidwadol. Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro byd dros ddatganoli'r doll teithwyr awyr i Gymru, ac mae'n braf gweld yn awr, o'r diwedd, fod yna gonsensws yn cynyddu yma—yn sicr hefyd y consensws a welsom ni'n cael ei  adlewyrchu yn yr adroddiad gan Bwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig Tŷ'r Cyffredin. Mae'n 10 mlynedd ers i adroddiad Holtham gynnig bod hwn yn fesur synhwyrol. Byddai hyn, fel y clywsom eisoes, yn un o'r cynigion mawr olaf i ddeddfu arno o Gomisiwn Silk, felly mae'r adeg yn iawn, ac mae'n annealladwy, mewn sawl ffordd, pam mae rhwystrau'n dal i gael eu rhoi i atal datganoli. Credaf fod Stephen Crabb, pan oedd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi dweud bod gormod o ansicrwydd a phryderon ynghylch y doll teithwyr awyr i gael penderfyniad drwy'r Prif Weinidog ar y pryd, David Cameron, a'r Canghellor. Ie, ansicrwydd a phryderon—nid am Gymru, fe ymddengys. 

Unwaith eto, mae wedi bod yn ddirgelwch llwyr gweld Ysgrifennydd Gwladol Cymru—a Maes Awyr Caerdydd yn ei etholaeth—yn ôl pob golwg yn brwydro dros Faes Awyr Bryste, ac yn sgil hynny'n cael y teitl Ysgrifennydd Gwladol Gorllewin Lloegr. Ac rydym ni wedi clywed digon o dystiolaeth i ddweud na fyddai hyn yn golygu rhoi Bryste dan anfantais—ac nid oes tystiolaeth gref i awgrymu y byddai Bryste dan anfantais—ond y byddai, mewn gwirionedd, yn fanteisiol i Gaerdydd. A dyna sydd o ddiddordeb i ni yma. Ac nid Maes Awyr Caerdydd yn unig, ond Maes Awyr Môn yn fy etholaeth i. Dylem ni fod yn edrych ar hyn yn ei gyfanrwydd.

Mae pryderon amgylcheddol amlwg ynghylch dyfodol teithiau awyr yn gyffredinol. Cafwyd digon o adroddiadau sy'n awgrymu y byddwn yn dal i weld cynnydd enfawr mewn teithio awyr yn fyd-eang—llawer ohono wedi'i ysgogi gan dwf yn Asia. Ond roeddwn yn darllen adroddiad heddiw yn dweud y bydd newidiadau ym mhatrymau teithio awyr na fyddant o reidrwydd yn cynyddu nifer y teithwyr, ond y byddai'n ymwneud â'r ffyrdd mwy craff y bydd pobl yn defnyddio teithiau awyr fel dull o deithio, pryd bydd y rhwydweithiau prif ganolfan a lloerennau yr ydym ni wedi arfer â nhw, a thwf y prif feysydd awyr—Heathrows y byd hwn—, os nad yn ildio'n llwyr, yn gweld symudiad tuag at fwy o deithio o fan penodol i fan penodol gydag awyrennau hediad pellter hir o faint llai, mwy effeithlon yn gallu gwneud y siwrneiau o ddinas i ddinas benodol, a rhanbarth i ranbarth penodol, gan gynnwys, wrth gwrs, Caerdydd a Chymru, a'r manteision a all ddeillio o hynny.

Felly, rwy'n falch ein bod yn cyflwyno hyn ar y cyd. Ni ddylem ni orfod gwneud hyn. Mewn sefyllfa lle mae'r Alban eisoes wedi gweld y doll teithwyr awyr wedi'i ddatganoli, pan fo Gogledd Iwerddon wedi gweld y doll teithwyr awyr wedi'i ddatganoli, ymddengys i mi fod y rhwystrau yno i atal Cymru mewn rhyw ffordd rhag ennill y math hwnnw o fantais a allai ddod yn sgil datganoli rhywbeth sydd yn sicr, rwy'n credu, yn ysbryd datganoli a'r modd y bydd datganoli yn ei gyfanrwydd yn datblygu, a chynnig sydd wedi cael ei wneud nawr mewn nifer o adroddiadau uchel eu parch, o Silk yn ôl i Holtham. Felly, gadewch inni heddiw wneud y datganiad hwnnw ein bod yn credu ei bod hi nid yn unig yr amser priodol, ond ei bod hi'n hen bryd inni gymryd y cam hwn. Mae o fudd inni wrth inni chwilio am ffyrdd o fireinio economi Cymru. Nid yw'n ymwneud â cheisio rhoi pobl eraill dan anfantais.

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative 4:43, 2 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Mae'n bleser cael siarad yn y ddadl hon ac rwyf wrth fy modd yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig. Fe'i darllenais ar yr adeg yr ymddangosodd. Roeddwn yn credu ei fod yn adroddiad da. Mae'n gymharol fyr; ni fyddwn i'n ei ddisgrifio fel adroddiad cynhwysfawr. Roedd fy asesiad ychydig yn wahanol i un y Gweinidog yn yr ystyr na welais fod ei bwyslais yn arbennig ar yr ochr gyfansoddiadol ac nad oedd yn edrych ar hyn mewn rhyw fath o ffordd niwtral megis 'a ddylid ei datganoli?' yn hytrach na 'beth fyddai'r effaith pe bai—?'. Roedd ei sylwedd, o leiaf o ran newid safbwynt yn San Steffan ar sail drawsbleidiol, yn ymddangos fel pe bai'n ymwneud â'r dystiolaeth am Faes Awyr Bryste. A chredaf eu bod wedi dod i'r casgliad eithaf pendant y byddai'r effaith ar Faes Awyr Bryste yn eithaf bach, hyd yn oed pe baem ni'n dileu'r doll teithwyr awyr neu'n ei lleihau'n sylweddol, ac yn wir, nid yw'n sail ddigonol ar gyfer penderfynu a ddylid datganoli'r dreth hon yma pan fo wedi'i datganoli i'r Alban a Gogledd Iwerddon.

O ran pwyntiau 2 a 3 a'r cyfeiriadau at y consensws trawsbleidiol, a gwthio hyn ymlaen gyda phwynt 4, mae fy ngrŵp wedi trafod hyn ac wedi myfyrio arno. Roeddwn yn ddiolchgar iawn i'r Gweinidog, mewn gwirionedd, ddoe, am ateb fy nghwestiynau mewn galwad ffôn ac am amlinellu ychydig mwy o ran safbwynt Llywodraeth Cymru, a'i gonestrwydd yn hynny, ac roeddwn yn gwerthfawrogi hynny. Credaf y cafwyd newid pwyslais o effaith torri neu gael gwared ar y dreth i effaith amrywio'r dreth, ond deallaf safbwynt y Gweinidog, fel y mynegwyd gynnau, y byddai'n hoffi petai San Steffan yn edrych ar bob treth a dadl dros ddatganoli o safbwynt rhinweddau datganoli, yn hytrach na rhinweddau penodol polisi arfaethedig, o gofio y byddai'n cael ei datganoli er mwyn inni benderfynu beth ddylai'r polisi hwnnw fod yn y fan yma. 

Serch hynny, credaf ei bod hi'n haws asesu rhagoriaethau polisi lle mae bwriad cadarn o ran pa gyfeiriad y dylai ei ddilyn. Fy nealltwriaeth o hyd yw y byddai Llywodraeth Cymru yn ceisio ei lleihau os nad ei diddymu ac y byddai'r budd posibl i Faes Awyr Caerdydd yn rhywbeth y dylem ei ystyried yn briodol. Ac wrth gwrs mae Llywodraeth Cymru yn berchen ar Faes Awyr Caerdydd, felly pe bai'n dod yn faes awyr mwy poblogaidd ac yn fenter fusnes well, byddai rhywfaint o'r budd yn sgil hynny yn mynd i'r trethdalwr, naill ai drwy fwy o ddifidendau neu drwy lai o arian net yn mynd iddo yn y dyfodol, neu yn wir drwy werthu cyfran leiafrifol pe bai'r Llywodraeth fyth yn gwneud hynny. Felly dyna rywbeth i'w ystyried.

Roeddwn yn llai argyhoeddedig ynghylch y dadleuon a gyflwynwyd gan Nick Ramsay fod hyn yn fater o gydraddoldeb â'r Alban, ac felly dylem wneud hyn. Mae gan yr Alban lawer mwy o bwerau mewn llawer o feysydd nag sydd gennym ni yma. Ni fyddwn i'n dadlau dros gydraddoldeb ar sail un o'r rheini, a doeddwn i ddim yn ymwybodol ei fod e'n gwneud hynny chwaith, o leiaf nid yn gyffredinol. Mae gan yr Alban y pŵer i amrywio'r cyfraddau ac nid dim ond y cyfraddau ond trothwyon treth incwm. Mae pobl yn yr Alban yn talu llawer mwy o dreth yn rhan ganol uwch a rhan uwch y dosbarthiad incwm oherwydd nad yw'r trothwy wedi'i godi fel y mae yn Lloegr ac yn wir yng Nghymru ar gyfer y gyfradd 40c. Gwnaf, fe wnaf dderbyn ymyriad.

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 4:46, 2 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i egluro hynny. Rydych chi wedi dechrau dadlau nawr am dreth incwm ac mae hynny'n dreth eithaf gwahanol i'r doll teithwyr awyr. Rwy'n credu o ran treth megis toll teithwyr awyr, mae'n amlwg bod manteision o ddatganoli hynny i Gymru. Yn achos y dreth honno, rwy'n credu bod dadl dros gydraddoldeb, ond nid oeddwn yn dweud y dylai fod cydraddoldeb i bopeth yn gyffredinol, neu fe fyddem ni'n newid yn aruthrol y—

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch o gael yr eglurhad. Rwy'n siŵr y byddai ei etholwyr yn gwerthfawrogi hynny hefyd. Yn sicr yn well cynnig na phe bai Boris Johnson yn dod a chodi'r trothwy i £80,000 a phetai hynny ddim yn digwydd iddyn nhw, efallai yr hoffent ddwyn eu Haelod i gyfrif am hynny. Ond rwy'n credu ei fod yn nodi gwahaniaethau pwysig ynghylch trethi. Rydym ni'n amheus ynghylch datganoli mwy fyth o drethi i Gymru—

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 4:47, 2 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Beth sydd gan Boris Johnson i wneud â hyn?

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative

(Cyfieithwyd)

Mae wedi cynnig codi'r trothwy treth incwm a grybwyllais i—

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative

(Cyfieithwyd)

Nid ydym ni'n sôn am dreth incwm. Rydym ni'n sôn am y doll teithwyr awyr.

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch eich bod wedi egluro nad ydych chi'n siarad am hynny, oherwydd ni fyddai wedi bod yn boblogaidd ymhlith eich etholwyr. Ond y ffaith yw—[Torri ar draws.] Dyna ddigon, Nick, diolch. [Torri ar draws.] Nick, a allwn ni symud ymlaen? Diolch.

Treth fach yw'r dreth hon. Dim ond £10 miliwn. Fe'i hargymhellwyd, fel y nodwyd, gan gomisiwn Silk. Er gwaethaf ein hamheuaeth tuag at ddatganoli parhaus o fwy a mwy o drethi sydd dim ond yn mynd i un cyfeiriad, tuag at yr amcan a gefnogwyd gan Blaid Cymru ar fy ochr chwith, gyda'r bwlch cyllidol o £13 miliwn y dywedwyd wrthym ni amdano'n gynharach, nid wyf yn credu ei fod yn syniad da i gael hyd yn oed mwy o ymreolaeth gyllidol ac yna annibyniaeth. Fodd bynnag, roedd y maes hwn yng nghomisiwn Silk. Nid ydym ni eisiau ymladd yn erbyn rhywbeth yr oedd cymaint o gonsensws yn ei gylch mor bell yn ôl. Rwy'n credu y byddai'n fanteisiol i Faes Awyr Caerdydd pe bai'r dreth hon yn cael ei gostwng. A dyna sut rwy'n dal i weld y bydd pethau'n datblygu. 

Credaf ei bod hi'n anodd iawn gwneud hynny o fewn cyd-destun y gyllideb garbon, oherwydd pe baem ni'n lleihau'r doll teithwyr awyr yma a bod hynny'n arwain at fwy o bobl yn hedfan o'r fan hon a fyddai fel arall wedi mynd i Fryste, a phetai hynny yn cyfrif yn ein herbyn a hynny heb ystyried y gostyngiad ym Mryste, yna efallai na fyddwn yn gwneud yr hyn a fyddai'n benderfyniad cywir o ran carbon deuocsid ar gyfer y DU gyfan. Ond yn gyffredinol, credaf fod yr achos wedi'i gyflwyno dros ddatganoli'r dreth hon. Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig yn ei gefnogi ar draws y pleidiau, a chredaf y dylem ei gefnogi ar draws y pleidiau yn y Cynulliad hwn hefyd.

Photo of Michelle Brown Michelle Brown Independent 4:48, 2 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf, hoffwn ddweud fy mod yn cefnogi datganoli'r doll teithwyr awyr, ond rwy'n wyliadwrus ynghylch yr hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud â hi. Nid yw Llafur yn hoffi dim mwy na gwario arian pobl eraill ac maen nhw'n credu eu bod nhw'n gwybod yn well ynghylch sut i wario arian pobl eraill nag y mae'r bobl eu hunain. Yn ddiweddar, clywsom, dros y ffin, fod eneidiau hoff cytûn Llafur Cymru a ffrindiau mynwesol ideolegol yn y Blaid Lafur yn San Steffan yn bwriadu trethu'r rhoddion y mae rhieni'n eu rhoi i'w plant drwy dreth roddion newydd oes gyfan. Dyma enghraifft arall eto fyth o'r Blaid Lafur sy'n gweithio ar yr egwyddor, os gellir trethu rhywbeth, yna mae'n rhaid ei drethu, beth bynnag yw'r canlyniadau.

Wrth gwrs, bydd datganoli'r doll teithwyr awyr i Gymru yn gyfle i Gymru leihau'r dreth er budd teuluoedd sy'n defnyddio meysydd awyr Cymru, ond nid oes unrhyw reswm dros amau, o gael y cyfle, na fydd Llafur Cymru yn dilyn arweiniad eu harwyr yn San Steffan ac yn ei gynyddu unwaith y bydd ganddyn nhw reolaeth drosto, neu'n creu trethi newydd sbon os oes ganddyn nhw'r pwerau i wneud hynny. Nid wyf yn clywed unrhyw warant gan Lywodraeth Cymru, petai'r dreth yn cael ei datganoli, na fydden nhw'n ceisio ei defnyddio fel peiriant arian parod. Efallai yn y ddadl hon y byddant yn fodlon rhoi'r warant honno i deuluoedd a busnesau a fyddai'n defnyddio meysydd awyr Cymru. Er, rwy'n amau hynny.

Yr hyn sy'n sicr o fod yn syndod i unrhyw un sy'n credu bod Llafur yn sefyll dros y rhai ar gyflog isel yw eu bod hyd yn oed eisiau bod yn gyfrifol am dreth atchweliadol fel toll teithwyr awyr yn y lle cyntaf. Mae'n gorfodi teulu ar gyflog isel sydd wedi treulio blwyddyn neu fwy yn cynilo ar gyfer gwyliau i dalu'r un faint o dreth â theulu mwy cefnog sy'n gallu mynd ar wyliau ar yr esgus lleiaf. Mae'n anwybyddu incwm neu'r gallu i dalu yn llwyr ac yn fwriadol. Felly, sut y mae plaid sy'n dweud ei bod hi ar ochr teuluoedd sy'n cael trafferthion eisiau'r cyfrifoldeb am dreth atchweliadol ar wyliau haeddiannol i'r rhai sy'n gweithio'r oriau hiraf yng Nghymru? Wel, oherwydd bod y Llywodraeth Lafur hon yn cefnogi trethi atchweliadol eraill pan fydd yn gyfleus iddyn nhw a'u syniadaeth wleidyddol, wrth gwrs. Edrychwch ar TAW.

Er nad yw wedi'i ddatganoli eto, mae'r Llywodraeth Lafur hon yn ceisio ein twyllo eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i drechu tlodi mislif, gan ddweud ar yr un pryd y dylem gadw ein haelodaeth o'r UE, sy'n ein hatal rhag dileu TAW ar dyweli mislif a thamponau, oherwydd bod yr UE yn eu hystyried yn eitemau moethus. Nawr, mae'n un peth dweud eich bod yn barod i drethu'r rhai ar gyflog isel yr un faint â'r rhai cyfoethog iawn am wyliau tramor, ond siawns nad yw'n anfoesol dweud y byddwch yn parhau i godi tâl ar fam sengl am dyweli mislif neu damponau hanfodol. Mae'r un peth yn wir am yr hyn a elwir yn 'dreth fraster'.

Gadewch i ni fod yn realistig: mae'n annhebygol y bydd Llafur eisiau i doll teithwyr awyr gael ei datganoli fel y gallant ei gostwng neu ei dileu. Maen nhw eisiau iddi gael ei datganoli er mwyn iddyn nhw allu ei chodi a'i defnyddio fel y mynnant. Bydd hyd yn oed y ddealltwriaeth syml o economeg sydd gan y Blaid Lafur yn dweud wrthyn nhw y byddai ei chynyddu'n ormodol yn golygu y byddai pobl yn dewis teithiau hedfan sy'n mynd a dod o feysydd awyr cyfagos yn Lloegr, megis Bryste yn lle Caerdydd.  

Photo of Michelle Brown Michelle Brown Independent

(Cyfieithwyd)

Na. Gadewch inni fwrw ymlaen, Mark. Mae'n ddrwg gennyf.

Mae bod eisiau rheoli'r dreth atchweliadol hon, ond yn gwbl groes i hynny eisiau aros mewn UE sy'n gosod trethi nad oes gan Lywodraeth Cymru reolaeth drostynt gan allu dim ond tynnu llewys eu cyfeillion honedig yn yr UE i geisio dylanwadu ar benderfyniadau, yn dangos fod neges y Llywodraeth Lafur hon, hyd yn oed pan ddaw hi i deuluoedd incwm isel, yn glir ac yn groyw: eu bod yn gwybod yn well na'r bobl sut y dylid gwario eu harian haeddiannol.

Daw hyn â mi at fy mhwynt olaf: yn ystod cyfnod y Llywodraeth hon mae rhannau o GIG Cymru yn methu â chynnal eu hunain, nid yw llythrennedd na rhifedd yn wych o bell ffordd yn ôl y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr, ac mae'r economi wedi bod yn aros yn ei hunfan. Felly mae'n syndod bod Llywodraeth Cymru, ar yr adeg benodol hon, yn gweld yn dda i dreulio ei hamser a'i sylw yn gwneud cais am ragor o bwerau o San Steffan. Yn wir, pe bai Llafur yn treulio cymaint o amser yn ceisio datrys problemau Cymru ag y maen nhw'n ei dreulio'n pendroni ynghylch pa bwerau newydd y dylent eu cael, pa ffyrdd newydd y gallant eu llunio i fynd ag arian oddi ar bobl i ariannu eu hoff brosiectau, a gwneud eu gorau i rwystro Brexit, byddai Cymru mewn cyflwr llawer gwell. Diolch.

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 4:52, 2 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon heddiw, oherwydd bod datganoli'r doll teithwyr awyr yn rhywbeth yr wyf wedi bod yn ei hyrwyddo'n gryf ers amser maith, ac ni allaf weld bod dadl resymegol pam na ddylai'r doll teithwyr awyr gael ei datganoli i'r sefydliad hwn. A dweud y gwir, roeddwn yn ymdrin â'r pwynt hwn yn y trafodaethau ar Silk ar ran y grŵp Ceidwadol yma, a phan oedd yr arweinwyr i gyd yn eistedd o gwmpas y bwrdd negodi'n siarad am dreth incwm a siarad am fesurau eraill, mae'n amlwg bu hon yn un o'r trethi y buom yn siarad amdani.

Rwyf yn cydymdeimlo â'r pwynt a gyflwynwyd—credaf i Rhun ei gyflwyno—am sylwadau Stephen Crabb ryw bedair blynedd yn ôl erbyn hyn, oherwydd bu trafodaeth ynghylch ei roi i'r Alban hefyd ar y pryd, a'r meysydd awyr gogleddol hefyd, a sut y byddai'n effeithio arnyn nhw, ac mae'n ymddangos ei bod wedi goresgyn y ddadl honno dros ei throsglwyddo i'r Alban. Nid ein problem ni yw'r hyn sy'n digwydd ym Mryste. Mae Bryste yn weithrediad masnachol, ac ymddengys bod ganddyn nhw fodel lwyddiannus iawn, a bod yn deg â nhw, gydag 8 miliwn o deithwyr yn ei defnyddio. Os yw rhywun yn ceisio defnyddio Bryste fel dadl dros beidio â throsglwyddo'r doll, sydd wedi digwydd yn fy marn i, nid wyf yn gweld y dylai honno fod yn ddadl resymol yn y ddadl hon, a bod yn onest â chi. Mae hyn yn ymwneud â—[torri ar draws.] Ie.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:53, 2 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Yn gyflym iawn—a diolch am ildio—a oes gennych chi unrhyw syniad beth sy'n cymell yr Aelod dros Faes Awyr Caerdydd i gyfeirio at broblemau i Fryste fel rheswm dros beidio â datganoli'r dreth i Gymru?

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 4:52, 2 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n siŵr ei bod hi'n haws i chi gael gafael ar yr Aelod dros Faes Awyr Caerdydd nag y mae hi i mi y dyddiau hyn. [Chwerthin.] Felly, gadawaf i chi ofyn y cwestiwn hwnnw, ac efallai y byddwch yn gwrando ar yr ateb.

Ond, yn gyffredinol, mae hwn yn arf a all ddod i ddwylo'r Cynulliad hwn ac o ganlyniad, i Lywodraeth Cymru, a all greu cyfleoedd. Yn bersonol, hoffwn weld yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog, ei fod yn dod yn realiti ac yn cael ei dileu. Nid wyf yn celu hynny, oherwydd dyna a ddywedodd y Prif Weinidog: pe bai'n dod i Lywodraeth Cymru, byddent yn sicr yn ceisio cael gwared arni. Byddai'n costio tua £1 miliwn i hediadau pellter hir, ac rwy'n sylweddoli mai'r ffigur y soniwyd amdano yw £10 miliwn i gyd. Mae'n werth myfyrio ar argymhelliad comisiwn Silk sef ei fod yn ymwneud â hediadau pellter hir ac nid teithiau awyr byr. A dyna oedd argymhelliad comisiwn Silk. Felly mae gwahaniaeth yn hynny o beth, felly byddwn yn awgrymu y byddai'r golled gymedrol o incwm treth y gallai Llywodraeth Cymru ei hwynebu pe bai'n cael gwared â hi ar gyfer hediadau pellter hir, pe bai'r pŵer hwnnw'n dod iddi, byddwn yn dweud y byddai hynny'n cael ei luosi sawl gwaith drosodd gan y cynnydd yn nifer y teithwyr a fyddai'n dod i Gaerdydd, yn enwedig teithwyr rhyngwladol, a'r gwariant a fyddai'n digwydd yn economi Cymru.

Yn ddiddorol, wrth inni fwrw ymlaen, pe bai'n cael ei datganoli yn ei chyfanrwydd ar deithiau byr hefyd—mae llawer o sôn am beiriannau trydan a datblygu peiriannau trydan ar deithiau awyr byr yn arbennig—dewis y Llywodraeth fyddai hynny, pwy bynnag sy'n rheoli'r pŵer hwnnw ar y pryd, pa un a fyddech yn awyddus i gymell y dechnoleg honno ar gyfer teithiau awyr byr neu beidio. Credaf fod honno'n ddadl ac yn drafodaeth ddiddorol, oherwydd mae hi yn deg nodi bod goblygiadau amgylcheddol i bobl sy'n hedfan—rwyf yn derbyn hynny—ond a minnau'n un sy'n credu bod hedfan yn fudd economaidd ac yn cysylltu pobl â chymunedau ar hyd a lled y byd, hoffwn weld hedfan yn dod mor rhad â phosibl, nid mor ddrud â phosibl. Rwy'n ei weld fel arf grymuso yn sicr.

Ond gresynaf yn arw nad ydym ni wedi gweithredu argymhelliad comisiwn Silk ac, yn wir, argymhelliad comisiwn Holtham 10 mlynedd yn ôl, ac rwyf yn ei ailadrodd ac mae'n werth ei ailadrodd: nid oes dadl resymegol i rwystro datganoli'r doll teithwyr awyr i'r Cynulliad Cenedlaethol. Gallaf ddadlau gyda Llywodraeth Lafur Cymru—fel y gwnaf wythnos ar ôl wythnos—am rai o'r penderfyniadau polisi y maen nhw wedi'u gwneud, ond mae'n cael ei alw'n ddemocratiaeth, ac mae pobl yn bwrw eu pleidlais yn unol â hynny ac maen nhw naill ai'n cymeradwyo'r gwleidyddion i wneud y penderfyniadau hynny neu beidio. Felly, nid yw dweud nad ydym ni'n ymddiried yn y penderfyniadau polisi sy'n mynd i gael eu gwneud, yn rheswm digon da a digon cadarn i atal y dreth hon rhag cael ei datganoli.

Felly, mae'n olygfa braf gobeithio—nid wyf wedi gweld y botymau'n cael eu gwasgu yma heno—ond erbyn diwedd y noson gobeithio y cawn ni bleidlais fawr i gefnogi'r cynnig sydd ger ein bron heno. Ac rwy'n gobeithio, gyda'r newid arweinyddiaeth yn y Blaid Geidwadol a'r Prif Weinidog newydd yn San Steffan, y bydd y busnes anorffenedig penodol hwn yn cael ei symbylu o'r newydd, ac ni fydd hi'n rhy hir cyn i'r erfyn economaidd hwnnw gael ei drosglwyddo yma i Gymru, ac yna gallwn gael y drafodaeth go iawn ar y polisi. Ond fel y dywedais, yn amlwg rwyf eisiau cefnogi'r rhan fwyaf o'r hyn y dadleuodd Prif Weinidog blaenorol Cymru yn gynhwysfawr iawn y dylai gael ei ddefnyddio er mwyn gostwng toll teithwyr awyr, fel bod pobl yn cael gwell dewisiadau a chyfleoedd i hedfan allan o Faes Awyr Caerdydd.

Ond eto, hoffwn gael eglurhad, gan fy mod yn clywed yr hyn y mae'r Gweinidog Cyllid wedi'i ddweud, sef ar y naill law mae'r ddadl amgylcheddol, ar y llaw arall mae'r ddadl economaidd, a dywedwch fod yn rhaid i'r profion hyn gael eu rhoi gerbron comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, y ddeddfwriaeth a'r gweddill—Deddf cenedlaethau'r dyfodol. Gallwch wneud hynny nawr fel y gellir deall yr achos a'r ddadl a'r polisi a chael cefnogaeth ehangach y tu allan i'r Siambr hon. Ac, fel y dywedais, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn sicr roedd cyn Brif Weinidog Cymru yn glir iawn ei fod eisiau cael gwared ar y doll teithwyr awyr, yn enwedig ar hediadau pellter hir. Byddwn yn ddiolchgar pe baech chi, wrth grynhoi, yn ymrwymo i'r polisi penodol hwnnw a oedd yn bolisi gan Lywodraeth Cymru o dan Brif Weinidog blaenorol Cymru, a hoffwn ddeall a fydd y Llywodraeth bresennol hon yn parhau â'r polisi hwnnw.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 4:58, 2 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Yn wir, mae'n braf nodi'r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, oherwydd nid oes amheuaeth, petai'r doll teithwyr awyr yn cael ei datganoli, a bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r cyfle hwn i leihau neu yn well fyth, diddymu'r doll, fe fyddai'n rhyddhau gwir botensial Maes Awyr Caerdydd drwy wella gallu Llywodraeth Cymru i ddenu cwmnïau hedfan newydd yn sylweddol, a thrwy hynny o bosibl hwyluso cynnydd mawr yn nifer y teithwyr a fyddai'n defnyddio'r maes awyr.

Datganolwyd y dreth teithwyr awyr i Ogledd Iwerddon ar gyfer hediadau pellter hir uniongyrchol drwy Ddeddf Cyllid y DU 2012, tra bo Deddf yr Alban 2016 yn darparu ar gyfer datganoli'r doll yn llawn i'r Alban. Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau nad oes cyfiawnhad dros gael ein trin yn wahanol i'r Alban a Gogledd Iwerddon, ac rydym ni ar y fainc hon yn cefnogi'r safiad hwnnw'n llawn.

Y broblem i Gymru yw safbwynt y DU o ran gwarchod statws Maes Awyr Bryste. Nid yw'r ddadl hon yn dal dŵr mwyach, gan fod gweithrediadau Bryste wedi ehangu'n aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf, llawer mwy na rhai Caerdydd. Nid oes ond rhaid inni edrych dros Afon Hafren tuag at goridor yr M49 i weld yr effaith ehangach y gall defnydd estynedig o faes awyr ei gael ar yr economi. Mae cyfnewidfa gwbl newydd yn cael ei hadeiladu i greu mynediad i barc busnes mawr, y disgwylir iddo ddarparu miloedd o swyddi lleol. Fel y nodwyd yng nghynllun gweithredu economaidd Cymru, mae gwella cysylltedd Cymru â gweddill y DU ac yn rhyngwladol yn allweddol i ddatblygu economi Cymru.

Mor bell yn ôl â 2014, fel y cyfeiriodd Andrew R.T. Davies, argymhellodd adroddiad Silk hefyd y dylid datganoli'r doll teithwyr awyr ar gyfer hediadau pellter hir uniongyrchol i ddechrau. Ond er i Andrew R.T. Davies ddweud nad oedden nhw'n sôn am deithiau safonol, fe wnaethon nhw ddweud mewn gwirionedd:

dylai datganoli holl gyfraddau toll teithwyr awyr i Gymru fod yn rhan o waith Llywodraeth y DU ar drethi hedfan yn y dyfodol.

Nawr, o gofio bod adroddiad Silk wedi ei gyhoeddi bum mlynedd yn ôl, rwy'n credu ei bod hi bellach yn bryd cael datganoli llawn. Rydym ni yn y Blaid Brexit yn cymeradwyo'r argymhellion yn yr adroddiad yn llawn ac yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatganoli'r pwerau hyn cyn gynted ag y bo'n ymarferol. Ond mae'n rhaid i mi ddweud ein bod yn cefnogi'r doll hon ar y sail y bydd Llywodraeth Cymru yn ei defnyddio i'w diddymu neu ei lleihau'n sylweddol, oherwydd dyna fydd hyn yn ei wneud i economi Cymru, a dyna'r holl syniad dros ddatganoli hyn i Lywodraeth Cymru.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 5:01, 2 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Hoffwn gyfrannu'n fyr at y ddadl hon. Fel eraill, rwy'n croesawu'n fawr y cynnig y mae'r Llywodraeth a'r gwrthbleidiau wedi'i roi ger ein bron y prynhawn yma, ac rwy'n falch iawn o gymeradwyo a chefnogi hynny. Credaf y dylem ni hefyd groesawu gwaith y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig. Nawr, rwy'n derbyn bod gennyf rywfaint o ddiddordeb yn y mater hwn, ond mae'n un o offerynnau Tŷ’r Cyffredin a system San Steffan sydd wedi bod yn gyson gefnogol i waith y lle hwn ac sydd wedi cydnabod sut y mae arnom ni angen a sut y gallwn ni ddatblygu craffu a democratiaeth sefydliadol ar draws y Deyrnas Unedig.

Nawr, credaf y dylem ni fod yn datganoli'r dreth benodol hon oherwydd credaf y dylem ni sicrhau bod datganoli strwythurol yn cael ei gydlynu. Dydw i ddim yn un o'r bobl hyn sy'n credu y dylem ni ddatganoli unrhyw fater penodol oni bai fod rhywbeth yr ydym ni eisiau ei wneud yn arbennig gyda'r mater hwnnw yn wahanol i'r hyn a wneir yn Lloegr. Nid wyf erioed wedi bod yn un o'r datganolwyr hynny sydd eisiau diffinio'r hyn yr ydym ni yma yng Nghymru fel rhywbeth gwahanol i'r hyn a geir dros Glawdd Offa.

Credaf y dylem ni gael cydlyniad yn y setliad. Credaf fod y setliad, ar hyn o bryd, yn setliad diffygiol. Nid oes ond rhaid ichi wrando ar unrhyw ddadl am drafnidiaeth i weld hynny. Dyna ichi'r problemau sydd gennyf ynghylch y rheilffordd o Lynebwy i Gaerdydd, sy'n faterion sy'n cael eu hanwybyddu gan yr adran drafnidiaeth yn Lloegr, ac nid oes gan y Llywodraeth yn y fan hon ddigon o bwerau i fwrw ymlaen â materion fel y byddem yn dewis ei wneud. Mae problem strwythurol yn y fan yna o ran y setliad, a chredaf fod problem strwythurol yma o ran y setliad hefyd. Credaf, os byddai Llywodraeth Cymru—a Llywodraeth Cymru yw'r unig awdurdod sydd â'r gallu i reoli polisi trafnidiaeth yng Nghymru yn briodol, felly os yw am wneud hynny mewn modd cydlynol yna mae'n rhaid iddi gael y pwerau i gyflawni'r polisi hwnnw, beth bynnag yw'r polisi hwnnw. Ac mae toll teithwyr awyr yn rhan o hynny. Mae'n rhan o gyfres o bwerau gwahanol a ddylai fod ar gael i'r Llywodraeth i'w galluogi i gyflawni polisi cyfannol.

Felly, credaf y dylem ni gefnogi gwaith y pwyllgor dethol yn y mater hwn, a chredaf y dylem ni gefnogi barn hirsefydlog Llywodraeth Cymru bod hwn i'w ddatganoli yn rhan o fframwaith cyllidol ehangach, a fydd yn sefydlu perthynas ariannol wahanol iawn rhwng gwahanol sefydliadau'r Deyrnas Unedig. Rydym ni eisoes wedi gweld y ddadl hon yn cael ei chyflwyno'n gydlynol gan Silk a gan Holtham. Mae'r ddau wedi bod yn glir iawn iawn petaem yn ceisio datganoli materion trethiant yna dylem wneud hynny, nid yn dameidiog ond er mwyn cyflwyno setliad sefydlog pryd gall y Llywodraeth yn Lloegr ac yma yng Nghymru gyflawni eu polisi mewn ffordd gyfannol. Rydym ni eisoes wedi gweld y methiant hwn gyda'r system farnwrol, lle mae cyfiawnder troseddol eto'n cynrychioli rhan o setliad diffygiol.

Gobeithiaf y byddwn, wrth ddatrys y materion hyn, yn gallu cyrraedd sefyllfa pryd y bydd gennym ni setliad sefydlog a chydlynol cyn imi ymddeol neu cyn i fy etholwyr benderfynu ei bod yn bryd imi ymddeol. Gobeithiaf, wrth fwrw ymlaen â'r mater hwn, y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cymryd safbwynt mwy cyflawn ynghylch y materion hyn. Nid wyf i'n siŵr os ydw i'n rhannu optimistiaeth Andrew R.T. Davies a Nick Ramsay y bydd Prif Weinidog newydd y DU yn ddiweddarach eleni yn arwain at ganlyniad mor hapus, ond yr hyn yr wyf yn gobeithio y byddwn yn gallu ei wneud—ac mae cyn Brif Weinidog Cymru wedi siarad yn glir am hyn, mae Prif Weinidog newydd Cymru wedi siarad yn hynod o argyhoeddiadol am hyn hefyd—yw cyrraedd sefyllfa lle mae'r setliad yn gweithio ac nad y setliad bellach yw'r pwynt trafod, ond mai sut rydym ni'n gweithredu'r setliad a'r dewisiadau polisi sydd gennym fydd maes y drafodaeth, a dyna sut y dylai unrhyw ddemocratiaeth weithredu'n briodol. Felly, nid wyf eisiau dechrau dadl, ac rwy'n gobeithio na fyddwn yn cymylu'r ddadl y prynhawn yma gyda chwestiynau ynghylch sut y byddai'r Llywodraeth yn gweithredu'r trethiant hwn. Mae hynny'n fater ar gyfer maniffestos, etholiadau a dadleuon gwleidyddol yn y fan hon. Yr hyn y mae'r lle hwn yn gyfrifol am ei wneud—ac fe wnaethom ni fethu gyda phroses Deddf Cymru y tro diwethaf oherwydd y syrthni yn Whitehall wrth gyflawni setliad datganoledig sy'n ein galluogi i fwrw ymlaen â'r materion hyn. Rwy'n gobeithio nawr y byddwn ni, drwy'r adroddiad hwn ac adroddiadau eraill, yn gallu sicrhau bod gennym ni setliad datganoledig sy'n galluogi'r ddwy Lywodraeth i gyflawni eu polisi.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r holl Aelodau sydd wedi gwneud cyfraniadau diddorol a defnyddiol iawn yn ystod y ddadl heddiw. Fy ngobaith mewn gwirionedd yw y bydd Llywodraeth y DU yn rhoi'r gorau i ystyried datganoli'r doll teithwyr awyr fel rhywbeth i'w wrthsefyll, ond yn hytrach yn gweithio gyda ni i greu cyfleoedd nid yn unig ar gyfer economi Cymru ond hefyd ar gyfer de-orllewin Lloegr a'r DU gyfan, gan nad oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu y byddai datganoli'r doll teithwyr awyr yn rhoi maes awyr Bryste o dan anfantais mewn unrhyw ffordd ac roedd y Pwyllgor Materion Cymreig yn gwbl glir ynglŷn â hynny.

Er bod y manteision i Gymru yn glir, gallai datganoli'r doll i Gymru yn y pen draw helpu i leihau'r tagfeydd maes awyr yn ne-orllewin Lloegr, gan wneud defnydd mwy effeithlon o gapasiti presennol rhedfeydd a meysydd awyr ledled y DU. Mae ehangu capasiti meysydd awyr yn amlwg yn hanfodol ar gyfer ffyniant tymor hwy y DU.

Gan droi at rai o'r cyfraniadau penodol, roedd pryder, yn naturiol, ynghylch argyfwng yr hinsawdd, ac er mwyn mynd i'r afael ag argyfwng yr hinsawdd rydym ni wedi derbyn argymhelliad Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd sef gostyngiad o 95 y cant yng Nghymru ac rydym ni'n bwriadu deddfu i'r perwyl hwnnw. Mae hyn yn cynrychioli cyfraniad teg Cymru at ymrwymiad y DU o dan gytundeb Paris ac mae'n dangos ein hymrwymiad i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Ym mis Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru 'Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel', sy'n cynnwys proffiliau allyriadau manwl, fesul sector, a 100 o bolisïau a chynigion i sicrhau Cymru carbon isel. A bydd hyn yn ein harwain at ein targed allyriadau yn 2020 ac yn gosod y sylfaen ar gyfer mwy o ymdrechion yr ydym yn dechrau eu creu. Mae'n bwysig cydnabod, rwy'n credu, a rhoi'r mater yn ei gyd-destun, oherwydd bod y ffigurau diweddaraf, o 2016-17, yn amcangyfrif bod cyfanswm yr allyriadau sy'n deillio o hedfan cenedlaethol a rhyngwladol yng Nghymru yn 0.22 y cant o gyfanswm yr allyriadau yng Nghymru. Mae hefyd yn bwysig cydnabod bod gwaith ymchwil a wnaed yn annibynnol yn dangos y byddai arbedion carbon o ran allyriadau oherwydd y traffig ar y ffordd i Faes Awyr Bryste.

Rwy'n cydnabod bod llawer o ddiddordeb a brwdfrydedd o ran sut y gallai Llywodraeth Cymru geisio defnyddio'r pwerau hyn yn y dyfodol, ond yn ystod y ddadl hon ac yn ystod y trafodaethau yr ydym yn eu cael ar hyn, ac yn ystod y dystiolaeth yr oeddwn yn falch o'i rhoi i'r Pwyllgor Materion Cymreig, roeddwn yn gwbl glir ynghylch peidio â nodi'n union beth y byddem yn bwriadu ei wneud â hynny, oherwydd mae pwynt pwysig o egwyddor yn hyn o beth, a chredaf fod Alun Davies yn ei grynhoi'n berffaith, sef nad mater i Lywodraeth y DU yw penderfynu a yw'n datganoli pwerau i Gymru neu beidio drwy farnu ar sut y gellid defnyddio'r pwerau hynny ymhen amser. Dylai wneud y penderfyniad ynghylch a ddylid datganoli'r pwerau neu beidio yn ôl ei deilyngdod yn unig, a dyna pam nad wyf wedi rhoi llawer o fanylion am hynny yn y ddadl heddiw. Fodd bynnag, wrth gwrs, byddai'n destun ymgynghoriad llawn ag unigolion â diddordeb, gyda busnesau, gyda'r sector twristiaeth, ac, wrth gwrs, byddai cyd-Aelodau eisiau ddweud eu dweud.

O ran y gost, ni fyddai unrhyw gost i Lywodraeth y DU. Byddai arian Llywodraeth Cymru yn cael ei ostwng yn gyfatebol i addasiad i'r grant bloc i gyfrif am golli refeniw y DU. Mae hyn yn debygol o fod yn cyfateb yn y lle cyntaf i swm y refeniw toll teithwyr awyr a gynhyrchir yng Nghymru, ac mae'r amcangyfrifon diweddaraf gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar gyfer 2017-18 yn dangos bod refeniw toll teithwyr awyr yng Nghymru tua £9 miliwn. Felly, does dim gobaith o gwbl iddo fod y math o beiriant pres y mae Michelle wedi awgrymu y gallai fod. Mewn gwirionedd, mae ein diddordeb ni yma mewn gwirionedd yn ymwneud â rhyddhau potensial y maes awyr.

Ni fydd unrhyw gostau gweinyddol i deithwyr chwaith. Fel gyda'r system bresennol o doll teithwyr awyr, y mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn ei gweithredu, mae'n orfodol i gwmnïau awyrennau gyflwyno ffurflenni treth. O ran y gost i gwmnïau, yn eu tystiolaeth lafar i'r Pwyllgor Materion Cymreig, cadarnhaodd cwmnïau awyrennau, pe byddai costau gweinyddol ychwanegol yn deillio o ddatganoli, nad oedden nhw'n disgwyl i'r baich fod yn sylweddol nac yn barhaol, ac yn sicr ni fyddai'n eu rhwystro rhag defnyddio Maes Awyr Caerdydd.

Rwyf wedi croesawu'n fawr y gefnogaeth a'r consensws cryf a gawsom gan yr amryfal bleidiau yn ystod y ddadl hon, felly efallai y byddaf yn pwyso ar gyd-Aelodau am fwy o gefnogaeth drawsbleidiol ar fater cysylltiedig, a hynny yw, o ran cynllunio ar gyfer Prydain ar ôl Brexit, mae angen inni greu cyfleoedd i barhau a datblygu ein heconomi. Siaradodd Andrew R.T. Davies yn benodol am bwysigrwydd cysylltedd a rhan teithio awyr yn hynny. Gan fod 80 y cant o fasnach Cymru gyda marchnadoedd domestig y DU, mae gwella'r cysylltedd trafnidiaeth ledled y DU gyfan yn hanfodol bwysig i lwyddiant ein dyfodol, a dyna pam fod y llwybrau rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus hynny mor bwysig.

Yn rhan o'n gwaith cynllunio am fywyd ar ôl Brexit, fe wnaethom ni ddatblygu ac anfon ceisiadau cadarn yn seiliedig ar dystiolaeth at Lywodraeth y DU i'w cyflwyno i'r Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer rhwydwaith newydd o wasanaethau awyr rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus domestig, ond mae Llywodraeth y DU, yn anffodus, yn rhwystro'r ceisiadau hyn, heb ddarparu unrhyw resymeg wirioneddol heblaw ei bod wrthi'n datblygu strategaeth hedfan newydd 2050, and mae hynny'n debygol o gymryd dwy neu dair blynedd cyn iddi ddod yn rhan o gyfraith y DU.

Nawr, swyddogaeth Llywodraeth y DU o ran rhwymedigaethau gwasanaeth cyhoeddus yw bod yn gyfrwng i drosglwyddo ein ceisiadau i Ewrop; nid oes ganddi unrhyw swyddogaeth arall yn y broses. Felly, mae sefyllfa San Steffan drwy rwystro datblygiad y llwybrau newydd hyn, ac felly, yn fwy cyffredinol, datblygiad y sector hedfan yng Nghymru, yn hynod o rwystredig, yn enwedig o'i hystyried ochr yn ochr â'i phenderfyniad, er enghraifft, i beidio ag ariannu'r system eGates yng Nghaerdydd gan eu hariannu ar yr un pryd mewn meysydd awyr rhanbarthol yn Lloegr sy'n cystadlu â ni, ac, wrth gwrs, gwrthod yn barhaus i ddatganoli'r doll teithwyr awyr i Gymru pan fo hynny eisoes wedi'i wneud ar gyfer Gogledd Iwerddon a'r Alban. Felly, byddwn yn croesawu cefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer y rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus llwybrau awyr yr ydym ni wedi gofyn i Lywodraeth y DU eu datblygu ar ein rhan.

Ond i gloi, Llywydd, rwy'n ddiolchgar iawn, unwaith eto, i'm cyd-Aelodau am eu cyfraniadau ac i ddiolch ar goedd, unwaith eto, i'r Pwyllgor Materion Cymreig am ddarn o waith da a defnyddiol iawn. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:13, 2 Gorffennaf 2019

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:13, 2 Gorffennaf 2019

Mae hynny'n golygu nad oes yna unrhyw bledleisiau heddiw ac sydd yn dod â'n cyfnod trafod ni i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:13.