Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 2 Gorffennaf 2019.
Rwy'n falch o gael yr eglurhad. Rwy'n siŵr y byddai ei etholwyr yn gwerthfawrogi hynny hefyd. Yn sicr yn well cynnig na phe bai Boris Johnson yn dod a chodi'r trothwy i £80,000 a phetai hynny ddim yn digwydd iddyn nhw, efallai yr hoffent ddwyn eu Haelod i gyfrif am hynny. Ond rwy'n credu ei fod yn nodi gwahaniaethau pwysig ynghylch trethi. Rydym ni'n amheus ynghylch datganoli mwy fyth o drethi i Gymru—