1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru ar 3 Gorffennaf 2019.
2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ysgolion yn gallu darparu addysg addas i bawb? OAQ54178
Diolch, Leanne. Mae tegwch a chynhwysiant yn ganolog i'n cenhadaeth genedlaethol ar gyfer addysg. Bydd ein diwygiadau addysg yn sicrhau bod gan bob dysgwr fynediad at addysg o safon uchel ac yn hollbwysig, eu bod yn cyrraedd eu potensial llawn.
Yn ystod yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, mae llawer o bobl yn y Rhondda, sy'n poeni am y gefnogaeth, neu'r diffyg cefnogaeth, i'w plentyn ar y sbectrwm awtistiaeth, wedi cysylltu â mi. Rwyf wedi darganfod bod rhieni yn cael gwybod, pan fyddant yn gofyn am asesiad statudol ar gyfer datganiad anghenion addysgol arbennig, nad yw'r awdurdod lleol yn gwneud datganiadau mwyach. Mae hyn yn anghywir, a hyd at fis Medi 2020, pan fydd newidiadau'n dod i rym o dan y system anghenion dysgu ychwanegol newydd, mae hyn, yn fy marn i, yn fethiant i gyflawni eu dyletswyddau fel awdurdod lleol. A fyddech yn cytuno â hynny? A hoffwn wybod hefyd beth rydych yn ei wneud i sicrhau bod pob athro yng Nghymru yn cael hyfforddiant niwroamrywiaeth. Mae eich Llywodraeth wedi derbyn yr argymhelliad hwn gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn ystod y broses o graffu ar y Bil awtistiaeth. A allwch chi ddweud wrthym beth a wnaethoch i wireddu'r addewid hwn os gwelwch yn dda?
Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn bryderus iawn i glywed gennych am yr adroddiadau nad yw plant yn cael cyfle i gael asesiad statudol ar gyfer eu hanghenion dysgu ychwanegol. Fel y dywedwch yn hollol gywir, nid yw'r ddeddfwriaeth newydd, a basiwyd gan y Cynulliad hwn yn 2018, wedi dod i rym. Ar hyn o bryd, rydym yn ymgynghori ar y cod a'r is-ddeddfwriaeth a fydd yn sail i'r Ddeddf honno. A phe baech yn ddigon caredig i ysgrifennu ataf gyda rhai o fanylion yr achosion hyn, byddaf yn sicrhau fy mod i a fy swyddogion yn mynd ar drywydd y mater. Er mwyn cefnogi'r gwaith o weithredu'r ddeddfwriaeth newydd, gan ddisgwyl ei chyflwyno'n llawn yn 2020, fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi clustnodi gwerth £20 miliwn o adnoddau, a hynny'n bennaf i gefnogi anghenion dysgu proffesiynol athrawon, i sicrhau bod ganddynt sgiliau a gwybodaeth i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd y mae'r ddeddfwriaeth newydd honno'n eu cynnig i ni, cyfleoedd a fydd yn rhoi'r plentyn wrth wraidd ein cynlluniau ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, beth bynnag fydd yr anghenion dysgu ychwanegol hynny. Ond rwy'n bryderus nad yw plant yn cael yr asesiadau statudol y mae ganddynt hawl iddynt o dan y gyfraith bresennol, a buaswn yn hapus iawn i fynd ar drywydd hynny i chi.