Mercher, 3 Gorffennaf 2019
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Y cwestiynau cyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Addysg. Mae'r cwestiwn cyntaf [OAQ54160] wedi ei dynnu yn ôl. Ac felly, mae'r ail gwestiwn gan Leanne Wood.
2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ysgolion yn gallu darparu addysg addas i bawb? OAQ54178
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau i ddathlu 70 mlynedd ers addysg cyfrwng Cymraeg yn y Llynfi? OAQ54143
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Bethan Sayed.
4. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith awtomeiddio ar addysg yng Nghymru? OAQ54171
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am achrediadau cyflog byw yn y sector addysg yng Nghymru? OAQ54164
6. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i addysgu disgyblion am fanteision teithio llesol drwy'r system addysg? OAQ54176
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hawl i gael addysg cyfrwng Cymraeg? OAQ54155
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif gan Lywodraeth Cymru yn Sir Gaerfyrddin? OAQ54172
9. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi sefydliadau addysg uwch? OAQ54170
10. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi plant gydag anghenion dysgu ychwanegol i mewn i addysg ôl-16? OAQ54153
Y cwestiynau nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae'r cwestiwn cyntaf i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog, ac mae'r cwestiwn gan David Rowlands.
1. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r gweithdrefnau ar gyfer mabwysiadu gorfodol, yng ngoleuni'r cynnydd diweddar yn nifer yr achosion? OAQ54158
2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion diweddar i ategu gofal sylfaenol gyda chymorth gan fferyllfeydd? OAQ54167
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau, a llefarydd y Ceidwadwyr, Angela Burns.
4. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb iechyd yng Nghymru? OAQ54163
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau iechyd cymunedol? OAQ54184
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau i fynd i'r afael â chaethiwed i gamblo yng Nghymru? OAQ54152
8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran adeiladu Ysbyty Athrofaol y Grange? OAQ54161
9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer yr heintiau sy'n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau a gofnodwyd yn ystod y 12 mis diwethaf sydd ar gael? OAQ54185
Ni ddewiswyd unrhyw gwestiynau amserol.
Ac felly'r datganiadau 90 eiliad sydd nesaf, ac mae'r datganiad cyntaf gan Huw Irranca-Davies.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, a'r cynnig hwnnw ar reoli'r gwasanaeth iechyd, ac mae'r cynnig yn cael ei wneud gan Helen Mary Jones.
Cyn imi alw'r eitem nesaf ar yr agenda, bydd llawer ohonoch yn gwybod bod digwyddiad angheuol wedi bod ar ein rhwydwaith rheilffyrdd, yn cynnwys dau aelod o staff. Cytunais felly y bydd y Dirprwy...
Symudwn yn awr at y ddadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - 'Datblygu Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol' a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Russell George.
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: 'Bagloriaeth y Dyfodol: Statws cymhwyster Bagloriaeth Cymru' yw eitem 7 y prynhawn yma. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor, Lynne Neagle, i...
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
Rydym wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio yn awr. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, symudaf yn syth at y pleidleisio. O'r gorau. Diolch. Y bleidlais gyntaf y prynhawn yma...
Symudwn yn awr at y ddadl fer. Os oes Aelodau'n gadael y Siambr, a allwch wneud hynny'n gyflym? Rwy'n mynd i symud ymlaen i'r ddadl fer yn awr, a galwaf ar Jack Sargeant i siarad am y pwnc a...
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at addysg yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys dros y tair blynedd diwethaf?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia