Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 3 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 1:45, 3 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Weinidog, mae cyngor o ansawdd da ar yrfaoedd yn hanfodol i helpu myfyrwyr i gael mynediad at y swyddi a'r sgiliau sydd fwyaf cymwys ar eu cyfer. Ond mae rhai wedi mynegi pryderon am ansawdd ac argaeledd cyngor ar yrfaoedd, gan gyfeirio at brinder cynghorwyr gyrfaoedd hyfforddedig a diffyg gwybodaeth am brentisiaethau a hyfforddiant galwedigaethol gan staff ysgolion. Beth rydych chi'n ei wneud, Weinidog, i wella cyngor ar yrfaoedd yng Nghymru, os gwelwch yn dda?