Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 3 Gorffennaf 2019.
Weinidog, yn amlwg, mae awtomeiddio yn gyfle i ni. Mae'r ffigurau yn dangos y bydd hyd at 35 y cant o'r gweithlu'n gorfod ailhyfforddi, ac ailfodelu eu sgiliau ac yn wir, mae'n bosibl y gallai llawer o'r swyddi hynny ddiflannu'n gyfan gwbl. Felly, bydd y galwadau ar y sector addysg bellach yn benodol, a dysgwyr rhan-amser, yn sylweddol dros y deng mlynedd nesaf a rhagor. Pa ymdrechion y mae'r adran wedi'u gwneud i fodelu'r gwaith fel y gallant weithio gyda'r sector hyfforddi, yn enwedig y sector addysg bellach, i adeiladu capasiti, a lle bydd pobl angen cyfleoedd hyfforddi newydd, yn enwedig mewn gwaith, bydd y capasiti hwnnw ar gael, felly nid yn unig yn yr amgylchedd ysgol ond drwy'r diwylliant dysgu rydym eisiau ei ymgorffori yn ein cymdeithas?