Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 3 Gorffennaf 2019.
Wrth edrych ar record fwyaf diweddar Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn nhermau addysg cyfrwng Gymraeg, yn anffodus dydy'r stori ddim yn un positif. Mae'r cyngor wedi methu dros y blynyddoedd diwethaf i sicrhau bod addysg Gymraeg yn opsiwn realistig mewn nifer o gymunedau. Yn wir, mae rhai yn pryderu yn lleol fod problem sefydliadol o fewn yr awdurdod lleol lle mae'r Gymraeg yn y cwestiwn. Yn anffodus, mae hyd yn oed targedau Llywodraeth Cymru yn y ddogfen ymgynghori ddiweddaraf ar gynllun strategol y Gymraeg mewn addysg yn fy marn i yn llawer rhy isel—mae angen codi'r bar yn sylweddol. Ydych chi, felly, fel Gweinidog, yn cytuno bod y sefyllfa bresennol o gynnal dim ond pedair ysgol gynradd Gymraeg o fewn sir Pen-y-bont yn embaras llwyr?